Skip to content

Ysgrifenedig - Bridio Cŵn yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Mae anifeiliaid anwes yn bwysig i'n cymdeithas, ac mae bod yn berchen ar anifail anwes yn arwain at lawer o bleser, yn ogystal â chyfrifoldebau. Mae datganoli'r pwerau dros les anifeiliaid i Weinidogion Cymru o dan Deddf Lles Anifeiliaid 2006 wedi rhoi cyfle inni wneud gwahaniaeth go iawn yn y maes hwn. Y nod yw gwella safonau ac atal dioddefaint. Mae atal problemau bob amser yn well na'u datrys, a dyma egwyddor allweddol ein Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid.  Rydym eisoes wedi gwneud deddfwriaeth ar goleri sioc drydan a thocio cynffonnau cŵn, yn ogystal â chyhoeddi Codau Ymarfer ar gyfer cŵn, cathod, ceffylau a chwningod. Mae rhaglen y Cynllun Gwella Lles Anifeiliaid Anwes (CAWES) wedi ein galluogi i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ac mae'n parhau i wneud hynny. Rhan o'r broses honno yw gweithio gyda'r trydydd sector i wella safonau.

 

Mae bridio cŵn a gwerthu cŵn bach yn faes penodol sydd wedi dod i'r amlwg. Serch hynny hoffwn bwysleisio bod busnesau o'r fath yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion y rheini sydd eisiau prynu anifeiliaid anwes, os ydynt yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion lles.

 

Yr hyn sy'n annerbyniol yw cynhyrchu cŵn bach ar raddfa fawr, lle gallai lles y rhieni a'r epil fod mewn perygl. Mae'r dystiolaeth mae awdurdodau lleol wedi ei chyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad yn sgil ymchwil y rhaglen CAWES, yn ogystal â sylwadau gan lawer o gyrff lles a gwybodaeth gan raglenni teledu, oll wedi dangos bod lle i wella lles anifeiliaid trwy gyfrwng yr amodau trwyddedu bridio cŵn. 

 

Sefydlais Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol yng ngoleuni darpariaethau newydd y Ddeddf Lles Anifeiliaid. Ymysg aelodau'r grŵp roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y proffesiwn milfeddygol, arbenigwyr ar les anifeiliaid a chynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth Gŵn, yr RSPCA a'r Kennel Club.

 

Mae adroddiad ac argymhellion y Grŵp bellach wedi dod i law, ac maent wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad heddiw. Rwyf yn ddiolchgar am y gwaith caled y maent wedi ei wneud mewn cyfnod mor fyr. Rwy'n gwybod nad oedd pob un o'r aelodau yn cytuno ar fanylion pob un o'r argymhellion, ond yn ddiwahân roeddent yn cydnabod bod angen gwella lles er mwyn cydymffurfio â Deddf Lles Anifeiliaid 2006. 

 

Rwy'n derbyn yr Adroddiad, sy'n gwneud tri argymhelliad bras:

 

Yn gyntaf, dylid gwneud newidiadau deddfwriaethol i faes bridio cŵn drwy ddiddymu'r gofynion statudol cyfredol a darparu deddfwriaeth newydd;

 

Yn ail, dylid gwneud newidiadau i'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer sefydliadau bridio cŵn;

 

Yn drydydd, dylid cyflwyno canllawiau statudol ar y ddeddfwriaeth newydd.

 

Mae nifer o faterion allweddol ynghlwm â'r argymhellion hynny. Hoffwn dynnu eich sylw at rai ohonynt:

