Skip to content

Llafar - Gyfnod Newydd Gweithgareddau Marchnata Croeso Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

A thymor ymwelwyr yr haf ar ein gwarthaf, tybiais y byddai’n briodol sôn am weithgareddau marchnata Croeso Cymru ar hyn o bryd. Cyn imi wneud hynny, a chyn i rai Aelodau wneud honiadau anghywir, yr wyf am ei gwneud yn glir mai’r un tîm, i raddau helaeth iawn, yw tîm marchnata Croeso Cymru â’r tîm a fu’n gweithio i’r hen Fwrdd Croeso. Ni chollwyd yr arbenigedd marchnata pan unwyd y Bwrdd Croeso, ac mae’r tîm yn dal i roi ymgyrchoedd marchnata creadigol ac effeithiol ar waith, gan gystadlu’n effeithiol â’r prif gyrchfannau sy’n cystadlu â ni. Mae’r arbenigedd marchnata hwnnw’n hollbwysig hefyd er mwyn denu cyfleoedd hyrwyddo llwyddiannus sy’n gysylltiedig â digwyddiadau o bwys megis Cwpan Ryder.

 

Y llynedd, yng nghanol cyfnod economaidd anodd, lansiodd Croeso Cymru’r ymgyrch Dadbacio Gwyliau, a oedd yn cynnwys y comedïwr o Gymru, Rhod Gilbert. Pan oedd yr ymgyrch yn ei hanterth yng ngwanwyn 2009, yr oedd 53 y cant o’r rhai a atebodd pan holwyd hwy yn y Deyrnas Unedig yn cofio iddynt weld yr ymgyrch ar y teledu. Mae enw Cymru fel cyrchfan yn dal yn llai adnabyddus na chyrchfannau eraill megis yr Alban, de-orllewin Lloegr ac Iwerddon. Felly, byddwn yn dibynnu’n drwm ar ymgyrchoedd llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth a chynyddu’r nifer sy’n ymweld â Chymru. Felly, yr wyf yn falch o ddweud bod ymgyrchoedd Croeso Cymru wedi llwyddo i dorri drwy ymgyrchoedd cyrchfannau sy’n cystadlu â ni mewn marchnad sy’n gystadleuol iawn.

 

Yn 2009, ein hymgyrch ni oedd yr un yr oedd pobl yn ei chofio fwyaf o blith ymgyrchoedd holl gyrchfannau’r Deyrnas Unedig. Trodd yr ymwybyddiaeth hon yn gamau cadarnhaol, gydag 18 y cant o’r rheini a oedd yn ymwybodol o’r ymgyrch wedi ceisio rhagor o wybodaeth gan Groeso Cymru neu’n uniongyrchol gan y diwydiant.

 

Ddoe, lansiwyd ein hymgyrch newydd, 'Gwyliau Go Iawn’. Seilir thema’r ymgyrch ar y syniad bod gennym farn gref ynglŷn â beth yw hanfod gwyliau go iawn; gwyddom fod ein hymwelwyr o’r un farn â ni, a gwyddom y gall Cymru ddarparu gwyliau sy’n driw i’w chymeriad, sy’n gofiadwy ac sy’n wahanol. Mae’r ymgyrch yn cyfleu’r neges bod Cymru’n fan lle y bydd pobl am ganolbwyntio ar eu hawydd am antur yn hytrach na chanolbwyntio ar eu lliw haul; mai lle i’w archwilio yw Cymru, yn hytrach na lle i’w anwybyddu oddi ar Lilo, a bod Cymru’n cynnig gwyliau go iawn.

 

Mae’r ymgyrch Gwyliau Go Iawn yn dangos pobl go iawn yn cael profiadau go iawn yng Nghymru. Mae’n cynnwys dwy seren; Cymru, wrth gwrs, a theulu’r Darkes o Huddersfield, a oedd yn wirioneddol siomedig ar ôl eu gwyliau tramor diwethaf. Mae’r ymgyrch yn dilyn y teulu ar eu gwyliau yng Nghymru, ac mae’n cynnwys dwy hysbyseb deledu 40 eiliad o hyd ac adran ryngweithiol ar wefan Croeso Cymru sy’n arwain at ffilm 10-munud.

