Skip to content

Llafar - Datganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar Doriadau Gwariant Llywodraeth y DU

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Ddoe, bu Llywodraeth y DU yn gosod allan sut y bydd yn cyflawni ac yn dosbarthu’r gwerth £6.2 biliwn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn 2010-11. Ni ddarparwyd llawer o fanylion hyd yma, ac mae angen eglurder mewn rhai meysydd. Er hynny, dengys y ffigurau a ddarparwyd hyd yma gan y Trysorlys y bwriedir gwneud gwerth £187 miliwn o doriadau yng nghyllideb Cymru, er y caiff hyn ei wrthbwyso’n rhannol gan werth £24 miliwn o symiau canlyniadol cadarnhaol o wariant ychwanegol mewn rhai meysydd. Mae hyn yn gyfystyr ag oddeutu 1 y cant o gyfanswm ein cyllideb.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i gwneud yn glir y byddwn yn bartneriaid cyfrifol wrth gyfrannu at leihau’r diffyg dros y blynyddoedd nesaf. Bydd Cymru’n chwarae ei rhan yn yr addasiadau anodd y mae angen eu gwneud. Fodd bynnag, yr ydym hefyd wedi’i gwneud yn glir os gwneir toriadau i wariant cyhoeddus yn rhy gynnar bod perygl inni roi’r adferiad economaidd yn y fantol. Mae angen lleihau’r diffyg, ond dim ond mor gyflym ag sy’n bosibl heb fygwth yr adferiad a heb achosi niwed aruthrol i wasanaethau cyhoeddus.

 

Ers sefydlu Llywodraeth y Cynulliad, yr ydym wedi canolbwyntio ar sicrhau gwasanaethau effeithlon sy’n cyflawni er budd pobl Cymru yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Yr ydym wedi bod yn tynnu sylw at yr heriau economaidd sy’n ein hwynebu ac at bosibilrwydd cyllidebau llai ers tro, ac yr ydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i sicrhau ein bod wedi ein strwythuro i gyflawni mewn ffordd fwy effeithlon. Er mwyn cynnig dimensiwn ychwanegol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, yn gynharach eleni sefydlasom fwrdd effeithlonrwydd ac arloesi Cymru a gadeirir gennyf fi. Mae’n braf gweld bod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi ddoe ei fod yn dilyn ein hesiampl ac y bydd yn sefydlu grŵp tebyg. Mae’r bwrdd yn datblygu rhaglen genedlaethol i drawsnewid effeithlonrwydd gweithredol, er mwyn sbarduno arloesedd o ran y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynllunio a’u cyflwyno a hyrwyddo cydweithredu. Bydd hyn yn adeiladu ar ymagwedd Tîm Cymru a fabwysiadwyd gan yr uwchgynadleddau economaidd ac sydd wedi cynorthwyo Cymru drwy’r dirwasgiad. Dim ond drwy’r math hwn o ymagwedd arloesol a chydweithredol, y gallwn reoli’r blynyddoedd nesaf heb niweidio’r gwasanaethau cyhoeddus y mae cynifer o bobl yng Nghymru’n dibynnu arnynt.

 

Yr ydym wedi arwain y ffordd ar faterion eraill hefyd sy’n destun canmoliaeth y Canghellor yn awr. Er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yr ydym wedi dod â’n cyrff hyd braich mwy—ein cwangos—dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr ydym eisoes wedi gwneud newidiadau i sicrhau ein bod yn defnyddio ein swyddfeydd ledled Cymru yn y ffordd fwyaf cost-effeithlon drwy gydleoli â sefydliadau partner, fel y bo’n briodol. Hefyd, yr ydym eisoes wedi cymryd camau cadarn i gyfyngu recriwtio i’r gwasanaeth sifil ac i gwtogi holl elfennau gwariant gweinyddol, gan gynnwys lleihau costau ymgynghori, teithio a lwfansau. Yr wyf yn falch o weld bod Llywodraeth y DU yn dilyn ein harweiniad ar hyn yn awr. Fodd bynnag, mae’r rhain yn arbedion yr ydym eisoes yn eu gwneud yng Nghymru, ac nid yw’r cwmpas ar gyfer arbedion gweinyddol yng Nghymru’r un fath ag yn Lloegr. Mae hyn yn rhywbeth nad yw Llywodraeth newydd y DU wedi’i ystyried wrth benderfynu ar faint y toriadau a bennir inni.

