Skip to content

Ysgrifenedig - Perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Aelodau’n ymwybodol o’r feirniadaeth o berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y cyfryngau yr wythnos ddiwethaf lle gwnaed cymariaethau gyda gwasanaethau ambiwlans eraill. Defnyddiodd yr adroddiadau ddata hanesyddol nad oeddent yn ystyried yr heriau gwahanol sy’n wynebu gwasanaethau Cymru a’r amrywiol ffyrdd y mae’r gwahanol wasanaethau’n ymateb i fathau penodol o alwadau.

 

Trafodwyd y mater hwn yn fyr yn y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar 10 Mehefin. Fodd bynnag, o ystyried ei bwysigrwydd, rwy’n teimlo y dylwn roi’r diweddaraf ichi am berfformiad yr Ymddiriedolaeth a’r datblygiadau sydd wedi digwydd ers fy natganiad diwethaf ym mis Tachwedd 2009.

 

Rwy'n falch i nodi bod y perfformiad o ran yr amseroedd ymateb wedi parhau i wella er mis Tachwedd 2009.  Yn 8 o'r 12 mis diwethaf, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cwrdd â'r targed cenedlaethol bod 65% o'r ymatebion cyntaf i alwadau Categori A yn cyrraedd o fewn 8 munud.  Dim ond yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Rhagfyr 2009 a mis Ionawr 2010 y  mae'r Ymddiriedolaeth wedi methu â chwrdd â'r targed o 65%. Roedd hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r gyfres o amgylchiadau unigryw ac anodd iawn a fu yn sgil y don gyntaf o ffliw moch a'r tywydd gaeafol eithriadol. 

 

Mater o bwys hefyd yw bod yr Ymddiriedolaeth wedi gwella'n sylweddol ar y lefelau perfformiad yn nifer o ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol lle gynt roedd wedi methu â bodloni'r safon gwasanaeth cydradd o 60%.  Rwy'n falch o nodi'r gwelliannau a wnaed yn Nhorfaen, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy, lle cyrhaeddwyd y targed o 60%.  Dangosir hyn gan y perfformiad a adroddwyd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill, lle nodir cyfradd ymateb gyffredinol o 70.5% i alwadau Categori A a chyfradd o 60%, o leiaf, ym mhob un o 22 o ardaloedd yr Awdurdodau Lleol.  Dyma'r tro cyntaf i'r targed o 60% gael ei gyrraedd ym mhob un o'r 22 o ardaloedd unedol, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal. Bydd hyn yn heriol iawn o gofio’r cynnydd parhaus yn y galw.

 

Rwy’n falch i nodi’r gwelliant sylweddol ym Mhowys. Bydd Aelodau’n llwyr ymwybodol o’r heriau unigryw sy’n ein hwynebu ym Mhowys, ac er bod y Grŵp Gwella a sefydlais yn gynharach eleni wedi gwneud cynnydd da, mae’n amlwg y bydd angen dull aml-asiantaeth i wella safonau gwasanaeth. Bydd y grŵp felly’n parhau gyda’i waith, ac yn cael cymorth pellach gan y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu a sefydlwyd yn ddiweddar.

 

Mae’r gwelliannau yr wyf yn adrodd amdanynt nawr yn ganlyniad gwaith caled a phroffesiynoldeb parhaus y criwiau ambiwlans, y parafeddygon a staff yr Ymddiriedolaeth, mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol tu hwnt.  Cafodd hyn gefnogaeth nifer o fuddsoddiadau o fewn y sefydliad ym maes technoleg, adeiladau, cerbydau, y gweithlu a gwelliannau mewn gwasanaethau clinigol, sy’n cynnwys:

  • darparu £5 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y rhaglen i gael cerbydau newydd
  • y ffaith y cyflwynwyd System Awtomatig i Leoli Cerbydau yn llawn
  • y gwaith sy'n mynd rhagddo i gyflwyno Prosiect Ailgaffael System Radio Ambiwlansys a'r Derfynell Ddata Symudol
  • y manteision sy'n dal i gael eu gwireddu yn sgil safle Vantage Point House
  • y gwaith i gyflwyno model brysbennu clinigol newydd i leihau nifer yr achosion o ddefnyddio ambiwlansys yn amhriodol a
  • y buddsoddiad parhaus i uwchsgilio staff megis Arweinwyr Timau Clinigol ac Ymarferwyr Arbenigol.

Yn ogystal â’r uchod, mae'r Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth â'r cyn Gomisiwn Iechyd Cymru, wedi comisiynu barn annibynnol ynghylch lle y gellid sicrhau mwy o welliannau a pha gamau sydd eu hangen i wneud hynny.  Derbyniwyd yr Adolygiad Annibynnol, ‘Adolygiad Effeithlonrwydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’ gan y ddau sefydliad a’u darparu i'r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2009. Daeth i'r casgliad:

