Skip to content

Ysgrifenedig - Yr Adolygiad o Lywodraethu Addysg Bellach yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ym mis Mai 2010 fe gyhoeddais fy mwriad i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad annibynnol i drefniadau llywodraethu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Roeddwn yn falch o gyhoeddi hefyd fod Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored (Cymru), wedi’i benodi yn Gadeirydd y grŵp ac i arwain yr adolygiad.

Nod yr adolygiad yw datblygu model o lywodraethu sy’n ymateb i anghenion dinasyddion, dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol. Bydd yn ymateb i nodau Cymru’n Un, yn benodol y bwriad i adeiladu ar sail Addewid a Chyflawniad a “datblygu system sy'n ymateb i anghenion cymunedau lleol, cyflogwyr a'r economi lleol a rhanbarthol. Partneriaeth fydd sail ein dull gweithredu yn y maes hwn, fel yn y gorffennol”.

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fentrau cymdeithasol ac atebion cydweithredol i gyflenwi gwasanaethau. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae’r atebion a’r dulliau hyn wedi dod yn fwy, yn hytrach na llai, pwysig. Fel y nodwyd gynt, bydd yr adolygiad yn edrych ar yr amrywiaeth o fodelau mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru a thu hwnt, i weld sut y gallent alluogi’r sector addysg bellach i ddal i ddiwallu anghenion dinasyddion a rhanddeiliaid allweddol.

Bydd angen i’r adolygiad ystyried yn drylwyr a thrwyadl gan ddadansoddi diben y systemau llywodraethu presennol mewn addysg bellach, yr egwyddorion sy’n sail iddynt a’u fframwaith gweithredol. Bydd angen iddo adnabod pwy yw rhanddeiliaid dilys sefydliadau addysg bellach yn awr ac yn y dyfodol, trwy edrych ar gydbwysedd y gwaith a gyflawnant yn awr a’u gallu i ddal i ehangu’r cwricwlwm a gynigir i bobl ifanc er mwyn cyfrannu at lwyddiant ein Mesur Dysgu a Sgiliau.

Felly mae angen amrywiaeth eang o brofiad, gallu a hyfedredd ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn ynghyd â lefel uchel o wybodaeth yn y meysydd canlynol:

  • diben corfforaethau addysg bellach
  • y berthynas rhwng corfforaethau addysg bellach a chyrff eraill ym maes dysgu
  • swyddogaeth dysgu gydol oes
  • swyddogaeth llywodraethu
  • gofynion a swyddogaeth cyflogwy
  • gofynion a swyddogaeth diwydiant, gan gynnwys y lefel genedlaethol
  • anghenion dinasyddion a chymunedau lleol
  • diben a manteision mentrau cymdeithasol a chydweithredol
  • dealltwriaeth o faterion yn ymwneud ag undebau llafur

Detholwyd yr aelodau yn ofalus i sicrhau y ceir arbenigedd ym maes addysg a hefyd arbenigedd mewn meysydd eraill fel diwydiant, cymunedau a’r economi. I sicrhau bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys y cydbwysedd cywir yn yr holl feysydd angenrheidiol rwyf wedi cynyddu’r nifer a benodir o saith i wyth.

Rwyf yn awr yn falch o gyhoeddi’r penodiadau canlynol i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen:

Lis Burnett
Pennaeth y Both Entrepreneuriaeth Gymdeithasol, Prifysgol Morgannwg

Maggi Dawson MBE
Ysgrifennydd Cyffredinol / Prif Weithredwr, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru)

Roger Evans MBE
Cadeirydd Fforwm Gweithgynhyrchu Cymru ac Is-gadeirydd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr

Duncan Forbes
Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cymunedol Bron Afon

David Jenkins MBE
Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru

Alison Itani
Cyfarwyddwr Wiltan Ltd ac aelod o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru

Ioan Morgan CBE
Pennaeth Coleg Swydd Warwick (bydd yn ymddeol yn Awst 2010) a chyn aelod o Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau

Professor Stephen Yeo
Cyn Bennaeth Coleg Ruskin, Rhydychen, a chyn Gadeirydd y Coleg Cydweithredol

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn o ansawdd uchel ac mae ganddo, dan arweiniad y Cadeirydd, yr ehangder o brofiad a gwybodaeth sydd ei angen i gyflawni’r adolygiad hwn.

Rwy’n dymuno’n dda i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wrth iddo ddatblygu system llywodraethu ar gyfer sefydliadau addysg bellach a fydd yn ein helpu i gwrdd â’r heriau addysgol ac economaidd y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol, system a fydd yn adeiladu ar gyflawniadau’r sector ers ymgorffori’r sefydliadau.

Sefydlir yr adolygiad cyn y toriad dros yr haf a bydd y Cadeirydd yn adrodd ar yr argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn hon.