Skip to content

Llafar - Sicrhau Casgliad Llyfrau Prin Caerdydd ar gyfer y Genedl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Yr wyf yn falch o adrodd i Aelodau fod y casgliad unigryw o lyfrau prin sydd yng ngofal gwasanaeth llyfrgell Cyngor Caerdydd wedi’i ddiogelu ar gyfer y genedl. Llwyddwyd i wneud hyn drwy bartneriaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Trosglwyddir y casgliad o tua 14,000 o eitemau i lyfrgell Prifysgol Caerdydd am gyfanswm o £1.2 miliwn.

 

Cychwynnwyd trafodaethau ynglŷn â dyfodol y casgliad o lyfrau prin yn 2007 pan ddatganodd Cyngor Caerdydd ei fwriad i werthu eitemau o’r casgliadau o lyfrau prin nad oedd yn ymwneud â Chymru’n benodol. Bu’r penderfyniad hwn yn destun cryn sylw a chonsyrn cyhoeddus ar y pryd, a chafwyd ymgyrch fywiog gan Gyfeillion Treftadaeth Caerdydd i gadw’r casgliad yn y ddinas. Gofynnais i’m swyddogion yn CyMAL ddarparu cyngor a chefnogaeth i wasanaeth llyfrgell y ddinas. Cafwyd cyngor proffesiynol a bwysleisiodd arwyddocâd y casgliad fel adnodd cenedlaethol, pwysig. Cynigiodd Prifysgol Caerdydd y byddai trosglwyddo’r casgliad i lyfrgell dyniaethau’r brifysgol yn sicrhau gofal arbenigol o safbwynt cadwraeth. Bellach, yr wyf yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael cytundeb ynglŷn â throsglwyddo’r casgliad.

 

Ffrwyth diddordeb diwylliannol dyngarwyr cyfoethog de Cymru yn adeg oes Fictoria yw’r casgliad hwn. Buont yn hael yn eu rhodd o eitemau o’u llyfrgelloedd eu hunain i lyfrgell newydd Caerdydd, a oedd ar y pryd yn gobeithio datblygu yn llyfrgell genedlaethol Cymru. Bu’r Amgueddfa Brydeinig hefyd yn hael gan gefnogi’r casgliad cenedlaethol gyda rhodd o 800 o eitemau. Yn ogystal, fe brynodd Syr John Ballinger—llyfrgellydd Caerdydd a gŵr carismataidd a benodwyd yn ddiweddarach yn llyfrgellydd cenedlaethol—yn graff. Mae’r casgliad yn cynnwys enghreifftiau prin o lyfrau cynnar neu incwnabwla, sef llyfrau a argraffwyd cyn 1500; llawer o Feiblau yn dyddio o 1540; atlasau cynnar yn cynnwys map o’r byd a gyhoeddwyd yn 1492, ychydig fisoedd cyn i Columbus gyrraedd America; set gynhwysfawr o ddramâu o’r ail ganrif ar bymtheg, o gyfnod yr Adferiad; copïau o ail ffolio o waith William Shakespeare yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg; a sawl enghraifft o waith argraffu cain o gyfnod Fictoria.

 

Mae maint y casgliad i raddau helaeth yn adlewyrchu gwir uchelgais cefnogwyr cynnar y llyfrgell. Yn sicr, mae’r casgliad yn darparu rhyw gipolwg ar ddiddordebau a gwybodaeth pobl nodedig megis John Cory, Tŷ Dyffryn, a Rice Rees o’r Ton, Llanymddyfri. Yr wyf wedi gwahodd y brifysgol i drefnu arddangosiad o eitemau detholedig o’r casgliad ar gyfer digwyddiad yn y Senedd yn yr hydref er mwyn i Aelodau ddod yn fwy cyfarwydd â’r trysor cenedlaethol hwn.