  • y bydd y galw am ambiwlansys argyfwng yng Nghymru yn dal i gynyddu os yw'r model presennol o ofal yn parhau
  • bod cyfran sylweddol o gleifion yn cael eu trosglwyddo'n amhriodol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys pan fo modd rhoi gwell gofal iddynt mewn lleoliadau eraill
  • bod yr oedi sy’n dal i ddigwydd wrth drosglwyddo cleifion o’r gwasanaeth ambiwlans i adrannau damweiniau ac achosion brys yn rhwystr mawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys
  • bod y safonau ymateb cenedlaethol presennol yn rhwystr rhag newid, gan eu bod yn atgyfnerthu'r system, yr ymddygiadau a'r diwylliannau presennol
  • dylai Cymru fabwysiadu egwyddorion y safonau ymateb a ddefnyddir yn Lloegr; a
  • gallai'r Ymddiriedolaeth ddisgwyl cyflawni'r safonau ymateb cenedlaethol mewn modd cynaliadwy a gwella canlyniadau i gleifion os byddai model sy'n canolbwyntio mwy ar yr agwedd glinigol, yn cael ei gyflwyno'n llawn.

Rwyf wedi ystyried argymhellion yr adolygiad, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud ag adolygu'r polisi ar y safonau ymateb cenedlaethol.   Rwyf hefyd wedi derbyn cyngor clinigol arbenigol ar y mater hwn ac rwyf bellach yn argyhoeddedig y byddai adolygu'r safonau yn cefnogi'r gwaith o drawsnewid yr Ymddiriedolaeth yn wasanaeth clinigol modern sy'n gwneud penderfyniadau clinigol doeth, ar sail angen a blaenoriaeth clinigol - yn hytrach nag ar ddim mwy nag algorithm cyfrifiadurol.

 

Mae'r newidiadau rwyf wedi eu cyflwyno i'r safonau ymateb cenedlaethol yn rhai cymharol fychan, gyda galwadau Categori A yn dal i dderbyn ymateb o fewn 8 munud a galwadau Categori B yn dal i dderbyn ymateb o fewn 14/18/21 munud.  Yn achos rhai galwadau Categori A a Chategori B, bydd yr ymateb cychwynnol gan un adnodd ambiwlans, sef naill ai ambiwlans argyfwng neu gerbyd ymateb cyflym, ar sail angen clinigol.   Os na all y claf gael ei drin yn y fan a'r lle gan y clinigydd sydd yno, a bod angen ei gludo i'r ysbyty, bydd hyn yn digwydd o fewn 14/18/21 munud i gais y clinigydd.  Ar yr achlysuron hynny pan mai cerbyd ymateb cyflym sy'n darparu'r ymateb cychwynnol, a bod y clinigydd o'r farn ei fod yn ddull anaddas i gludo'r claf, bydd ambiwlans argyfwng neu gerbyd dibyniaeth fawr arall yn cael ei ddarparu i gludo'r claf.  Bydd y newidiadau hyn yn golygu bod y safonau yn cyd-fynd â'r rheini yn Lloegr, a bydd yn helpu i leihau'n sylweddol ar yr achosion hynny lle mae dau gerbyd yn cael eu hanfon. Dyma'r arfer ar hyn o bryd yn achos y rhan fwyaf o alwadau argyfwng.

 

O ran amseroedd trosglwyddo’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, rwyf wedi egluro wrth Gadeiryddion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol mai nhw sy’n bennaf gyfrifol am ddatrys y materion sy’n effeithio ar y modd y caiff cleifion eu trosglwyddo. Rwyf wedi gofyn iddynt ganolbwyntio ar wella’r broses gyda’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a datblygiad y llwybr gofal sydd heb ei drefnu, gan sicrhau ei fod yn darparu ystod o wasanaethau sy’n diwallu anghenion cleifion ac yn cynnig lleoliadau eraill yn lle ysbytai.

 

Rwy'n disgwyl i'r newidiadau hyn arwain at nifer o fanteision sylweddol.  Yn bennaf, dylai roi rhagor o gefnogaeth i'r Ymddiriedolaeth a'r BILl i weithio mewn partneriaeth i drin mwy o gleifion yn eu cartrefi eu hunain, yn y fan a'r lle ac mewn amryw o leoliadau heblaw ysbytai. Dylai hefyd arwain at leihad yn nifer y cleifion sy'n cael eu trosglwyddo i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.  Bydd hefyd yn rhyddhau adnoddau'r gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys i ymdrin yn fwy effeithiol â chleifion sydd ag angen gwirioneddol am ofal argyfwng. Yn ogystal â hyn, bydd yn sicrhau bod cleifion sy'n dioddef trawiad ar y galon yn derbyn ambiwlans cyn cleifion sydd â mân anafiadau nad ydynt yn golygu bod bywyd mewn perygl dybryd.  Yn olaf, bydd yn sicrhau bod modd manteisio i'r eithaf ar holl sgiliau a phroffesiynoldeb staff yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans. Bydd yn eu galluogi i weithio mewn partneriaeth agos â chleifion a'r Byrddau Iechyd Lleol i wneud yn siŵr bod penderfyniadau clinigol effeithiol yn cael eu gwneud, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

 

Rwyf wedi gofyn i'r Ymddiriedolaeth roi’r cynigion hyn ar waith yn llawn ac i weithio gyda’r Byrddau Iechyd i ddatblygu ymateb cynhwysfawr i Ofal heb ei Drefnu, fel rhan o’r Fframwaith Strategol 5 mlynedd.