Skip to content

Ysgrifenedig - Graddau Sylfaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Fel y nodais yn fy Natganiad i’r Cynulliad ar 29 Mehefin, rhaid inni adeiladu system addysg uwch gynhwysol a hygyrch sy’n gallu ymateb i anghenion Cymru. Rhan hanfodol o hyn yw’r angen i addysg uwch chwarae rhan llawer amlycach wrth ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar economi Cymru a’i gweithlu i arloesi a chystadlu. Bydd y gofyniad hwn yn golygu cyfathrebu a chynllunio ar y cyd ar ran Sefydliadau Addysg Uwch a Phellach brwdfrydig, ac mae’n ganolog i gyflawni’r amcanion a nodir yn Er Mwyn Ein Dyfodol.

Yn fy Llythyr Cylch Gwaith, cyfarwyddais Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i sicrhau bod Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn gallu ymateb i anghenion cyflogwyr a’r gweithlu, gan nodi bod disgwyl iddynt ganolbwyntio’n benodol ar gynllunio a darparu graddau sylfaen.

I’r perwyl hwn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod CCAUC yn mynd ati i ymgorffori graddau sylfaen fel rhan annatod o’i Fframwaith Cynllunio Rhanbarthol.  Caiff hwn ei ategu hefyd gan Bolisi Gradd Sylfaen, sydd i’w gyhoeddi gan CCAUC ddiwedd mis Gorffennaf.  Bydd y dull strategol hwn o gynllunio, datblygu a chyflenwi graddau sylfaen yn gwneud cyfraniad hollbwysig i ddiwallu’r angen am sgiliau economaidd yng Nghymru, ac yn bodloni’r blaenoriaethau a geir yn Er Mwyn Ein Dyfodol.  

Yn unol â’r egwyddorion a nodir yn Er Mwyn Ein Dyfodol, rwy’n disgwyl i CCAUC sicrhau y darperir graddau sylfaen trwy gyfrwng fframwaith rhanbarthol sydd wedi’i gynllunio’n dda.  Bydd hwn yn diwallu anghenion cyflogwyr, yn cael gwared ar gystadleuaeth aneffeithiol, ac yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu heb fwlch yn y ddarpariaeth ar eu cyfer. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid canolbwyntio ar gydweithredu rhwng darparwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch a chyflogwyr, a hynny i sicrhau bod y sgiliau a nodwyd yn cael eu darparu heb unrhyw fylchau. Mae’n bwysig i hyn gynnwys y gymuned a chyflogwyr sector gwirfoddol, fel sy’n briodol.

Yn olaf, rwy’n disgwyl i raddau sylfaen ganolbwyntio ar y sectorau sy’n flaenoriaeth, neu gynnig tystiolaeth o’r angen am y ddarpariaeth er mwyn derbyn cyllid cyhoeddus.

Bydd y strategaeth hon yn sicrhau bod Graddau Sylfaen yn elfen bwysig o addysg uwch yn rhanbarthol, a’u bod yn cael eu cynnig fel llwybrau dysgu posibl yn y partneriaethau dysgu 14-19 ac fel cyfleoedd i bobl sydd mewn cyflogaeth i ddatblygu.  Bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgu fesul cam a, thrwy hynny, yn gwneud mwy o ddefnydd ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).  

Fel rhan o’r dull strategol hwn, o fis Hydref 2010 ymlaen bydd gan y Cyfrin Gyngor bŵer i ganiatáu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ddyfarnu graddau sylfaen.  Bydd y sefydliadau sy’n gwneud cais am y pwerau hyn yn cael eu hasesu’n drylwyr gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn erbyn meini prawf cadarn a bennir gan y Llywodraeth.  Cyhoeddir y Meini Prawf hyn, yn ogystal â Chanllaw Ategol i sefydliadau, pan ddaw’r pŵer i rym, a bydd yn sicrhau bod ansawdd, brand ac integriti cymwysterau addysg uwch yn cael eu diogelu.  

Hoffwn bwysleisio mai bwriad y Pwerau i Ddyfarnu Graddau Sylfaen, ers y cychwyn, oedd bod y ffordd i sefydliadau addysg uwch ymateb yn gyflym i anghenion nas bodlonwyd ymysg cyflogwyr, ac nid fel ffordd o ddisodli’r partneriaethau cydweithredol presennol sy’n gweithio’n dda.  Bydd disgwyl i unrhyw sefydliad addysg uwch sy’n ennill y pŵer i ddyfarnu graddau sylfaen barhau i ddarparu graddau sylfaen ar y cyd, fel rhan o gynllun rhanbarthol cydgysylltiedig ac yn unol â pholisi graddau sylfaen CCAUC.  

Er mwyn rhoi’r strategaeth hon ar waith, bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael ar gyfer graddau sylfaen.  Rhoddwyd cyfanswm o £7.92 miliwn i’r neilltu o dan Cymru’n Un i gefnogi ‘Gwaith i ehangu cyfranogiad mewn addysg bellach ac addysg uwch i bobl o bob oedran’.  Mae cyfanswm o £280,000 eisoes wedi’i ddefnyddio ar gyfer blwyddyn gyntaf Athrofa Prifysgol Blaenau'r Cymoedd, ac mae CCAUC yn bwriadu defnyddio’r gweddill i gefnogi’r ddarpariaeth gradd sylfaen rhanbarthol newydd.  Bwriad CCAUC yw dyrannu’r cyllid trwy broses geisiadau gystadleuol dros gyfnod o 3 blynedd, ac mae wedi nodi y bydd yn penderfynu ar y cynigion rhanbarthol llwyddiannus erbyn diwedd Chwefror 2011.  Drwy hyn, bydd cyllid Cymru’n Un yn cyflawni gwerth am arian trwy gefnogi dau faes sy’n flaenoriaeth yn Er Mwyn Ein Dyfodol, sef:  rhoi strategaethau rhanbarthol ar waith ar gyfer y ddarpariaeth addysg uwch; ac ymestyn y ddarpariaeth Graddau Sylfaen i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn lleol.

Ar y cyd â phrosiect Graddau Sylfaen pum mlynedd Prifysgol Morgannwg, sy’n cael cymorth ariannol gwerth £16.5m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae buddsoddiad ychwanegol gwerth tua £24 miliwn ar gael ar gyfer graddau sylfaen yng Nghymru.  

Bydd sicrhau cynllunio mwy cydlynus ar lefel ranbarthol yn gwella’r ddarpariaeth i ddysgwyr yn lleol, ac yn cynnig mecanwaith gwerthfawr i geisio gwella mynediad ac ehangu cyfranogiad.  Bydd mwy o ddysgwyr yn gallu ennill cymhwyster addysg uwch sydd wedi’i gynllunio, ei ddylunio a’i ddarparu ar y cyd.  Caiff dysgu seiliedig ar waith ei gryfhau trwy fwy o weithio mewn partneriaeth rhwng cyflogwyr a darparwyr.  Bydd mwy o gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â chael gwared ar gystadlu, dyblygu a gorgyffwrdd aneffeithiol yn sicrhau mwy o fudd economaidd o gyllid cyhoeddus.