Skip to content

Ysgrifenedig - Strategaeth Amgueddfeydd Cymru

Dolenni perthnasol

Dyma'r strategaeth gyntaf i amgueddfeydd Cymru. Mae hi’n amlinellu camau gweithredu y gall amgueddfeydd eu cymryd i wella gwasanaethau ac i arddangos manteision amgueddfeydd i gymdeithas.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Hoffwn dynnu sylw Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw at gyhoeddi’r Strategaeth Amgueddfeydd cyntaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Mae Amgueddfeydd yng Nghymru yn chwarae rôl allweddol o ran gwarchod ein diwylliant a sicrhau ei fod ar gael i bawb ei fwynhau. Mae'r strategaeth yn gofyn i amgueddfeydd i ddenu mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan, i gyfrannu at dwristiaeth ddiwylliannol, hyrwyddo a datblygu’r iaith Cymraeg, rhannu casgliadau ar draws Cymru ac i ddenu mwy o bobl ifanc a phobl o leiafrifoedd ethnig.

 

Byddaf yn lansio'r Strategaeth Amgueddfeydd Cymru y bore yma yn amgueddfa hynaf Cymru, sef Amgueddfa Abertawe.

 

Mae copïau printiedig o'r Strategaeth ar gael drwy ffonio CyMAL ar 0300 062 2119.