Nod fframwaith effeithiolrwydd ysgolion Llywodraeth y Cynulliad yw cynnig arweiniad cryf ac effeithiol mewn ysgolion a sicrhau bod ysgolion yn gwneud yn dda. Mae’n cynnig y polisi cyffredinol i sbarduno gwella safonau a’r ddarpariaeth addysgol dros y degawd nesaf. Fe’i datblygwyd ar sail ymchwil rhyngwladol i’r hyn sy’n gwneud ysgolion yn effeithiol ac fe’i seilir ar yr hyn a elwir gan addysgwyr yn 'ddiwygio system-gyfan’. Mae hyn yn golygu bod y system addysg ar bob lefel yn cydweithredu er lles pob plentyn a pherson ifanc ym mhob ysgol. Bydd y Fframwaith yn sbarduno diwygio addysg yng Nghymru a bydd pob polisi addysg arall yn cael ei gysoni â’r fframwaith hwn.
Y nodau cyffredinol yw sicrhau gwell canlyniadau dysgu a gwell lles i bob plentyn a pherson ifanc, ni waeth beth yw ei gefndir cymdeithasol-economaidd, a lleihau’r amrywiadau a welir rhwng canlyniadau dysgu o fewn ystafelloedd dosbarth, ysgolion ac awdurdodau a rhyngddynt.
Ers ysgwyddo’r swydd hon, yr wyf wedi pwysleisio bod angen gwell gweithredu a llai o gynlluniau a phwysigrwydd cadw pethau’n syml. Felly, bydd y Fframwaith yn canolbwyntio’n syml ar dair blaenoriaeth gydgysylltiedig: gwell lefelau llythrennedd, gwell lefelau rhifedd a lleihau dylanwad tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
Yr wyf am weld diwylliant dyheadau uchelgeisiol i’n holl bobl ifanc, o ba ddosbarth cymdeithasol bynnag, a beth bynnag y bo cefndir eu teulu, eu rhyw, eu hethnigrwydd neu eu hiaith. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol ac ysgolion yn cydweithio i benderfynu sut mae bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn o fewn fframwaith cenedlaethol ehangach. Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu sut y’i gwireddir yn lleol ac yn rhanbarthol yng nghyd-destun y trywydd polisi cenedlaethol.
Mae’r fframwaith effeithiolrwydd ysgolion yn rhoi penaethiaid ac athrawon wrth lyw’r diwygio, ac yn gefn i hynny, rhoddir her effeithiol a rôl arwain i awdurdodau lleol. Mae’n cydnabod rôl ganolog athrawon o ran gweddnewid canlyniadau dysgwyr, drwy ddatblygu cymunedau dysgu proffesiynol, lle bydd athrawon yn dysgu’r naill gan y llall. Maes o law, byddwn yn sicrhau bod ein strwythur ar gyfer llywodraethu ysgolion yn gefn i’r fframwaith hefyd.
Bydd chwe phrif beth yn sbarduno newid. Yn gyntaf, defnyddio data’n effeithiol, gan gynnwys data arolygu Estyn, i feincnodi perfformiad ac i ddynodi meysydd y gellid eu datblygu a’u gwella. Caiff fframwaith arolygu cyffredin Estyn ei gysoni â’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion o’r hydref ymlaen. Yn ail, cryfhau addysgu a dysgu drwy ddewislen o gyfleoedd cydlynol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Yn drydydd, cryfhau arweiniad mewn ysgolion ac awdurdodau lleol drwy ganolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr a theilwra’r trefniadau ar gyfer hynny. Yn bedwerydd, sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol o fewn ysgolion, rhyngddynt ac ar eu traws. Yn bumed, egluro atebolrwydd ysgolion, llywodraethwyr, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad. Yn chweched, meithrin gallu ar lefel yr ysgol, yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae gwaith ar y gweill eisoes i dreialu’r fframwaith effeithiolrwydd ysgolion a chynhelir rhagor o weithdai fis nesaf. Mae’r gefnogaeth a gafwyd i’r fframwaith, nid yn unig o du awdurdodau lleol, penaethiaid ac athrawon, ond o du disgyblion sydd wedi bod yn ymwneud â’r cynlluniau peilot, wedi creu argraff arnaf. Yr ydym eisoes wedi cytuno ar fodel cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion gyda phob un o’r 22 awdurdod lleol, wedi rhoi hyfforddiant arwain system i awdurdodau lleol, ac wedi rhoi hyfforddiant ar gymunedau dysgu proffesiynol i 850 o ysgolion ledled Cymru ac i 12 awdurdod lleol. Rhoddir hyfforddiant i 650 o ysgolion eraill ac i bum awdurdod yn nhymor yr hydref. Bydd gweddill yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn cael hyfforddiant erbyn mis Mawrth 2011. Mae llawer o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd.