 

Wrth ddatblygu’r ymgyrch, y bwriad oedd cyfleu gwir deimlad gwyliau yng Nghymru. Mae’n fath newydd o hysbysebu sy’n cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol i unrhyw ymgyrch gwyliau arall sydd ar waith ar hyn o bryd. Bydd yn gwbl wahanol i’r gystadleuaeth mewn marchnad orlawn. Fel rhan o lansio’r ymgyrch, bydd atodiad gwyliau 36 tudalen yn ymddangos yn The Times ar 22 Mai.

 

O ran Cwpan Ryder, mae Croeso Cymru wedi datblygu hysbyseb newydd am golff a ddangosir ar y teledu dros y misoedd hollbwysig sy’n arwain at Gwpan Ryder ym mis Hydref. Mae’n adeiladu ar yr holl waith y mae Llywodraeth y Cynulliad a phartneriaid eraill wedi bod yn ymwneud ag ef dros y 10 mlynedd diwethaf wrth baratoi ar gyfer Cwpan Ryder er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw i Gymru yn sgil y digwyddiad.

 

Mae twristiaeth golff wedi cynyddu o’r naill flwyddyn i’r llall er 2005. Daeth oddeutu 184,000 o ymwelwyr yma i chwarae golff yn 2009 gan gyfrannu cyfanswm o £34.7 miliwn at economi Cymru. Y llynedd, unwaith eto, a’r sefyllfa economaidd yn anodd, cynyddodd twristiaeth golff ddim llai na 18 y cant o’i chymharu â’r nifer yn 2008. Unwaith eto, mae’r hysbyseb newydd, a lansiwyd i gyfryngau golff yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, yn cynnwys pobl go iawn: grŵp o golffwyr yn cael profiadau go iawn wrth chwarae golff yng Nghymru. Credaf y gallwn weld yr hysbyseb, os yw’r dechnoleg yn gweithio.

 

Dyna’r hysbyseb, a bydd y rhai craffaf yn eich plith yn sylweddoli iddi gael ei saethu yng Nghlwb Golff Nefyn a’r Ardal ar benrhyn Llŷn, gan roi mwy o dystiolaeth eto fod Cwpan Ryder, a’r gwaith sydd wedi’i wneud yng nghyswllt hynny, yn dod â manteision i bob cwr o Gymru. Mae clybiau megis Nefyn, ynghyd â chlybiau megis y Royal St David’s, Aberdyfi a Chonwy i gyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr sy’n dod yno i chwarae golff. Caiff yr hysbyseb ei dangos mewn cystadlaethau golff o bwys drwy gydol yr haf ac yn ystod Cwpan Ryder ei hun. Mae’r ffordd y mae wedi’i datblygu’n sicrhau y gellir ei defnyddio at ddibenion hyrwyddo ar ôl i Gwpan Ryder ymadael â ni.

 

Y llynedd, efallai ichi gofio’r cyfraniad mawr a wnaeth ein tîm marchnata a’n tîm digwyddiadau mawr yn sicrhau bod prawf y Lludw’n gymaint o lwyddiant i Gaerdydd ac i Gymru. Ymddengys fod ymgyrch Wales Says G’Dai wedi canu cloch gyda’r cyfryngau a chyda chefnogwyr criced. Fi sy’n eu dweud nhw’n dda.

 

Yn awr, mae tîm Croeso Cymru yn datblygu syniadau brandio a marchnata ar gyfer Cwpan Ryder. Bydd ymgyrch Ein Cwpan Ryder Cyntaf yn tanio ysbryd pobl Cymru ac yn gymorth i greu gwir ymdeimlad o achlysur o gwmpas y digwyddiad. Bydd hefyd yn dangos sut mae manteision Cwpan Ryder wedi effeithio ar gynifer o bobl ym mhob cwr o Gymru. Bydd pobl sy’n ymweld â’r digwyddiad yn gweld negeseuon doniol o Gymru ar sawl pwynt ar hyd eu taith. Yn hydref 2010, ar gyfer ein hymwelwyr o America, defnyddir yr ymadrodd 'Wales Says Have a Nice Dai!’. Nid fi sy’n ysgrifennu’r deunydd hwn fy hun, fel y sylweddolwch mae’n siŵr.

 

Yn gynharach eleni, trafodwyd sut mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae ymgyrchoedd Croeso Cymru a digwyddiadau mawr megis y Lludw a Chwpan Ryder o gymorth i gynyddu’r cyfraniad hwnnw drwy feithrin enw da Cymru, drwy herio stereoteipiau a thrwy annog pobl i feddwl a sôn yn bositif am Gymru.