 

Mae rheoli casgliad mor bwysig yn cyflwyno sawl her i unrhyw lyfrgell. Yr wyf yn arbennig o falch y bydd trosglwyddo’r casgliad i Brifysgol Caerdydd yn golygu y bydd llawer mwy o bobl yn gallu cael mynediad at yr adnodd gwych hwn yn y dyfodol. Mae’r brifysgol wedi cytuno i gatalogio’r casgliad yn llawn ac, ymhen amser, i roi copïau digidol o eitemau arwyddocaol ar wefan y brifysgol, fel y gellir eu gweld dros y byd i gyd. Yn amodol ar yr angen i gadw eitemau bregus, bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu gweld llyfrau o’r casgliad yn llyfrgell ddyniaethau’r brifysgol ar gais. Rhagwelaf y cynhwysir eitemau mewn arddangosfeydd dros dro, a gynhelir mewn lleoliadau addas ledled Cymru, mewn cysylltiad â gweithgareddau allgymorth gydag ysgolion. Mae potensial, er enghraifft, i gyfrannu at arddangosfa yn amgueddfa Caerdydd, gan fod y casgliad yn rhan bwysig o hanes Caerdydd. Bydd gwasanaeth llyfrgell dinas Caerdydd yn cadw casgliad pwysig iawn o lyfrau a llawysgrifau o ddiddordeb Cymreig penodol. Bydd fy swyddogion yn parhau i ddarparu cefnogaeth i’r cyngor i reoli’r casgliad hwn.

 

Mae’r brifysgol eisoes wedi nodi y bydd y casgliad yn denu sylw nid yn unig academyddion yng Nghymru ond hefyd ysgolheigion rhyngwladol a gaiff anogaeth i ymweld â Chaerdydd i weld eitemau prin fel y copïau ail ffolio Shakespeare. Ceir y potensial i drefnu seminarau a chynadleddau i drafod gweithgareddau ymchwil. Bydd y casgliad yn sicrhau hefyd y caiff llyfrgell Prifysgol Caerdydd ei rhestru yn neg llyfrgell orau Grŵp Russell o brifysgolion y Deyrnas Unedig ar gyfer y dyniaethau. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y casgliad i weithgareddau ymchwil wrth roi grant i’r brifysgol tuag at ei drosglwyddo. Bydd Cymru’n cadw adnodd academaidd o wir safon byd i’w ddefnyddio gan ysgolheigion y presennol a’r dyfodol.

 

Mae’r canlyniad positif hwn yn ganlyniad partneriaeth broffesiynol rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Archifau Morgannwg i ddiogelu’r casgliad hynod hwn i’r genedl. Yr wyf yn ddiolchgar i Gyngor Caerdydd am ei barodrwydd i ganfod ffordd ymlaen sy’n cadw’r casgliad yng Nghaerdydd, eto’n gosod y cyfrifoldeb am reolaeth i’r dyfodol ar lyfrgell y brifysgol, sydd mewn sefyllfa well i elwa ar botensial llawn yr eitemau. Yr oeddwn yn falch o gefnogi’r bartneriaeth drwy ddarparu grant o £450,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at y gost gyfan o £1.2 miliwn. Cyfrannodd Prifysgol Caerdydd £500,000 a rhoddwyd grant o £250,000 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Yn awr mae gan Brifysgol Caerdydd y cyfrifoldeb pwysig o gynnal y casgliad llyfrau prin hwn i’w fwynhau gan genedlaethau i ddod a thros sicrhau mwy o fynediad i ddefnyddwyr sydd â diddordeb. Disgwyliaf i’r holl gyrff sy’n bartneriaid gydweithio trwy’r cyfnod ariannol heriol hwn i sicrhau y gall Cymru fanteisio’n addysgol ac yn economaidd ar y gwaddol hynod hwn.

 

Mae gan lyfrgelloedd ledled Cymru ran bwysig i’w chwarae i ddiogelu a sicrhau mynediad at adnoddau sy’n darlunio hanes a diwylliant Cymru. Yr oeddwn yn falch o nodi bod ystadegau llyfrgelloedd cyhoeddus am 2008-09 yn dangos bod nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd yng Nghymru wedi codi 3.7 y cant o gymharu â gostyngiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a chynnydd bach iawn yn yr Alban. Yn ogystal, mae Cymru wedi gweld cynnydd mwy yn nifer y benthyciadau a benthycwyr o gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae ein buddsoddiad yn llyfrgelloedd Cymru erbyn hyn yn dangos yn glir y gallwn, drwy weithio mewn partneriaeth, ddarparu mwy a mwy o fynediad at drysorau gwerthfawr Cymru.