Skip to content

Llafar - Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant

Ddoe, cyflwynais y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), ynghyd â memorandwm esboniadol, ger bron y Cynulliad. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig hefyd, a heddiw caf y fraint o gyflwyno’r darn deddfwriaeth blaenllaw hwn i’w ystyried gan y Cynulliad.

 

Derbynnir yn gyffredinol fod plant a phobl ifanc sy’n gwybod am eu hawliau dynol, ac yn eu mwynhau, ar y cyfan yn meddu ar well hunanhyder a disgwyliadau uwch, a’u bod yn fwy tebygol o gyflawni’u llawn botensial. Mae hyn yn ei dro’n gymorth iddynt ddod yn ddinasyddion mwy cyfrifol, sy’n fwy abl a pharod i gyfrannu’n llawnach at fywyd eu cymuned. Yr ydym ni yng Nghymru’n rhoi gwerth ar y nodweddion hyn, ac ymfalchïwn mewn ymdrechu i roi i’n plant a’n pobl ifanc yr arfau y mae eu hangen arnynt i chwarae rhan lawn a gweithredol yn ein cymdeithas fel dinasyddion.

 

Yn Rhagfyr 1991, cadarnhaodd y Deyrnas Unedig Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Offeryn cynhwysfawr yw’r confensiwn sy’n amlinellu hawliau sy’n diffinio egwyddorion a normau cyffredinol ar gyfer statws plant. Mae’r confensiwn yn ymdrin â hawliau plant mewn ffordd integredig a holistig, gan ddelio â hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â hawliau sifil a gwleidyddol.

 

Yn 2002, penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylai weithio tuag at saith nod craidd wrth ddatblygu a sicrhau y gweithredid polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc, o’u geni hyd 25 mlwydd oed. Datblygwyd y nodau hyn drwy ddefnyddio a chrynhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Yn 2004, aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymhellach fyth a phenderfynu, pryd bynnag y datblygai bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc, y gwnâi hynny gyda’r nod o sicrhau iddynt yr hawliau a amlinellir yn y confensiwn. Fodd bynnag, dehongliad polisi i Gymru, a chrynodeb o’r confensiwn i bob pwrpas, yw’r saith nod craidd. Mae hynny’n golygu y canolbwyntiwyd ar ystyriaeth fwy cyffredinol o’r confensiwn, yn hytrach nag ar bob erthygl yn unigol. O ganlyniad, ni fu’r symudiad tuag at gyflawni’r confensiwn yn llawn i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru mor gyflym na chynhwysfawr ag a ddymunem, efallai.

 

Ym mis Gorffennaf 2009, cododd y cyn Brif Weinidog broffil y mater hwn a rhoddodd awgrym clir fod awydd i ehangu ystyriaeth ar y confensiwn yng Nghymru a chydgyfnerthu ein dull o lunio polisïau ar sail hawliau. Ers hynny, yr ydym wedi bod yn gweithio i ganfod y ffordd orau o wneud hynny. Yn gynharach eleni, ymgyngorasom yn eang ar Fesur arfaethedig drafft posibl a chawsom fodd i fyw â’r adborth adeiladol a gafwyd, gan sefydliadau ac unigolion yng Nghymru a thu hwnt.

 

Amcan cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yw sefydlu ein dull o lunio polisïau ar sail hawliau a chryfhau a chynnal momentwm tuag at lwyr wireddu hawliau plant a phobl ifanc yn gyffredinol. Ar Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad y gosodir y brif ddyletswydd o fewn y Mesur arfaethedig. Gofynnir iddynt roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau sylweddol o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a’i brotocolau dewisol pan wnânt benderfyniadau strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau. Bydd y ddyletswydd yn berthnasol pryd bynnag y bydd Gweinidogion yn ymgymryd â chynllunio strategol ynghylch sut i ddefnyddio’u swyddogaethau. Bydd rhaid iddynt ystyried pa hawliau a dyletswyddau yn y confensiwn a’i brotocolau dewisol sy’n berthnasol i’r meysydd cynllunio strategol sydd dan ystyriaeth ganddynt. Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i ddefnyddio’u swyddogaethau, bydd rhaid iddynt roi’r pwysau priodol ar yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn y fantol yn erbyn pob ffactor perthnasol arall.

