Skip to content

Ysgrifenedig - Yr Adolygiad o Gyflenwi Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ym mis Ebrill 2009, bu fy rhagflaenydd yn ystyried yr Adroddiad ar yr adolygiad o Gyflenwi Cyllid Myfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru, gan roi sêI ei bendith i’r achos dros sefydlu gwasanaeth canolog sydd â’r potensial i greu trefniadau llywodraethu ar y cyd.

 

Cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei greu gyda swyddogion o Lywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn aelodau ohono. Nod y grŵp oedd ystyried yr opsiynau ar gyfer newid a chreu achos busnes gydag argymhellion erbyn mis Mai 2010. Bu’r grŵp yn ystyried tri opsiwn o ran cyflwyno newidiadau:

  • cadw’r gwasanaeth fel ag y mae gyda gwelliannau;
  • gwasanaeth ar y cyd dan berchnogaeth llywodraeth leol Cymru gyfan;
  • gwasanaeth gan Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, a fyddai’n cael gwared fesul tipyn ar y rhan sy’n cael ei chwarae gan awdurdodau lleol.

Ar ôl gwerthuso buddsoddiad trwy ddilyn proses fanwl, gwelwyd wrth baratoi’r achos busnes mai’r gwasanaeth gan Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yw’r opsiwn sy’n rhagori ar y meini prawf gwerthuso gafodd eu gosod gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Felly, dyma’r grŵp gorchwyl a gorffen yn argymell y model sydd orau ganddyn nhw, sef gwasanaeth gan Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn y Gogledd.

 

Rwy’n credu y byddai gwasanaeth cyflenwi canolog yn rhoi’r gallu i Lywodraeth y Cynulliad weithredu system well sy’n fwy effeithlon a chynaliadwy i gyflenwi cyllid myfyrwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwyf hefyd o’r farn ei bod yn bwysig i ni ganiatáu digon o amser i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr brosesu rownd gyfan o geisiadau cyllid myfyrwyr yn Lloegr cyn cadarnhau ein bod am symud at system newydd yma yng Nghymru. Felly, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion oedi am y tro, cyn mynd ati i roi system ganolog ar waith yng Nghymru.

 

Yn y cyfamser, rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i edrych ar ffyrdd o wella’r system bresennol a sicrhau gwasanaeth gwell i fyfyrwyr Cymru.

 

Hoffwn sicrhau fod unrhyw welliannau i’r gwasanaeth cyllid myfyrwyr yn cyd-fynd ag amcanion adroddiad PricewaterhouseCoopers ar gostau gweinyddu addysg yng Nghymru. Yn arbennig, rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda’n prif bartneriaid cyflenwi i edrych ar ffyrdd o sicrhau gwelliannau buan a phwysig i’n gwasanaeth trwy:

  • ddatblygu trefniadau consortia neu bartneriaeth ar gyfer cyflenwi cyllid myfyrwyr o 2013/2014;
  • creu modelau posibl ar gyfer sefydlu gwasanaeth ar y cyd yng Nghymru;
  • symud oddi wrth wasanaeth sy’n defnyddio papur at wasanaeth sy’n cael ei ddarparu ar-lein yn bennaf;
  • darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau sy’n gyson.

Ar hyn o bryd, mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wrthi’n newid ei strwythur o ran ei uwch-reolwyr. Mae cadeirydd a phrif weithredwr newydd dros dro wedi’u penodi. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (fel prif adran noddi’r Cwmni) i sicrhau y bydd y gwasanaeth i fyfyrwyr Cymru yn parhau i wella.