Skip to content

Llafar - Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Yr wyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y cynnydd gyda rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi Cymru, yn sgil fy natganiadau ysgrifenedig blaenorol. Mae goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf i Gymru, yn enwedig i’r tlotaf a’r mwyaf agored i niwed, yn cadarnhau ei bod yn hollbwysig inni gynnal y gwasanaethau cyhoeddus y mae cynifer yn dibynnu arnynt. Y rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi yr wyf yn ei harwain sydd wrth wraidd yr ymateb unigryw yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu dros y flwyddyn diwethaf i dywys gwasanaethau cyhoeddus drwy’r ychydig flynyddoedd nesaf a’r pwysau ariannol y cafwyd arwydd ohonynt yn y gyllideb.

 

Nod y rhaglen yw gweddnewid effeithlonrwydd gweithredol, sbarduno arloesi yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynllunio a’u darparu, a hyrwyddo cydweithredu er mwyn inni barhau i sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru. Mae a wnelo hyn â gwella gwasanaethau ac arbed costau, gan ganolbwyntio ar y dinesydd.

 

Seilir ein hagwedd ar bartneriaeth gymdeithasol, tanio ymrwymiad ac ymdrech ar y cyd drwy’r holl wasanaethau a’r sectorau cyhoeddus drwy gyfrwng yr uwchgynadleddau gwasanaethau cyhoeddus a gynullwyd gan y Prif Weinidog, gan gynnig yr arweiniad ar y cyd a’r gwaith partneriaeth y mae eu hangen er mwyn inni allu camu ymlaen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Bydd gan bob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, a phob sector, boed hwnnw’n drydydd sector, yn heddlu, yn llywodraeth leol ynteu’n GIG Cymru, ei gynlluniau ei hun ar gyfer y ffordd ymlaen. Ni lwyddir i sicrhau’r newid angenrheidiol os bydd pawb yn gweithio mewn seilo. Yr unig ffordd o fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau yw trwy gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae’r uwchgynadleddau a’r bwrdd effeithlonrwydd ac arloesi’n dangos mai dyna’r lle i wneud hynny o ran nifer o faterion craidd.

 

Ar hyn o bryd, mae saith ffrwd waith i’r rhaglen a phob un o’r rheini’n cael ei harwain gan brif weithredwr un o’r gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn manteisio ar adnoddau ac arbenigedd proffesiynol Llywodraeth y Cynulliad, gwasanaethau cyhoeddus ac adnoddau o fannau eraill. Yr wyf am ddiolch i bawb sydd wedi cynnig arweiniad yn y rhaglen hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinwyr gwleidyddol a gweinyddol ar draws holl sbectrwm y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

 

Mae’r pwysau di-baid ar wasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu neu i addasu’r arferion gorau’n thema sylfaenol gref. Mae pob ffrwd waith yn cynnwys set o brosiectau sydd wedi’u cynllunio i fabwysiadu dulliau ar y cyd i wasgu ar gostau. O ran caffael, mae’r rhain yn cynnwys targed i arbed £200 miliwn dros bum mlynedd drwy arddel ymagwedd fwy radical, cryfhau ein strategaeth cyrchu genedlaethol a chontractau Cymru gyfan, gweithio’n ddeallus gyda’n sylfaen cyflenwi, a manteisio i’r eithaf ar system e-gaffael arobryn cyfnewidcymru. Er enghraifft, mae Gwerth Cymru a Chyflenwadau Iechyd Cymru wedi datblygu contract fframwaith ar gyfer cyfarpar cymunedol, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, sy’n arbed dros £1 filiwn y flwyddyn ar brynu cymhorthion megis cyfarpar codi, comodau ac offer i bobl anabl, ac ar yr un pryd mae’n gwella safonau ac o fudd i fusnesau yng Nghymru. Dyma un ffrwd waith sydd eisoes yn ymwneud yn effeithiol â’r sector preifat, yn adlewyrchu llwyddiant yr uwchgynadleddau economaidd a rhaglen adnewyddu’r economi a gyhoeddir yn fuan sy’n gysylltiedig â’r uwchgynadleddau hynny .

 

Bydd y ffrwd waith sy’n ymwneud â rheoli asedau’n sicrhau arbedion drwy ddefnyddio’r sylfaen asedau cyhoeddus sy’n werth £10 miliwn yn well, gan gynnwys cyd-ddefnyddio, cyd-reoli, cyd-drosglwyddo a chyd-waredu.

