Skip to content

Ysgrifenedig - Uchelgais y Gweinidog ar gyfer Adfywio yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Heddiw, rwy’n cyhoeddi datganiad o’m huchelgais ar gyfer Adfywio yng Nghymru.

 

Wrth feddwl am adfywio, rwy’n dychmygu’r math o le yr hoffai pobl fyw ynddo. Mae’r amgylchedd yn ddeniadol gyda thai o ansawdd uchel mewn mannau cyhoeddus diogel sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Mae llawer i’w weld a digon o weithgareddau’n lleol. Mae’r ysgolion yn perfformio’n dda ac mae plant o bob gallu yn cael datblygu eu potensial beth bynnag fo’u diddordebau. Ceir swyddi neu gyfleoedd hyfforddi naill ai yn lleol neu mewn lleoedd rhwydd eu cyrraedd drwy’r rhwydwaith trafnidiaeth. Ceir teimlad bod y lle yn llwyddiannus a hyder y bydd y llwyddiant yn parhau yn y dyfodol. Rydym am ddefnyddio’n hadnoddau i helpu’r cymunedau hynny i adfer a dod yn lleoedd ffyniannus.

 

Nid yw’n cyllideb yn ddiddiwedd, felly mae angen inni fuddsoddi mewn meysydd penodol er mwyn inni allu gwneud y gwahaniaeth mwyaf gyda’r adnoddau sydd gennym. Yn ystod tymor y llywodraeth hon, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar saith Ardal Adfywio. Er bod ffiniau clir i’r ardaloedd hyn, rwyf hefyd yn fodlon bod yn hyblyg ac ystyried prosiectau y tu hwnt i’r ffiniau lle bo tystiolaeth glir y gallai pobl o fewn y ffiniau elwa arnynt. Mae’n bwysig bod ein proses i benderfynu lle i fuddsoddi adnoddau’n agored ac yn dryloyw. Dyma pam rwy’n ymroi i osod meini prawf clir i’r llywodraeth eu defnyddio i bennu Ardaloedd Adfywio.

 

Mae’n bwysig hefyd nad yw rhaglenni adfywio’n cael eu cynnal ar wahân i raglenni eraill y llywodraeth. Mae adfywio yn sbarduno gweithgarwch ychwanegol a fydd yn gwella ffyniant a lles yn yr hirdymor. Nid oes modd gwneud hyn oni bai bod y mentrau hyn yn gwella ac yn cyd-fynd yn agos â rhaglenni cyfredol y llywodraeth, boed yn ymwneud ag iechyd, addysg, sgiliau, tai, trafnidiaeth, datblygu cymunedol, treftadaeth, yr amgylchedd neu unrhyw faes polisi arall.

 

Rhaid i raglenni adfywio beidio â bod yn atebion tymor byr. Mae’n rhaid i’r buddsoddiadau hyn anelu at wneud gwahaniaeth yn y tymor hwy. Gan fod cyllidebau mwy main o’n blaenau, ni allwn ddibynnu ar gyllid canolog cynyddol i ddatrys ein problemau, a bydd angen bod yn fwy arloesol. Rwyf am fod yn hyderus y bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

 

Catalydd yw cyfranogiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi buddsoddwyr eraill a phobl leol i gyfrannu at wella’u cymunedau. Mae’n bwysig bod pawb sy’n cyfrannu’n cydweithio i gael y gwerth gorau posibl o’u buddsoddiadau. Rwyf am weithio’n fwy rhagweithiol gyda phartneriaid i sicrhau hyn. Mae pob Ardal Adfywio’n unigryw gyda’u hanghenion a’u cyfleoedd gwahanol. Mae’n bwysig bod cyfranogwyr pob ardal, boed busnes, llywodraeth leol neu gymdeithas sifil, yn cymryd rhan er mwyn iddynt fanteisio ar gyfleoedd ac adfywio’r gymuned mewn modd sy’n gweithio iddyn nhw.

 

Rwyf am fuddsoddi er mwyn:

  • gwella ffyniant a lles y gymuned gyfan
  • symud tuag at gymunedau carbon isel
  • gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc

Bydd gwerthuso ein cyflawniad yn erbyn y blaenoriaethau hyn yn hollbwysig o ran asesu i ba raddau y mae’r rhaglenni adfywio wedi llwyddo. Dros y misoedd nesaf rwyf am weithio gyda phartneriaid i feithrin cyd-ddealltwriaeth o sut beth fyddai sicrhau’r dyheadau eang hyn o safbwynt mwy ymarferol a sut byddwn yn gwybod ein bod ar y trywydd iawn.