Skip to content

Llafar - Gymunedau yn Gyntaf

Dolenni perthnasol

Cafodd y Panel Arbenigol yng Nghymru ei gynnull yn dilyn sefydlu’r Comisiwn Cynghorwyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol bryd hynny.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Ym mis Mawrth, gwneuthum ddatganiad llafar am y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac wedyn gwneud datganiad ysgrifenedig a chyhoeddi dogfennau sy’n ymwneud â phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc. Disgrifiais fy ngofid ynghylch yr hyn a oedd wedi digwydd yn Plas Madoc a’m penderfyniad i sicrhau bod safonau uchel o lywodraethu ac atebolrwydd wedi’u sicrhau mewn partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru.

 

Yr oedd y camau a gymerais yn syth i gryfhau’r llywodraethu ar Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys rhaglen o arolygiadau archwilio manwl o’r partneriaethau hynny yr aseswyd eu bod yn peri’r risg mwyaf o ran llywodraethu neu faterion ariannol, a chyflwyno gwiriadau sicrwydd rheoli penodol cyn buddsoddi unrhyw symiau sylweddol ychwanegol. Addewais wneud datganiad pellach ar ôl cwblhau’r arolygiadau archwilio.

 

Mae gwasanaeth archwilwyr Llywodraeth y Cynulliad bellach wedi adolygu’r 12 corff a enwyd. Mae’r gwaith wedi’i gwblhau ym mhob achos ond un, a hoffwn ddiolch i’r rheini a oedd yn gysylltiedig am ymgymryd â’r gwaith manwl hwnnw mor gyflym fel y gallaf wneud y datganiad hwn heddiw. Yr wyf yn falch o weld, lle y mae’r gwaith wedi’i gwblhau, na nodwyd unrhyw bryderon difrifol neu ddiffygion sylweddol. Cafwyd bod polisïau a gweithdrefnau clir ar waith gan gyrff i weinyddu eu cyllid, ac yr oedd gan y rhan fwyaf o’r cyrff strwythurau llywodraethu cadarn er mwyn cyflawni eu hamcanion sefydliadol.

 

Yr oedd pwysigrwydd hyfforddiant i aelodau bwrdd a staff wedi’i gydnabod, a gallai llawer o gyrff ddangos bod polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer hyfforddiant. Yr oedd y rhan fwyaf o’r cyrff yn cynnal cyfarfodydd bwrdd rheolaidd, a oedd yn cynnwys darparu gwybodaeth ariannol. Yr oedd aelodau bwrdd yn cael eu hysbysu am geisiadau am gyllid a oedd wedi’u cyflwyno, ac yr oedd gwybodaeth yn cael ei darparu’n rheolaidd hefyd ynghylch monitro cyllidebau yn y rhan fwyaf o bartneriaethau. Mae’r datganiadau hyn yn bwysig o ran cynnig sicrwydd, oherwydd bydd Aelodau’n cofio bod y gwaith archwilio’n canolbwyntio’n fwriadol ar y partneriaethau hynny yr aseswyd eu bod yn peri’r risg mwyaf.

 

Mae adroddiadau drafft wedi’u paratoi ac yn cael eu dosbarthu i gyrff sy’n derbyn grantiau a phartneriaethau er mwyn cael sylwadau ganddynt. Yr wyf yn bwriadu cyhoeddi’r adroddiadau terfynol. Lle nad yw’r gwaith archwilio wedi’i gwblhau eto, yn Amlwch yn Ynys Môn, yr wyf yn gobeithio cael adroddiad yn y dyfodol agos. Nododd archwilwyr Llywodraeth y Cynulliad yr ymrwymiad a’r ymroddiad sydd gan unigolion sy’n gweithio yn y cyrff hyn i weithredu’n lleol. Nodwyd bod safonau llywodraethu neilltuol o dda mewn ardaloedd fel Sandfields, Plas Cybi a pharc Caia. Yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i unrhyw arferion da a nodwyd gael eu cofnodi a’u rhannu’n eang.

 

Er ei bod yn braf nodi nad oedd unrhyw ddiffygion sylfaenol o ran rheoli, cafodd yr archwilwyr fod rhywfaint o le i gymryd camau i wella ymhellach. Soniaf yma am dri maes penodol a enwyd. Mewn rhai achosion yr oedd llawer o ddibyniaeth ar onestrwydd, uniondeb a natur agored staff. Felly nododd archwilwyr fod lle i wella’r fframwaith rheoli mewn nifer o’r cyrff yr ymwelwyd â hwy i sicrhau, er enghraifft, na fydd unrhyw newid o ran staffio’n gwneud y corff yn agored i risg ariannol. Mewn rhai achosion, nid oedd y gwahaniaeth rhwng y corff sy’n derbyn grantiau a’r bartneriaeth yn ddigon clir. Nid yw hyn yn ganfyddiad annisgwyl, oherwydd felly yr oedd yn Plas Madoc, ac yr oedd partneriaethau sydd â threfniadau llywodraethu tebyg wedi’u cynnwys yn y rhaglen hon fel y gellid rhoi prawf ar ddigonolrwydd eu trefniadau penodol. Yr wyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ddechrau trafodaethau ar unwaith â’r cyrff hynny sy’n derbyn grantiau a’r partneriaethau hynny lle y gwelir y diffyg gwahaniaeth hwn, er mwyn nodi’r camau y mae angen eu cymryd ym mhob achos er mwyn cael mwy o eglurder ac atebolrwydd o fewn perthnasoedd sy’n bod eisoes neu, os bydd angen, i gynnig dewis arall. Mewn rhai achosion, yr oedd diffyg arbenigedd ariannol ar lefel bwrdd y bartneriaeth. Rhoddaf bwys ar allu byrddau partneriaeth i herio a chraffu’n effeithiol ar wybodaeth ariannol a gwybodaeth reoli. Mae gwaith yn mynd ymlaen eisoes i ddelio â’r mater hwn, drwy gymorth arbenigol sy’n cael ei ddarparu i bartneriaethau drwy gontractau cenedlaethol.