 

Bydd y Mesur arfaethedig yn gofyn bod Gweinidogion Cymru’n llunio cynllun plant. Dyna ble y mae’n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru amlinellu ei threfniadau ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â’r ddyletswydd, yn ogystal â’r meini prawf ar gyfer nodi’r penderfyniadau strategol y cyfeiriais atynt. Rhaid i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y gellir ei lunio. Bydd penderfyniadau strategol yn cynnwys pob gwaith llunio polisi a datblygiad y rhan fwyaf o gynigion deddfwriaethol. Pwrpas y cynllun yw cael tryloywder ynghylch prosesau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer sicrhau cydymffurfiad â’r ddyletswydd, a hefyd y cânt eu profi’n drylwyr. Bydd y cynllun yn destun craffu allanol drwy ymgynghoriad ac wedyn bydd rhaid iddo basio’r prawf o fod yn dderbyniol gan y Cynulliad. Rhaid cyflwyno’r cynllun drafft erbyn 31 Mawrth 2012 fan hwyraf.

 

Mae’r Mesur arfaethedig yn cynnwys darpariaethau hefyd ar gyfer hyrwyddo adnabyddiaeth a dealltwriaeth o’r confensiwn a’i brotocolau dewisol, diwygio deddfwriaeth i roi gwell effaith iddynt, ac ystyried ac ymgynghori ynghylch ymestyn y Mesur arfaethedig i’r grŵp oedran 18 i 24. Nid yw’r Mesur arfaethedig yn gosod unrhyw ddyletswydd ar unrhyw berson na chorff arall, er enghraifft, cyrff y gwasanaeth iechyd gwladol neu awdurdodau lleol. Mae’r ddyletswydd sylw dyledus wedi’i chynllunio i sicrhau y bydd yn ofynnol, mewn penderfyniadau strategol gan Weinidogion, rhoi ystyriaeth briodol i hawliau a rhwymedigaethau’r confensiwn. Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn sefydlu yng nghyfraith Cymru ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad y caiff hawliau plant a phobl ifanc y pwysigrwydd a haeddant yng ngwaith Llywodraeth y Cynulliad. Mae Cymru, unwaith eto, yn canfod ffyrdd newydd i gryfhau hawliau plant a phobl ifanc.

 

Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dweud os yw plant, pobl ifanc ac oedolion yn gwybod ac yn deall eu hawliau, ei bod yn haws iddynt gael yr hawliau hynny, a bod hyn, yn ei dro, yn arwain at wella’u lles. Am y rheswm hwn, mae’r Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau priodol i hyrwyddo adnabyddiaeth a dealltwriaeth o’r confensiwn a’i brotocolau dewisol. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd codi lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth o’r confensiwn gan bawb yng Nghymru. Bydd gwella lles plant a phobl ifanc heddiw, yn ei dro, yn arwain at i Gymru gael cymunedau mwy bywiog a chydlynol, mwy o gyfalaf cymdeithasol a gwell ffyniant economaidd.

 

Yn fyr, bydd y Mesur arfaethedig hwn nid yn unig yn helpu plant a phobl ifanc heddiw i fwynhau gwell lles, bydd hefyd yn darparu mecanwaith i’r confensiwn chwarae ei ran i sicrhau gwell yfory i’n cymunedau ac i Gymru’n gyffredinol.

 

Cymeradwyaf y Mesur arfaethedig ichi. Yr wyf yn falch fod Cymru’n arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig fel y gyntaf o’r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu’r confensiwn yn ei deddfwriaeth. Edrychaf ymlaen at y cyfraniad adeiladol a wna proses graffu’r Cynulliad wrth inni archwilio’r materion allweddol hyn.