 

Os ydym am amddiffyn gwasanaethau hyd eithaf ein gallu dros y blynyddoedd nesaf, a hynny gan ymdopi â llai o adnoddau ar yr un pryd, bydd angen inni baratoi’n ofalus. Rhaid i holl rannau gwasanaethau cyhoeddus Cymru weithio gyda’i gilydd i siapio ein hymateb. Er gwaethaf y toriadau a gyhoeddwyd ddoe, ni fydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhuthro i wneud gostyngiadau difeddwl a heb eu cynllunio mewn cyllidebau a allai niweidio gwasanaethau cyhoeddus a bygwth yr adferiad. Yn y flwyddyn hon, yr ydym eisoes yn rheoli cyllideb sydd wedi’i lleihau mewn termau real. Byddai tynnu 1 y cant ychwanegol—chwe mis ar ôl i’r Cynulliad gytuno ar y cyllidebau a chyda threfniadau darparu gwasanaethau yn mynd rhagddynt ledled Cymru ers tro—heb niweidio gwasanaethau, yn anodd dros ben. Mae’r Canghellor wedi cynnig y cyfle inni ohirio rhai o’r toriadau, neu’r holl doriadau, tan y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, cyn penderfynu ar ein dull gweithredu, mae arnom angen mwy o fanylion gan y Trysorlys. Mae arnom angen mwy o eglurder mewn tri maes.

 

Yn gyntaf, mae arnom angen gwybod beth yw rhaniad cyfalaf/refeniw’r toriadau. Mae’r Trysorlys wedi dweud y bydd yn rhaid aros hyd at bythefnos cyn y bydd ganddo ddigon o wybodaeth ynghylch ble y gwneir y toriadau yn Lloegr sy’n rhoi’r rhaniad hwn inni. Yn amlwg, mae gwybod ai mewn cyllidebau cyfalaf ynteu gyllidebau refeniw y mae angen gwneud gostyngiadau yn ffactor bwysig wrth benderfynu ar ein hymateb. Yn ail, mae angen inni sicrhau’r hyblygrwydd i drosglwyddo cynilion a wnaethpwyd eleni i’r flwyddyn nesaf drwy gyfrwng hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Os bydd y Trysorlys yn sicrhau mynediad at hyblygrwydd diwedd blwyddyn, bydd hynny’n gymorth inni gynllunio’n fwy effeithiol. Yn drydydd, mae arnom angen mwy o wybodaeth am faint y toriadau cyllideb yr ydym yn debygol o’u gweld yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn yr hydref. Os bydd y toriadau a wynebwn y flwyddyn nesaf yn fwy na’n rhagdybiaethau cynllunio cyfredol, mae’n bosibl na fydd gohirio’r toriad o £187 miliwn tan y flwyddyn nesaf yn syniad da.

 

Hefyd, yn ôl pob golwg, yr ydym wedi cael toriadau yn sgil cyllideb y Gemau Olympaidd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ni chafodd Cymru symiau canlyniadol o gyllideb y Gemau Olympaidd pan gafodd ei sefydlu yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf. Yn amlwg, ni ddylem wynebu toriadau cyllideb na chawsom yn y lle cyntaf. Caf drafodaeth gychwynnol ynghylch y rhain a materion eraill gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach yr wythnos hon, a chaf gyfarfod manylach ag ef yn Llundain ar 9 Mehefin er mwyn dadlau ein hachos.

 

Y mater allweddol arall y byddaf yn ei godi â’r Prif Ysgrifennydd yw system gyllido deg i Gymru. Yr oedd adroddiad cyntaf comisiwn Holtham a gomisiynwyd ym mis Gorffennaf 2009, a gafodd ei dderbyn yn unfrydol yn y Cynulliad yr hydref diwethaf, yn darparu tystiolaeth glir bod Cymru eisoes yn cael ei thanariannu o tua £300 miliwn bob blwyddyn, a bod y tanariannu cymharol yn cynyddu dros amser. Mae arbenigwyr cydnabyddedig eraill, yn ogystal â Gerry Holtham, wedi dweud nad yw fformiwla Barnett yn addas i’r diben. Mae’n annheg ar Gymru, a dylid ei disodli â fformiwla newydd sy’n seiliedig ar anghenion er mwyn sicrhau system gyllido decach. Bydd yn cymryd amser i ddiwygio fformiwla Barnett, ond fy ystyriaeth gyntaf yw sicrhau na fydd Cymru dan fwy o anfantais.

 

Gallai Llywodraeth y DU gymryd amryw o gamau llai yn awr i symud tuag at system gyllido decach i Gymru. Felly, parhaf i bwyso dros roi terfyn isaf ar waith ar unwaith i atal Cymru rhag cael ei thanariannu fwy nag y mae’n cael ei thanariannu ar hyn o bryd. Byddaf hefyd yn parhau i bwyso dros hyblygrwydd, er enghraifft, defnyddio hyblygrwydd diwedd blwyddyn, er mwyn ein galluogi i reoli ein materion ariannol yn effeithiol.

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i arddel ymagwedd gyfrifol at leihau’r diffyg dros y blynyddoedd nesaf. Bydd Cymru’n chwarae ei rhan, ac yn ystyried y ffordd fwyaf cyfrifol o wneud hynny. Bydd angen i ostyngiadau mewn cyllidebau gael eu cynllunio a’u rheoli’n briodol, ac mae angen cymryd camau i sicrhau system gyllido decach i Gymru.