 

Rhaid gweld y canfyddiadau hyn yng nghyd-destun y ffaith bod partneriaethau’n cael eu rhedeg gan bobl leol er mwyn pobl leol. Efallai nad yw pobl sy’n ymwneud â’u partneriaeth leol wedi arfer gweithio ym maes llywodraethu a chyllid, ond mae’r mwyafrif helaeth yn frwd dros wella pethau er mwyn eu cymuned. Yng ngolwg y pryderon ynghylch Plas Madoc, byddwn yn annog yr holl bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, ac nid y rheini a oedd yn destun yr arolygiadau manwl yn unig, i nodi’r pryderon hyn a chymryd camau i sicrhau safonau da o uniondeb ariannol a llywodraethu. Byddwn yn eu helpu i wneud hyn. Wrth ymateb i’m llythyr at gadeiryddion byrddau partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ym mis Mawrth, dymunai llawer ohonynt ymbellhau oddi wrth y math o bryderon a gododd yn achos Plas Madoc a’m sicrhau bod eu gwaith wedi’i reoli a’i lywodraethu’n dda. Hyd yn hyn, nid yw canfyddiadau’r archwiliadau’n ategu barn y rheini a awgrymodd y byddai’r problemau yn Plas Madoc yn cael eu gweld yn eang ledled Cymru.

 

Mae’r ymarferiadau penodol i roi sicrwydd mewn cysylltiad â buddsoddi symiau sylweddol pellach wedi dechrau. Drwy ddefnyddio gwybodaeth o’r holiaduron ar lywodraethu a thystiolaeth a ddarparwyd gan y partneriaethau eu hunain, mae’r rhain yn cynnig y sicrwydd penodol a geisiaf, ac maent hefyd yn fodd effeithiol i adolygu a chryfhau trefniadau llywodraethu sydd wedi’i groesawu gan bartneriaethau lleol. Ar y dechrau, rhoddwyd blaenoriaeth i’r partneriaethau hynny sydd wedi cyflwyno ceisiadau am arian o’r gronfa canlyniadau, ond yr wyf wedi gofyn am ymestyn y gwaith hwn i gynnwys yr holl bartneriaethau eraill.

 

O ganlyniad i ganfyddiadau’r archwiliadau a’r ymarferiadau i roi sicrwydd, gallaf gyhoeddi buddsoddiad pellach ar unwaith o gronfa canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf o tua £930,000 i hybu’r prosiectau canlynol. Dyna brosiect y ganolfan blant integredig, lle y mae Canolfan Byd Gwaith, y corff sy’n derbyn y grant, wedi cytuno i leoli cynghorwyr penodol Canolfan Byd Gwaith ym mhedair o ardaloedd peilot Cymunedau yn Gyntaf. Mae hyn yn enghraifft wych o blygu rhaglenni. Bydd dau brosiect ym Merthyr Tudful yn ategu cymorth hirsefydlog y rhaglen i gymunedau yn y fan honno. Bydd y prosiectau hyn yn cynorthwyo pobl mewn addysg, hyfforddiant a gwaith. Bydd cymorth pellach ar gyfer gweithiwr ieuenctid yn Hightown yn Wrecsam.

 

Mae fy swyddogion wedi cymryd camau buan hefyd i gryfhau’r fframwaith llywodraethu cyffredinol ymhellach. Ymhlith y camau pwysig y mae newidiadau yng nghwmpas y broses ardystio flynyddol wrth archwilio, cau’r bwlch lle nad oedd archwilwyr ond yn edrych ar ystod gyfyngedig o dystiolaeth o wariant, a dechrau dosbarthu llythyrau rheoli’n fwy eang. Cytunwyd ar y newidiadau hyn â Swyddfa Archwilio Cymru a byddant yn cael eu rhoi ar waith yn awr. Bydd gwaith i egluro’r trefniadau ar gyfer trafod cwynion am Cymunedau yn Gyntaf wedi’i gwblhau cyn hir.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n ymchwilio ar hyn o bryd i rai o’r materion a nodwyd yn yr adroddiad ar Plas Madoc, ac mae fy swyddogion yn cael eu hysbysu’n rheolaidd ynghylch y mater wrth symud ymlaen arno. Ochr yn ochr â’r ymchwiliadau hynny, mae fy swyddogion yn dal i gydweithio â staff yn y fan honno i ddelio â’r materion sy’n ymwneud â rheoli a nodwyd yn yr adroddiad archwilio.

 

I derfynu, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru’n cael cymorth. Yr wyf yn falch o allu adrodd ar y sicrwydd yr wyf wedi’i gael drwy archwilio a symud ymlaen i ddyfarnu symiau sylweddol pellach o gronfa canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf i gyrff. Yr wyf yn dymuno i hyn gael ei gyflawni cyn gynted ag sy’n bosibl.