Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad o Fuddsoddiadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi cyhoeddi heddiw ganlyniadau Adolygiad strategol o Fuddsoddi.  O 2011-12 mae'n bwriadu dyrannu ei adnoddau i nifer llai o gyrff celfyddydol.  O ganlyniad ni fydd nifer o gyrff celfyddydol bellach yn derbyn cyllid refeniw ar gyfer talu costau blynyddol eu gweithrediadau.  Mae'n angenrheidiol gwneud hyn er mwyn sicrhau sector celfyddydol ffyniannus a gwydn. Gallai sefydliadau sydd wedi clywed heddiw na fyddant yn derbyn cyllid refeniw oddi wrth CCC o'r flwyddyn ariannol nesaf fod yn gymwys i hawlio arian y Loteri ar gyfer prosiectau penodol.  Efallai y byddant hefyd yn gallu derbyn cyllid trosiannol a fyddai'n eu helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol ar gyfer rheoli'r newid mewn trefniadau cyllid.  Gwnaed y penderfyniadau yng nghyd-destun adolygiad mwy sylfaenol o bolisi cyllid CCC, sef yr adolygiad mwyaf trylwyr y mae CCC erioed wedi'i gynnal.

 

Mae Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'r ffaith y caiff y rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy CCC, sy'n gweithio o fewn fframwaith strategol y cytunwyd arno â'r Llywodraeth.  Ers 2007, Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau (BSC) sydd wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio'r fframwaith hwn, ynghyd ag ymrwymiadau Cymru'n Un o safbwynt y celfyddydau.  Sefydlwyd BSC yn dilyn yr adolygiad o'r celfyddydau yng Nghymru, a gadeiriwyd gan yr Athro Elan Closs Stephens.

 

Deilliodd yr Adolygiad Buddsoddi o bryderon llawer o fewn cymuned y celfyddydau, yr oeddwn i a'm rhagflaenydd yn cytuno â hwy, ynghylch yr arian cyhoeddus a ddarparwyd ar gyfer y celfyddydau.  Y prif bryder oedd nad oedd y patrwm hanesyddol o gyllid refeniw ar gyfer ychydig llai na 100 o sefydliadau celfyddydol yn sicrhau bod yr arian cyhoeddus a ddyrannwyd ar gyfer y sector hwn yn creu'r canlyniadau gorau ar gyfer bywyd yng Nghymru, ac yn wir economi Cymru.   Fel y noda datganiad CCC o'i weledigaeth, "Imagine" mae angen i ni sicrhau sector cynhyrchiol ar lefel artistig ag iddo drefniadau ariannol gwydn.  Am y rhesymau hyn bu'n rhaid i CCC wneud rhai penderfyniadau anodd iawn, yn unol â'r gofyn a nodwyd gennyf yn eu cylch gwaith i fynd ati'n drylwyr i asesu effeithiolrwydd eu buddsoddiadau cyfredol.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad ar sail ymarfer ymgynghori eang â sefydliadau celfyddydol o bob cwr o Gymru yn ystod haf 2009.  Gofynnwyd i sefydliadau celfyddydol cymwys gyflwyno cynlluniau busnes i CCC erbyn canol dydd ar 14 Rhagfyr, gan gyfiawnhau eu hawl i gymorth a nodi faint o gyllid yr oedd ei angen arnynt ar gyfer gweithredu eu cynlluniau.  Rwy'n cydnabod holl waith y 116 o sefydliadau a gyflwynodd eu cynlluniau erbyn y dyddiad a bennwyd.

 

Mae CCC wedi fy niweddaru yn ystod holl gamau allweddol yr adolygiad, a hoffwn ddiolch i'r Athro Dai Smith, y Cadeirydd, a Nick Capaldi, y Prif Weithredwr, ynghyd â holl aelodau o fwrdd CCC a'i staff, am ymgymryd â'r adolygiad hwn mewn modd mor drylwyr, sensitif ac agored.  Roeddent yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb yr oedd arnynt, ac maent wedi mynd ati i hysbysu'r sector ynghylch diben yr adolygiad a'i ganlyniadau.  Mae proses apelio wedi cael ei sefydlu ar gyfer unrhyw gwmnïau aflwyddiannus a allai fod yn anfodlon â'r modd y cynhaliwyd yr adolygiad.  Cafodd Aelodau'r Cynulliad gyfle i fynychu sesiwn briffio amser brecwast a gynhaliwyd gan CCC ar 19 Mai.

 

Syniad CCC yw’r broses adolygu.  Mae’n seiliedig ar yr arian a ddyrennir i’r Cyngor ar hyn o bryd, ac yn cymryd i ystyriaeth ei gyfrifoldeb i sicrhau bod sector y celfyddydau yng Nghymru yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian.  Oherwydd y sefyllfa bresennol o ran cyllid cyhoeddus, mae CCC yn ymwybodol o’r posibilrwydd y bydd angen edrych eto ar ei benderfyniadau gwreiddiol os bydd unrhyw ostyngiad yn ei gymorth grant cyffredinol.

 

Mae’r adolygiad yn ei gwneud yn ofynnol i CCC gydnabod y meysydd gwan yn ein darpariaeth celfyddydau ac ymdrin â nhw; parhau i ddatblygu’r celfyddydau yng Nghymru ar draws pob ffurf ar gelfyddyd; a gweithio gyda’i brif gwsmeriaid i sicrhau bod y cwmnïau hyn yn cael y gefnogaeth i roi o’u gorau.

 

Mae safon uchel y gwaith yr wyf yn ei weld ar draws Cymru bob wythnos yn parhau i'm calonogi ac yn creu argraff fawr arnaf i. O'r cynyrchiadau a gaiff eu llwyfannu gan ein cwmnïau theatr, yn y Gymraeg a'r Saesneg; i'r gelf gyfoes a ddangosir yn ein rhwydwaith newydd o orielau uchel eu bri; i waith cwmnïau llai, sy'n dibynnu'n fawr ar ewyllys da gwirfoddolwyr a staff medrus iawn sy'n aml yn gweithio am gyflogau bach iawn.  Mae gennym bellach artistiaid, gan gynnwys ein cwmnïau cenedlaethol, sy'n cael eu gwahodd i berfformio ar draws y byd, ynghyd â sefydliadau sy'n creu ffocws ar gyfer cymunedau llai ar draws Cymru.  Mae gennym ddawnswyr, cantorion, storïwyr a chrefftwyr y caiff eu gwaith ei ddangos yn ein horielau a'n lleoliadau perfformio, yn ogystal ag yn Tsieina, yr UDA a thu hwnt. Mae CCC wedi cymryd y cam hwn yn awr er mwyn diogelu, datblygu a hyrwyddo gweithgareddau o'r fath. Fel rhan o'i gylch gwaith bydd yn gwneud penderfyniadau pendant a fydd yn cadw sector y celfyddydau yn gynhyrchiol ac yn gadarn yn ystod y blynyddoedd anodd sydd i ddod.