Skip to content

Ysgrifenedig - Rhaglen arbed

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mae’n bleser mawr gennyf lansio arbed, Rhaglen Fuddsoddi Perfformiad Ynni Strategol Llywodraeth y Cynulliad.

 

Bydd y cynllun yn blaengar yn codi ac yn cydlynu buddsoddiad ym mherfformiad ynni cartrefi Cymru. Mae hon yn rhaglen drawsbynciol i sicrhau’r manteision amgylchedd, cymdeithasol ac economaidd gorau posibl i’r buddsoddiad hwn a helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru’n Un, sef mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, dileu tlodi tanwydd a hybu adfywio a datblygu economaidd yng Nghymru.

 

Heddiw, ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, rwy’n lansio prosiectau arbed gan 21 o ddarparwyr tai cymdeithasol yn Ardaloedd Adfywio Cymru. Bydd y prosiectau cymeradwy:

  • yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd, yn arbed carbon ac yn creu cyfleoedd busnes a chyflogaeth lleol;
  • yn gwella effeithlonrwydd ynni 6,000 o gartrefi aneffeithlon o ran ynni sy’n dioddef tlodi tanwydd / ar incwm isel ar draws deiliadaethau erbyn mis Mawrth 2011;
  • yn dangos gwerth am arian drwy godi cyllid o’r tu allan i arbed;
  • yn canolbwyntio ar rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru;
  • yn mabwysiadu dull ‘tŷ cyfan’, gan ariannu’r mesurau perfformiad ynni sydd fwyaf priodol i dai penodol;
  • yn sbarduno’r economi drwy roi contractau i gwmnïau lleol a chreu diwydiant effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru;
  • yn creu swyddi gwyrdd a chyfleoedd hyfforddi – mae cwmnïau sy’n gwneud cais llwyddiannus am waith o dan gontract i gyflogi’n lleol a chyflwyno 156 o ddiwrnodau hyfforddi am bob £1 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth;
  • yn galluogi contractwyr a busnesau bach a chanolig i ennill cymwysterau ychwanegol lle bo angen.

Mae Cymru’n arwain y ffordd yn y DU gyda’r cynllun arloesol hwn sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni. Ond mae’n wirioneddol gynaliadwy oherwydd byddwn yn lleihau costau tanwydd ac yn helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen o safbwynt tlodi tanwydd, ac yn gwneud hyfforddiant a chreu swyddi lleol yn rhan allweddol o’r cynlluniau.

 

Ar ddechrau’r Wythnos Cynaliadwyedd, mae hyn yn dangos sut gall Llywodraeth y Cynulliad gydlynu effeithlonrwydd ynni a gweithredu economaidd a chymdeithasol i gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

 

Rwy’n benderfynol o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac mae arbed yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gymryd camau ymarferol i helpu trigolion Cymru. Y newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf y mae’r byd yn ei hwynebu a bydd gwneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni yn lleihau ôl-troed carbon Cymru, gan fod defnydd ynni uniongyrchol ac anuniongyrchol gan adeiladau yn gyfrifol am oddeutu 40% o holl allyriadau carbon y DU. Bydd hefyd yn helpu Cymru i gyrraedd y targed o leihau ei hallyriadau o 3% o 2011 ymlaen. 

 

Bydd y darparwyr tai cymdeithasol canlynol yn darparu’r prosiectau:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Tai Cymdeithasol Bronafon
  • Cartrefi Conwy
  • Cartrefi Cymunedol Gwynedd
  • Cymdeithas Dai Charter
  • Coastal Housing Group
  • Cymdeithas Tai Eryri
  • Family Housing Association
  • Grŵp Gwalia
  • Linc Cymru
  • Cartrefi Melin
  • Cartrefi Cwm Merthyr
  • Cymdeithas Dai Newydd
  • Cymdeithas Dai Gogledd Cymru
  • Grŵp Tai Pennaf
  • Cartrefi RCT
  • Cymdeithas Dai y Rhondda
  • Cyngor Abertawe
  • Tai Unedig Cymru
  • Valleys to Coast Housing
  • Cymdeithas Dai Wales & West

Drwy’r cynllun cyffrous newydd hwn, y cyntaf o’i faint yn y DU, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n buddsoddi £30 miliwn mewn prosiectau arloesol i wella bywydau pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r darparwyr uchod, rydym yn gwella ansawdd tai ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ledled Cymru.