Er mwyn gwireddu tair blaenoriaeth y Fframwaith, bydd angen inni dynnu ynghyd wahanol elfennau’r gwaith sydd ar y gweill eisoes, gan sicrhau ein bod yn gwireddu gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc. Er enghraifft, drwy’r cynllun gweithredu ar bresenoldeb ac ymddygiad, ein nod fydd creu diwylliant ymyrryd yn gynnar, cymorth effeithiol a dulliau o rannu’r arferion gorau i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb yn ein hysgolion i gyd, er mwyn i ddysgwyr ddysgu yn ein hystafelloedd dosbarth yn hytrach na bod eu sylw’n cael ei dynnu oddi ar eu gwaith am fod rhai’n camymddwyn. Yr ydym yn dal i fwrw ymlaen ag agenda diwygio statudol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y diwygio’n sicrhau gwell amgylchedd dysgu a gwell canlyniadau i bob plentyn a pherson ifanc a chanddo anghenion dysgu ychwanegol.
Wrth inni ganolbwyntio ar lythrennedd, yr ydym, wrth gwrs, yn cadw mewn cof bod angen sicrhau llythrennedd yn y Gymraeg fel iaith gyntaf yn ogystal ag yn y Saesneg a rhoi sylw dyladwy i’r materion sy’n codi mewn llawer o sefyllfaoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae sicrhau bod y cymunedau dysgu proffesiynol sy’n egino’n rhoi sylw i amrywiaeth ieithyddol Cymru yn elfen hollbwysig wrth ddatblygu’r fframwaith effeithiolrwydd ysgolion. Dylent wella’r cymorth sydd ar gael i holl athrawon Cymru. Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau bod cymunedau dysgu proffesiynol cyfrwng Cymraeg effeithiol yn cael eu creu
Fel yr wyf wedi dweud ar goedd, yr wyf wrthi’n ystyried sut mae defnyddio’r diwrnodau hyfforddiant mewn swydd i gefnogi’r Fframwaith, gan geisio, ar yr un pryd, sicrhau cyn lleied o darfu ar addysg ag y bo modd pan fydd y tywydd yn wael. Byddaf yn rhoi datganiad ysgrifenedig am hyn cyn bo hir. Fel y gŵyr yr Aelodau, er mwyn cynorthwyo i ddiwygio’r system drwyddi draw, ym mis Ionawr eleni, cyhoeddais hefyd adolygiad eang a strategol i ystyried cost gweinyddu’r system addysg yng Nghymru. Cwblhawyd cyfnod 1 yr adolygiad gan PricewaterhouseCoopers a chyhoeddwyd ei adroddiad ar 18 Mai. Mae fframwaith prosiect wrthi’n cael ei ddatblygu yn awr i gynnig yr arweiniad a’r trywydd strategol sy’n angenrheidiol er mwyn sbarduno’r newidiadau y mae gofyn amdanynt ac er mwyn a chwistrellu momentwm go iawn i’r broses.
Drwy gydweithio, mae fy adran, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, llywodraeth leol ac ysgolion yn dechrau diwygio system yr ysgolion. Mae heriau lawer o’n blaenau, ond mae’n hollbwysig inni fwrw ymlaen yn ddiwyro â’r gwaith hwn er mwyn inni wella pethau’n sylweddol ac mewn ffordd gynaliadwy i bob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig yng nghyswllt llythrennedd, rhifedd a lleihau’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol.