Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi adroddiad terfynol Comisiwn Holtham

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Fore heddiw cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn Holtham, sy’n cyflawni un o ymrwymiadau allweddol  Cymru’n Un i ymgymryd ag adolygiad annibynnol o ariannu a chyllid ein Llywodraeth ddatganoledig. Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiynwyr a’u tîm am eu gwaith arbenigol, a fydd, rwy’n siŵr, o arwyddocâd mawr i Gymru ac yn ennyn diddordeb ledled y DU.

 

Gan adeiladu ar y dadansoddiad a gafwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol y Comisiwn, mae’r adroddiad yn datblygu ymhellach y dadleuon dros alinio’r ariannu â’r anghenion, a hefyd yn cynnig dadansoddiad trwyadl o’r sgôp ar gyfer datganoli pwerau ariannol ychwanegol i Gymru.

 

Rwy’n croesawu’r modd y mae’r adroddiad yn dangos sut y gellid gweithredu’n ymarferol y drefn o ariannu ar sail anghenion, a hefyd sut mae’n ailddatgan yr achos dros gyflwyno terfyn isaf i’r fformiwla Barnett yng Nghymru, hyd nes y ceir diwygio pellach. Mae hyn yn rhywbeth sy’n mynnu cefnogaeth ar draws y Cynulliad, a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu’r terfyn isaf yn ystod yr Adolygiad o Wariant sydd ar fin digwydd.

 

Bydd angen rhoi ystyriaeth fanwl i argymhellion y Comisiwn i ddatganoli pwerau benthyca ac amrywio trethi.  Fodd bynnag, mae’n amlwg hyd yn oed o’r darlleniad cyntaf fod cyfres o gynigion manwl iawn wedi’u cyflwyno.

 

Cynhelir trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr adroddiad hwn yn ddiweddarach eleni. Gosodwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau.