Skip to content

Llafar - Y Diwydiant Cyhoeddi Cymraeg

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Yr wyf yn falch o’r cyfle i dynnu sylw at y diwydiant cyhoeddi Cymraeg. Mae’r gair ysgrifenedig yn rhan hollbwysig o ddiwylliant Cymru. Drwy’r gair ysgrifenedig gallwn gyfleu’r Gymru fodern tra’n adlewyrchu’n traddodiadau fel cenedl. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn hyrwyddo cyhoeddi yn y ddwy iaith drwy Gyngor Llyfrau Cymru. Er mai cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg sydd o dan sylw heddiw, priodol yw nodi hefyd llwyddiant y diwydiant cyhoeddi Saesneg yng Nghymru. Bu’r cyllid ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yn 2004, yn hwb sylweddol. Arweiniodd at nifer o ddatblygiadau cyffrous gan gynnwys sefydlu’r gyfres hynod amrywiol, Library of Wales, sy’n cynnwys 26 o gyfrolau erbyn hyn.

 

Mae buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y degawd diwethaf wedi datblygu cyhoeddi yn y Gymraeg drwy sicrhau amrywiaeth eang o ddeunydd darllen, yn llyfrau ffeithiol a ffuglen yn ogystal â thrafodaethau bywiog mewn cylchgronau amrywiol, boed mewn print neu ar-lein.

 

I droi at ystod y llyfrau, mae’r ddarpariaeth ar gyfer y plant lleiaf yn amlwg, ac yn cyfrannu at dwf addysg cyfrwng Gymraeg. Yn wir, mae gan y diwydiant cyhoeddi rôl allweddol yn yr ymdrech i hyrwyddo’r iaith. Os ydym am annog mwy a mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith, a sicrhau bod ganddynt yr hyder i wneud hynny, bydd yn bwysig sicrhau eu bod yn gynyddol lythrennog a chyfarwydd â Chymraeg ysgrifenedig.

 

Yn dilyn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar gyhoeddi yn 2002, neilltuodd y Llywodraeth gyllid ychwanegol i’r diwydiant cyhoeddi. Gwariwyd cyfran helaeth o’r cyllid hwnnw ar gomisiynu awduron i lunio llyfrau poblogaidd. Llwyddodd y cyllid ychwanegol i wneud gwahaniaeth, yn enwedig ym maes nofelau a chofiannau, a gwelwyd cyhoeddi amrywiaeth dda o nofelau gan awduron profiadol a chan leisiau newydd. Mae cyhoeddwyr bellach yn comisiynu gwaith i ateb gofynion y farchnad.

 

Digwyddodd hyn i raddau wedi i’r cyngor benderfynu rhoi mwy o ryddid a chyfrifoldeb i’r gweisg unigol i ddewis pa lyfrau i’w cyhoeddi. Mae’r buddsoddiad wedi arwain at gynnydd yn ansawdd y deunydd a chynnydd yn y gwerthiant. Yn nhair blynedd gyntaf yr arian ychwanegol, 2003 i 2006, gwerthwyd bron i 53,000 o gopïau o nofelau Cymraeg, o’i gymharu â gwerthiant o lai na 23,000 o gopïau yn y tair blynedd cyn hynny, sef cynnydd o 132 y cant.

Yn ystod y misoedd diwethaf, yr ydym fel Llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol, sef pecyn o £300,000 i’r diwydiant cyhoeddi am y flwyddyn ariannol 2010-11. Bydd hynny’n galluogi cyhoeddwyr i gyflogi rhagor o olygyddion creadigol i weithio law yn llaw gydag awduron. Y nod eto yw gwella ansawdd llyfrau ymhellach, a chynyddu eu gwerthiant. Mae nifer o’r swyddi hyn wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig sy’n gartref i nifer o’r tai cyhoeddi ac argraffu—cwmnïau sy’n gyflogwyr pwysig yn eu cymunedau. Mae’r swyddi hyn wedi denu cryn ddiddordeb ac mae nifer o’r golygyddion eisoes wedi dechrau yn eu swyddi. O fewn ychydig fisoedd, bydd tua 20 o olygyddion yn gweithio’n llawn amser neu’n rhan amser yn y tai cyhoeddi. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a bydd rhaglen eang o hyfforddiant yn cyfrannu at wella sgiliau.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd ymdrechion amlwg i ehangu’r farchnad drwy sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg ar gael i’r prynwyr mewn cynifer o leoedd â phosibl. Y siopau llyfrau annibynnol yw asgwrn cefn y diwydiant, ond ochr yn ochr â hwy, mae’n dda gweld llyfrau a chylchgronau Cymraeg bellach ar werth mewn archfarchnadoedd yn ogystal â chadwyni cenedlaethol fel Waterstone’s a WHSmith. Mae lle i wella, ond mae’r datblygiadau hyn yn galonogol iawn.

 

Datblygiad pwysig arall fu sefydlu Golwg 360, y gwasanaeth newyddion dyddiol ar y we. Mae wedi cryfhau’r wasg Gymraeg ac wedi datblygu ac ehangu newyddiaduraeth broffesiynol, wreiddiol ac apelgar yn Gymraeg. Mae’r datblygiad hwn wedi mynd â’r wasg Gymraeg a’r iaith i faes y cyfryngau newydd, ond hefyd wedi cryfhau’r cylchgrawn print traddodiadol. Mae’r ddau gyfrwng mor bwysig â’i gilydd. Mae’n galonogol bod Golwg 360 yn rhoi sylw penodol i ddiddordebau pobl ifanc ac yr wyf yn hyderus y bydd y datblygiad hwn yn arwain at fwy o ddarllenwyr Cymraeg, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

 

Mae cyhoeddi, fel nifer o feysydd eraill, wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgîl datblygiadau technolegol. Bellach, mae llyfrau’n cael eu cyhoeddi fel e-lyfrau ochr yn ochr â’r fformat print. Er enghraifft, mae chwech o nofelau’r Lolfa yn awr ar gael fel e-lyfrau gan gynnwys Y Llyfrgell, nofel fuddugol gwobr Daniel Owen y llynedd. Dengys hynny pa mor bwysig yw hi i’r farchnad lyfrau Cymraeg fanteisio ar y dechnoleg newydd.

Mae’r rhan helaethaf o’r cyllid y mae’r cyngor llyfrau yn ei dderbyn gan Lywodraeth y Cynulliad yn cael ei sianelu drwy’r portffolio treftadaeth. Fodd bynnag, mae peth cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu drwy’r adran addysg tuag at gynlluniau pwysig megis gweithgareddau Diwrnod y Llyfr, clybiau darllen a Stori Sydyn. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at yr ymdrech i hyrwyddo darllen. Mae gan y diwydiant cyhoeddi Cymraeg gyfraniad amlwg i’r diwylliant Cymraeg, yr economi a dyfodol yr iaith. Yn ddi-os, mae’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg yn stori o lwyddiant, hyd yn oed yn y cyfnod economaidd anodd hwn.