Skip to content

Ysgrifenedig - Cau Ysgolion mewn Tywydd Gwael

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Y gaeaf diwethaf, gwelwyd cyfnodau hir o dywydd oer ac eira trwm.  Tarfwyd ar wasanaethau yn eang a chaewyd y rhan fwyaf o ysgolion.  

Ar gyfartaledd, bu ysgolion ar gau am ryw 4 diwrnod, ond roedd yr arfer yn amrywio'n fawr ledled Cymru, gyda rhai ysgolion ar agor drwy'r amser a rhai ar gau am hyd at 2 wythnos.

O ganlyniad, y flwyddyn academaidd hon ni fydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yng Nghymru wedi bod yn yr ysgol am nifer y dyddiau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Mynegwyd pryder cyffredinol am yr effaith ar addysg disgyblion.  Mae'n rhaid dysgu gwersi. Rwyf felly wedi ystyried yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol ac yn well.  

Rwy'n bryderus y gallai ein polisi presennol o ran ystadegau presenoldeb disgyblion annog penaethiaid i gau ysgolion. Dylai pob ysgol anelu at gael lefelau presenoldeb uchel ond, oherwydd ein system ar gyfer cofnodi ystadegau lefelau presenoldeb mewn ysgolion, pe bai ysgol ar agor mewn tywydd gwael a disgyblion ddim yn dod, byddai'n effeithio ar ystadegau presenoldeb yr ysgol gan nad yw tywydd gwael wedi'i nodi fel achos posibl dros absenoldeb.  Mae ystadegau perfformiad yn rhan bwysig o system addysg effeithiol, ond nid wyf am i ysgolion gau neu gyfyngu ar addysg disgyblion, er mwyn cynnal ystadegyn.  Rwyf am i benaethiaid allu gwneud penderfyniadau p'un a ddylid cau ysgol ar sail asesiad o'r sefyllfa; a yw'r safle yn ddiogel; a yw staff yn gallu cyrraedd y gwaith; a yw disgyblion a staff yn gallu cyrraedd adref.  Ni ddylai ystadegau effeithio ar y penderfyniad.  

Yn unol â hyn, mae fy Adran wedi ymgynghori ar ddull gweithredu newydd a fydd yn goresgyn y broblem hon.  O hydref 2010, bydd y dull o gofnodi presenoldeb yn yr ysgol yn newid a bydd ysgolion yn gallu cofnodi'r ffaith nad yw disgyblion yn gallu dod i'r ysgol mewn tywydd gwael oherwydd 'nid yw'n ofynnol iddynt fod yn yr ysgol' yn hytrach nag 'absenoldeb wedi'i awdurdodi'.  Ni fydd ysgogiad mwyach, felly, i gau ysgol er mwyn gwarchod neu hyrwyddo ystadegau presenoldeb ysgol.  Rwyf yn hyderus y bydd hyn yn golygu bod mwy o ysgolion yn parhau ar agor mewn tywydd gwael.

Yn anochel, mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion yn gorfod cau mewn tywydd gwael.  Pan fydd hyn yn digwydd, rwyf am wneud yn siwr y gall rhywfaint, o leiaf, o'r amser addysgu a gollir gael ei adennill cyn diwedd y flwyddyn ysgol.  

Mae pum diwrnod dim addysgu statudol ar gael i ysgolion.  Mae'r diwrnodau hyn yn rhan o delerau ac amodau cyflogaeth athrawon.  Caiff y penaethiaid benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r diwrnodau hyn ar gyfer datblygiad proffesiynol eu staff ac i ategu addysgu, dysgu ac asesu effeithiol.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae un neu ddau ddiwrnod ychwanegol wedi'u darparu ar gyfer Hyfforddiant Mewn Swydd yn ystod pob blwyddyn ysgol hefyd.  Caniateir y dyddiau hyn yn ôl disgresiwn y Gweinidog.  

Rwyf wedi ystyried sut gallai'r ddau ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ychwanegol hyn wneud iawn am yr amser a gollwyd yn sgil tywydd gwael. Gan fod y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn cael ei gyflwyno'n llawn yr hydref hwn, rwyf wedi penderfynu y caiff y ddau ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ychwanegol hyn eu cynnig yn ystod blwyddyn academaidd 2010/11, ond rwyf yn bwriadu gwneud newidiadau i'r Rheoliadau er mwyn adennill o leiaf rywfaint o'r amser a gollir yn sgil tywydd gwael, pe bai'r gaeaf nesaf yn ddifrifol.  Y newidiadau rwyf yn eu cynnig yw mai dim ond yn ystod tymor yr haf y ceir cymryd y ddau ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd ychwanegol ac, os collir unrhyw amser addysgu yn sgil tywydd gwael, y cânt eu lleihau pro rata i un neu ddim o gwbl.  Rwyf wedi gofyn i'm Hadran sefydlu trefniadau i ymgynghori ar y newidiadau hyn. Defnyddir canlyniadau'r ymgynghoriad hefyd fel sail i ystyried gofynion tymor hwy ar gyfer diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd, gan gynnwys ystyried polisïau eraill a ddefnyddir mewn gwledydd eraill.

Rwyf hefyd wedi ystyried a allem ofyn am i athrawon na allant gyrraedd eu hysgol eu hunain fynd i'w hysgol agosaf. Mae hyn yn codi cwestiynau sy'n cael eu llywodraethu gan y Cytundeb Cenedlaethol a Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, ac rwyf am drafod y materion hyn ymhellach gyda'r undebau athrawon.

Yn olaf, rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu rhwymedigaethau cyfreithiol penaethiaid a chyrff rheoleiddio o ran penderfyniadau i gau ysgolion neu eu cadw ar agor mewn tywydd gwael. Rwy'n rhagweld y byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater hwn yn nes ymlaen eleni.