 

O ran TGCh, yr ydym yn gwthio ymlaen â fframwaith Cymru gyfan ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, a hwnnw’n seiliedig ar raglen cydgasglu band eang y sector cyhoeddus. Fel rheol, bydd hynny’n arbed hyd at 20 y cant ar y trefniadau presennol, drwy rannu canolfannau data, trwyddedu meddalwedd a chamau eraill.

 

Drwy’r ffrwd waith sy’n ymwneud â gweddnewid busnes, yr ydym yn sefydlu prosiect i hyrwyddo dulliau main a dulliau meddwl trwy systemau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn symleiddio ffyrdd o weithio. Yr ydym am adeiladu ar sail enghreifftiau rhagorol, gan gynnwys y rheini yng Nghastell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent sydd wedi lleihau gwastraff yn sylweddol ym maes gweinyddu budd-daliadau tai a threth gyngor a’r grant cyfleusterau i bobl anabl. Bydd y ffrwd waith hefyd yn ystyried sut y gellir arbed arian wrth ddefnyddio technoleg symudol a manteisio i’r eithaf ar ofod swyddfa; ac yn defnyddio’r dychymyg i geisio gostwng costau swyddfa a chyfarfodydd.

 

 

Mae a wnelo’r ffrwd waith sy’n ymwneud â modelau newydd o ddarparu gwasanaethau ag ail-lunio’r rheng flaen hefyd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dri neu bedwar maes darparu gwasanaethau dyrys lle y llwyddwyd i gymryd camau arloesol. Bydd angen trosi hynny’n newid drwy Gymru gyfan. Un enghraifft o hynny yw cyd-drefnu a chydlynu’n well yr holl wasanaethau sy’n ymwneud â theuluoedd, y rhai sy’n hyrwyddo byw’n annibynnol a gwasanaethau bro. Y wobr fydd gwell canlyniadau, llai o ddyblygu a rhyddhau adnoddau.

 

Mae ein ffrwd sy’n ymwneud ag arweiniad yn mynd i’r afael â datblygu trefniadaeth a sgiliau arwain ar gyfer cyfnod anodd. Yn ein ffrwd waith sy’n ymwneud â datblygu’r gweithlu, yr ydym yn sefydlu system i gynorthwyo’r rheini sy’n ymadael â sector neu’n symud i sector arall. Bydd yn eu cynorthwyo i groesi pont yn eu gyrfa ac ymhlith pethau eraill, yr ydym yn ystyried creu cronfa swyddi i’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae sicrhau cyfraniad yr undebau llafur drwy gyngor partneriaeth y gweithlu’n arbennig o bwysig. Yr arbenigwyr go iawn o ran ail-lunio’r rheng flaen yw’r rheini sy’n gwneud y gwaith ac yn defnyddio’r gwasanaethau. Dros yr haf, bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â staff ac â defnyddwyr i glywed eu syniadau. Drwy hyn, ac mewn ffyrdd eraill, byddwn yn parhau i ddatblygu’r rhaglen a byddaf yn cyhoeddi cynllun rhaglen a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion.

 

Hefyd, dosberthir bwletin rheolaidd, Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sefydliadau’r gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, ac mae rhifyn Mehefin newydd ei gyhoeddi. Cynhelir ail uwchgynhadledd y gwasanaethau cyhoeddus ddydd Gwener, 2 Gorffennaf, gan ddod â holl arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i gryfhau eu hymrwymiad i’r rhaglen ac i symud oddi wrth rannu diben i rannu’r broses o roi ymrwymiadau ar waith. Thema’r uwchgynhadledd fydd iechyd a gofal cymdeithasol integredig gan ddefnyddio profiadau’r GIG i ledaenu’r arferion gorau drwy’r gwasanaethau cyhoeddus, a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fydd y siaradwr gwadd. Bydd y bwrdd effeithlonrwydd ac arloesi’n cyfarfod yn fuan wedyn.

 

Yr wyf am gydnabod yr holl waith arall sy’n cael ei wneud i wella effeithlonrwydd gan ein gweithlu yn y sector cyhoeddus, gan ein partneriaid cymdeithasol a chan sefydliadau unigol. Mae rhywfaint o hyn yn gweddnewid pethau o ddifrif a byddwn yn gweld rhagor ohono wrth i argymhellion yr adolygiad strategol o addysg a’r comisiwn gwasanaethau cymdeithasol ymddangos yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae gwir ymdeimlad o reidrwydd cenedlaethol ac ymrwymiad i wneud popeth sy’n bosibl drwy sicrhau effeithlonrwydd, gwelliannau ac arloesi er mwyn diogelu dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.