Heddiw, hoffwn wneud datganiad am y gwerth mawr a roddwn ar gymuned ein lluoedd arfog ac am ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i wella’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarparwn ar eu cyfer. Cyn gwneud hynny, mae’n iawn sôn am y newyddion trychinebus ddoe bod nifer aelodau lluoedd Prydain sydd wedi’u lladd yn Afghanistan bellach wedi cyrraedd 300. A minnau’n Aelod dros sir y Fflint, yr wyf yn ymwybodol iawn inni golli’r Is-gorpral Alan Cochran. Cynhelir ei angladd ddydd Gwener, ac estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant i’w deulu. Estynnaf fy nghydymdeimlad hefyd i deuluoedd aelodau’r lluoedd sydd wedi colli eu bywyd ar faes y gad a rhoddaf deyrnged fawr i’r lluoedd hynny sy’n gwasanaethu drwy’r byd heddiw. Mae newyddion fel hyn yn dangos yn glir iawn faint yr ydym yn ei ofyn gan ein lluoedd arfog.
Ddydd Sadwrn, bydd Caerdydd yn cynnal dathliad Diwrnod Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y bae. Bydd Ei Mawrhydi Brenhinol, Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn arwain pobl Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wrth anrhydeddau cymuned ein lluoedd arfog. Mae Diwrnod y Cofio wedi cael ei gynnal ers tro i goffáu’r rheini a fu farw wrth amddiffyn ein gwladwriaeth. Serch hynny, tan bedair blynedd yn ôl, nid oedd digwyddiad cenedlaethol i gydnabod yr aelodau hynny o gymuned y lluoedd arfog sy’n fyw, a’r aberth y maent hwy wedi’i wneud i amddiffyn ein diogelwch a gwarchod ein rhyddid. Yn 2006, cynhaliwyd Diwrnod cyntaf y Cyn-filwyr. Yn fuan iawn, daeth yn rhan o’r calendr cenedlaethol a’r llynedd, ehangodd a dod yn Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Nid dim ond ein lluoedd rheolaidd y byddwn yn eu hanrhydeddu ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, er eu bod yn gwneud gwaith hanfodol ac anodd; mae’n ddiwrnod hefyd inni gydnabod cyn-filwyr gwrthdrawiadau blaenorol, teuluoedd y lluoedd, y lluoedd wrth gefn a’r cadlanciau. Mae’n debyg mai llawer o’r cadlanciau hyn fydd y genhedlaeth nesaf i wasanaethu yn y lluoedd
Er nad yw polisi amddiffyn wedi’i ddatganoli, gallwn ymfalchïo’n fawr bod gan Gymru draddodiad milwrol ers blynyddoedd lawer. Mae cysylltiad clos rhwng ein cenedl a sawl catrawd, ac mae gan y fyddin ar hyn o bryd bresenoldeb sylweddol yma, a hynny’n bennaf yn Aberhonddu, Brawdy a Sain Tathan. Mae gan yr RAF hefyd gysylltiad ers tro â sawl rhan o Gymru. Mae gan y Llynges Frenhinol berthynas clos o hyd â sawl llong a llong danfor sy’n gysylltiedig â nifer o drefi a dinasoedd Cymru. Hefyd, mae yma nifer o feinteiau wrth gefn a chadlanciau yma. A minnau’n gyn-aelod o T.S. Tuscan, yr wyf yn gyfarwydd iawn ag ef.
Mae ymuno â’r lluoedd arfog yn ddewis gyrfa poblogaidd i lawer o’n pobl ifanc. Credwn fod nifer y recriwtiaid o Gymru’n gyson uwch na’n cyfran 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae gan bron 3,000 o filwyr, morwyr ac aelodau’r Llu Awyr Brenhinol eu canolfan yng Nghymru. Ynghyd â’u teuluoedd, maent yn rhan hanfodol o gymdeithas Cymru. Maent yn defnyddio’n hysgolion, ein gwasanaethau iechyd a’n trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y gwasanaethau hyn a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion. Rhaid iddynt beidio â bod o dan anfantais am y rheswm syml bod y gadwyn reoli filwrol yn disgwyl iddynt symud i rywle arall bob dwy neu dair blynedd. Rhaid iddynt beidio â chael eu hamddifadu o wasanaethau am y rheswm syml eu bod yn byw y tu ôl i ffens un o safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yr ydym wedi canolbwyntio’n benodol ar wella darparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau’r lluoedd arfog. Mewn ambell achos, yr ydym wedi cydnabod eu haberth arbennig drwy eu trin yn fwy ffafriol na defnyddwyr eraill gwasanaethau, a hynny’n gwbl gywir. Er enghraifft, mae gan gyn-filwyr bellach yr hawl i gael blaenoriaeth wrth gael triniaeth o dan y GIG am gyflyrau iechyd sy’n deillio o’u gwasanaeth milwrol. Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi lledaenu gwasanaeth iechyd meddwl arbennig i gyn-filwyr ledled Cymru. Mae hefyd wedi rhoi gwaith ar y gweill i wella’r cysylltiad rhwng gwasanaethau iechyd a’r lluoedd i wella gofal iechyd i’w cyn-aelodau.