  • Yn gyntaf, ceir cynnig i gyflwyno cymhareb orfodol o ran staff i gŵn. Os ydy'r sefydliad bridio yn mynd fodloni anghenion lles ac anghenion cymdeithasu cŵn a chŵn bach, y farn oedd bod angen ei gwneud yn ofynnol cael cymhareb o un gofalwr llawnamser i bob 20 ci, man lleiaf. Trwy drafodaeth â'r bridiwr, byddai swyddog trwyddedu o'r awdurdod lleol yn cytuno ar y gymhareb, ond roedd y grŵp o'r farn bod angen uchafswm o 20 ci i bob gofalwr. Mae'r ffigwr hwn o 20 yn gyfaddawd rhwng y ffigyrau a awgrymwyd gan y sefydliadau bridio a'r ffigyrau a gynigiwyd gan sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Gŵn a'r RSPCA. Bydd y ffigwr terfynol yn destun ymgynghoriad.
  • Yn ail, maent yn argymell y dylid gosod microsglodyn ar bob ci mewn sefydliad bridio trwyddedig, yn unol â'r safonau cenedlaethol cymeradwy. Hefyd dylid gosod microsglodyn ar bob ci bach sy'n cael ei eni yno, cyn ei werthu neu ei gartrefu. Byddai hyn yn golygu y gellid olrhain yn ôl i'r bridiwr petai pryderon am les neu iechyd yr anifail.
  • Cynigir y bydd y canllawiau statudol yn ymgorffori'r pum 'angen' sydd wedi eu hamlinellu yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006.  Dyma hwy, sef bod anifeiliaid angen: amgylchedd a deiet addas; y gallu i ddangos patrymau ymddygiad normal; cael eu cartrefu ar wahân neu gydag anifeiliaid eraill; a chael eu diogelu rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd.  Mae'r rhain i gyd yn cael eu cynnwys ym meini prawf y canllawiau. Bydd hyn yn rhoi arweiniad clir i awdurdodau lleol a bridwyr cŵn er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â'r gofynion trwyddedu. Maes o law, bydd angen ystyried a oes angen ehangu'r Cod Ymarfer ar Les Cŵn er mwyn manylu rhagor ar fridio cŵn.

Hefyd, bu'r grŵp yn ystyried y meini prawf cymhwyso ar gyfer cael trwydded. Roeddent yn cytuno bod angen tynhau'r meini prawf, yn enwedig drwy ostwng nifer y geist bridio y gellir eu cadw cyn bod angen trwydded, o'r "pum neu ragor o doreidiau" i dair.

 

Fel yn achos y system drwyddedu bresennol, bydd yn cael ei gweithredu ar sail adennill costau, a bydd yr awdurdodau lleol yn codi ffioedd.

 

Rwy'n croesawu'r argymhellion hyn ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion baratoi deddfwriaeth Gymreig ddrafft o dan Adran 13 o Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ar sail yr argymhellion hynny.  Mae'r rhan hon o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r ddeddfwriaeth sylfaenol gyfredol, sef Deddf Bridio Cŵn 1973, a'i disodli â Rheoliadau sy'n addas i'r diben yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad llawn ar y ddeddfwriaeth ddrafft.

 

Fel yn achos y ddeddfwriaeth ddiweddar i wahardd coleri sioc drydan, rwy'n rhagweld y bydd ymateb cryf i'n newidiadau arfaethedig, ac rwy'n ymrwymo i gynnal ymgynghoriad dros y cyfnod llawn o 12 wythnos. Fy rôl i yw sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei hyrwyddo a bod anifeiliaid yn cael eu diogelu, a bod hynny'n digwydd heb osod beichiau diangen ar fridwyr neu brynwyr cŵn.

 

Ar fater gwahanol, pan gyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad reolau newydd ar docio cynffonnau cŵn yn 2007, caniatawyd rhai eithriadau penodol ar gyfer mathau arbennig o gŵn gweithio. Ymrwymwyd i adolygu'r ddeddfwriaeth honno. Mae canlyniadau astudiaeth i ffactorau risg i gŵn, a gomisiynwyd yn bennaf gennym ni ac a gynhaliwyd gan y Coleg Brenhinol Milfeddygol, newydd gael eu cyhoeddi.  Bydd y data hwn yn cyfrannu at yr adolygiad. Byddwn yn edrych ar y modd y mae'r ddeddfwriaeth wedi gweithio yng Nghymru, lle ceir tocio mewn amgylchiadau cyfyngedig, o'i gymharu â'r Alban, lle mae'r arfer wedi ei wahardd yn gyfan gwbl. Yn ogystal â hyn byddwn yn ystyried y wyddoniaeth newydd sydd wedi'i chyhoeddi yn y maes a’r materion lles ehangach.