Skip to content

Ysgrifenedig - Nofio am Ddim

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Heddiw, rwy’n tynnu sylw’r Cynulliad at y newyddion positif iawn y bydd cynllun diwygiedig Nofio am Ddim ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei weithredu ar draws Cymru o Fedi 2010 ymlaen.  

Bydd y cynllun yn cael ei darparu gan y cyllid presennol mae awdurdodau lleol yn derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Chwaraeon Cymru, ac bydd yn cynnig isafswm o:

  • 14 awr o nofio am ddim bob wythnos i bob ardal awdurdod lleol yn ystod pob gwyliau ysgol, yn cynnwys o leiaf 7 awr o sesiynau strwythuredig
  • 1 sesiwn strwythuredig yr wythnos i bob ardal awdurdod lleol yn ystod pob gwyliau ysgol ar gyfer plant anabl
  • 2 awr o nofio am ddim neu gweithgareddau ochr-sych pob penwythnos i bob ardal awdurdod lleol drwy gydol y flwyddyn.

Byddaf yn lansio'r cynllun diwygiedig ar 8 Mehefin yn Ganolfan Hamdden Bontnewydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a byddaf yn gwneud datganiad am hyn yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y prynhawn.