Pan fydd teuluoedd y lluoedd a chanddynt blant yn gorfod symud i ardal newydd, mae trefniadau arbennig sy’n caniatáu iddynt wneud cais am leoedd mewn ysgol cyn iddynt symud.
O fis Ebrill ymlaen, bydd cyn-filwyr sy’n ddifrifol o anabl yn gymwys i deithio’n rhatach ar fysiau heb orfod disgwyl nes iddynt gyrraedd eu 60 oed. Mae aelodau’r lluoedd sy’n dymuno prynu cartref gyda chymorth y cynllun cymorth prynu wedi cael statws blaenoriaeth. Gallant hefyd, mewn sefyllfa eithriadol, wneud cais am isosod eu cartrefi os cânt eu symud i ffwrdd i wasanaethu ar faes y gad. Mae aelodau’r lluoedd a chanddynt ail gartref yng Nghymru wedi cael gostyngiad o 50 y cant ar eu treth gyngor. Mae hynny o gymorth arbennig i bobl sy’n prynu cartref iddynt ymddeol iddo ar ôl cwblhau eu gwasanaeth milwrol.
Ac edrych ymlaen, yr ydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod ein polisïau a’n rhaglenni yn rhoi sylw priodol i anghenion penodol cymuned y lluoedd arfog. I gynorthwyo gyda hyn, yr wyf wedi sefydlu grŵp arbenigol i gynghori Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â phethau sy’n destun pryder i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, ac ynglŷn â sut orau y gellid mynd i’r afael â’r rhain. Mae’r grŵp yn cynnwys tri Chadlywydd y gwasanaethau ar gyfer Cymru, ac mae’r rheini’n cynrychioli Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges Frenhinol, y fyddin a’r RAF, ynghyd ag enwebeion o’r trydydd sector, a dau o’r rheini’n gyn-filwyr. Bûm yn cadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp ar 26 Mai, ac yr oeddwn yn falch o weld ymagwedd agored a chadarnhaol pawb a oedd yn rhan o’r cyfarfod.
Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn olaf mis Mehefin, ond bydd digwyddiadau lleol a gynhelir ledled y Deyrnas Unedig yn ymestyn yr achlysur dros nifer o wythnosau. Bob blwyddyn, bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dewis tref neu ddinas i gynnal dathliad cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Yr wyf wrth fy modd i Gaerdydd gael ei dewis i gynnal y digwyddiad eleni, gyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad. Mae digwyddiadau wedi’u cynnal eisoes mewn ambell ran o Gymru, a chynhelir rhai eraill yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ddydd Sadwrn, Caerdydd fydd y canolbwynt yn bennaf. Bydd rhan ffurfiol y diwrnod yn dechrau gyda gorymdaith gan aelodau sy’n gwasanaethu yn y lluoedd ar hyn o bryd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chadlanciau, a byddant yn gorymdeithio o gastell Caerdydd i’r bae, lle bydd Ei Mawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru’n derbyn y saliwt. Wedyn, bydd gwasanaeth awyr agored gan ddefnyddio drymiau’n allor yn Roald Dahls Plass, o dan arweiniad prif gaplan yr RAF. Yn y prynhawn a chyda’r nos, bydd rhaglen o arddangosiadau milwrol ac adloniant i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Anogaf bob Aelod o’r Cynulliad i ddangos ei gefnogaeth i gymuned ein lluoedd arfog drwy ymuno â digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, naill ai yng Nghaerdydd neu yn eu hetholaeth.