Skip to content

Ysgrifenedig - Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

  Ers ei greu ym 1993, mae'r sector addysg bellach yng Nghymru yn elfen hanfodol o'r gwaith o weithredu ein polisïau economaidd, cymdeithasol ac addysg a hyfforddiant ac mae'n derbyn cryn arian cyhoeddus (£307 miliwn yn 2010/2011). Mae llywodraethu da o fewn y sefydliadau hyn yn hollbwysig i lwyddiant y polisïau hyn, rheoli'r adnoddau cyhoeddus yn effeithiol ac o ran sicrhau atebolrwydd i'r trethdalwr a'r llywodraeth.

Gwnaeth adroddiad Webb ar addysg bellach yng Nghymru, Addewid a Chyflawniad, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2007, nifer o argymhellion ar amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys llywodraethu.  Roedd yr adroddiad yn pwysleisio bod angen i lywodraethwyr fod yn atebol am berfformiad y sefydliadau a'i gyfraniad i rwydweithiau.  Gan adeiladu ar hyn, nododd Llywodraeth y Cynulliad yn Cymru'n Un ei bwriad i wneud defnydd llawn o'r adroddiad hwn a "datblygu system sy'n ymateb i anghenion cymunedau lleol, cyflogwyr a'r economi lleol a rhanbarthol.  Partneriaeth fydd sail ein dull gweithredu yn y maes hwn, fel yn y gorffennol."

Yn sgil adolygiad ymhlith rhanddeiliaid yn ddiweddar o drefniadau llywodraethu sefydliadau addysg bellach, nodwyd argymhellion i wella arferion llywodraethu mewn meysydd allweddol fel cyfranogiad dysgwyr a rhanddeiliaid.  Cytunodd y Cabinet ar yr argymhellion hyn ar 15 Mawrth, fel model o arfer da yn seiliedig ar y system bresennol.  Fodd bynnag, yn fy marn i mae angen inni ystyried yr amgylchedd cyfan cyn gweithredu'r argymhellion hyn.

Yn benodol, rwyf am edrych ar gydbwysedd y gwaith y mae sefydliadau addysg bellach yn ei wneud erbyn hyn.  Mae sefydliadau addysg bellach wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyrsiau i fyfyrwyr 16-19 mlwydd oed. Roedd llawer yn canolbwyntio ar lwybrau i ddarpariaeth alwedigaethol fel prentisiaethau.  Mae'r capasiti hwnnw i ehangu'r cwricwlwm sydd ar gael i bobl ifanc yn hanfodol i lwyddiant ein Mesur Dysgu a Sgiliau.

Mae angen inni ystyried goblygiadau lefel uwch o weithgarwch ar gyfer pobl ifanc 14-19 mlwydd oed ymhlith sefydliadau addysg bellach o ran eu trefniadau llywodraethu.  A yw'r trefniadau cyfredol yn adlewyrchu'n ddigonol yr atebolrwydd i gymunedau lleol am y gweithgarwch hwnnw - yn ogystal ag adlewyrchu atebolrwydd i gyflogwyr lleol am yr hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith y mae addysg bellach hefyd yn ei gynnig?  Rwy'n credu bod angen inni ystyried y cwestiwn hwn o gydbwysedd atebolrwydd.  Oherwydd hynny, rwy'n bwriadu sefydlu panel arbenigol i ystyried modelau llywodraethu ar gyfer addysg bellach.  Bydd yn ystyried a yw'r trefniadau presennol ar gyfer sefydliadau addysg bellach, fel y maent wedi'u nodi yn yr Offeryn a'r Erthyglau Llywodraethu, yn dal yn berthnasol i'r heriau a'r disgwyliadau sy'n wynebu'r sector, i'r economi ehangach o ran diwallu anghenion cymdeithasol a dysgu yn y dyfodol, ac i randdeiliaid presennol addysg bellach a rhanddeiliaid y dyfodol.  

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fenter gymdeithasol a dulliau cydweithredol o ddarparu gwasanaethau.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae'r dulliau hyn wedi dod yn bwysicach, yn hytrach nag yn llai pwysig.  Bydd y panel adolygu yn edrych ar holl fodelau menter gymdeithasol yma yng Nghymru a'r tu hwnt, i weld sut y gallent ei gwneud yn bosibl i'r sector addysg bellach barhau i ddiwallu anghenion dinasyddion a'r prif randdeiliaid.

Fel cam cyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi bod Mr Rob Humphreys wedi ei benodi yn Gadeirydd yr Adolygiad.

Fel Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, prif ddarparydd dysgu o bell y byd ym maes addysg uwch, mae Rob yn dod â dealltwriaeth o fyd addysg a dysgu gydol oes gydag ef.  Yn ystod ei dair blynedd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, mae Rob wedi arwain y gwaith o osod y sefydliad yn gadarn yn y sector addysg uwch yng Nghymru, fel bod agendâu polisi'r sector hwnnw yn manteisio ar gryfderau'r Brifysgol Agored. Mae Rob hefyd yn cadeirio Grwp Llywio OU-UnionLearn ar lefel y DU, sy'n cydgysylltu partneriaeth addysgol y Brifysgol Agored â'r Gyngres Undebau Llafur. Cyn ei rôl yn y Brifysgol Agored, roedd Rob yn Gyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru, ac felly mae ganddo brofiad o weithio gydag amrywiaeth eang o ddysgwyr.

Fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Rob oedd Cydgysylltydd cyntaf prosiect arloesol Prifysgol Gymunedol y Cymoedd, a enillodd wobr.

Yn 2008 a 2009, bu'n Gynghorydd Arbenigol i Bwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin yn ystod ei Ymchwiliad i Wasanaethau Traws-ffiniol a chafodd ei ailbenodi yn 2010 pan gynhaliodd y Pwyllgor Ymchwiliad Dilynol. Cymerodd Rob ran hefyd yn yr Adolygiad Annibynnol o Addysg Uwch yng Nghymru, Adolygiadau Rees a Grahams i Addysg Bellach ac mae'n eistedd ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Pwyllgor Addysgu a Dysgu Cymru.

Ni fydd mwy na saith aelod ar y panel yn ychwanegol at y Cadeirydd.  Caiff yr aelodau eu dewis yn ofalus i sicrhau bod arbenigedd ym maes addysg yn cael ei ategu gan arbenigedd mewn meysydd eraill megis diwydiant, y gymuned a'r economi.  Byddaf yn cyhoeddi datganiad arall ar aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen pan fyddaf wedi eu penodi.

Caiff yr adolygiad ei sefydlu cyn toriad yr haf a bydd y Cadeirydd yn rhoi adroddiad ar yr argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

Rwyf eisiau llongyfarch sefydliadau addysg bellach am y ffordd y maent wedi ymateb i'n hagenda newid.  Maent wedi cefnogi datblygiad sgiliau, ehangu opsiynau cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc a chynnig cyfleoedd dysgu i amrywiaeth aruthrol o bobl o bob oed, cefndir a phrofiad.  Maent wedi gwneud cyfraniad enfawr i'n huchelgais i wella cyfiawnder cymdeithasol a datblygu sylfaen sgiliau gweithlu Cymru. Rwyf eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a sicrhau y bydd gan sefydliadau addysg bellach drefniadau llywodraethu a fydd yn peri bod y cynnydd a welwyd mewn addysg bellach ers ei dechrau 17 mlynedd yn ôl yn parhau, ac a fydd yn cynnal y cynnydd hwnnw am yr 17 mlynedd nesaf.