Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol olaf y Llywodraeth yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, hoffwn oedi ac ystyried yr hyn y mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi’i gyflawni o ran deddfwriaeth. Drwy raglen Llywodraethu 'Cymru’n Un’, yr ydym wedi cyflawni llawer iawn ar ran pobl Cymru, a lle bo hynny’n briodol, yr ydym wedi cyflawni hyn drwy ddeddfu, gan ddefnyddio’r setliad datganoli sydd gennym gystal ag y gallwn. Yr ydym wedi cerdded ymhell mewn cyfnod byr iawn, gan ehangu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn sylweddol, a, thrwy ein deddfwriaeth sylfaenol ni’n hunain ar ffurf Mesurau’r Cynulliad, yr ydym yn newid pethau er lles Cymru. Ni fu’r daith hon yn un rhwydd, a dyna y byddai rhywun yn ei ddisgwyl a’r gromlin ddysgu’n un mor serth.
Serch hynny, mae’r Llywodraeth wedi cyflawni 12 Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, gan ehangu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol mewn ystod eang o feysydd polisi pwysig, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, plant agored i niwed a gofalwyr. Cyn bo hir, byddwn yn gallu ychwanegu tai a llywodraeth leol at y rhestr honno.
Yr ydym wedi llwyddo i newid pethau yng Nghymru er budd pobl Cymru drwy ein Mesurau Cynulliad. Hyd yn hyn, yr ydym wedi cyflawni wyth Mesur a phob un o’r rheini wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, yr ydym wedi ehangu hawliau dysgwyr rhwng 14 ac 19 oed yng Nghymru. Rhoddodd mesur Addysg (Cymru) 2009 yr hawl i blant apelio a chyflwyno hawliadau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Yr ydym hefyd wedi mynd i’r afael â thlodi plant drwy ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gan roi sylfaen statudol i’n hymrwymiad i ddileu tlodi, a chan roi mwy o gymorth i’r teuluoedd hynny lle y gall fod perygl i blant. Yr ydym ni’r Llywodraeth hefyd wedi cefnogi cynigion deddfu a gyflwynwyd gan Aelodau’r meinciau cefn, ac nid dim ond y rheini sydd wedi ategu’n polisïau ni’n hunain. Yr ydym wedi gallu cefnogi, er enghraifft, y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol gan Jonathan Morgan ynghylch iechyd meddwl a’r gorchymyn gan Ann Jones ynghylch diogelwch rhag tân mewn cartrefi, yn ogystal â Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 gan Jenny Randerson.
Yr oedd rhaglen ddeddfwriaethol 2009-10 yn rhaglen uchelgeisiol a oedd yn cynnwys nifer o orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a Mesurau pwysig. Ni fydd rhai ohonynt wedi cwblhau eu taith drwy’r Cynulliad tan ddiwedd y Cynulliad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru), Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru), a Mesur Arfaethedig ynghylch Iechyd Meddwl (Cymru) a’r Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Mae’r Cynulliad yn craffu ar y rhain ar hyn o bryd. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn cyflwyno eitem derfynol rhaglen ddeddfwriaethol 2009-10, sef Mesur Arfaethedig Llywodraeth Leol (Cymru).
Ac ystyried faint o amser fydd gan y Cynulliad yn yr wythnosau sydd ar ôl cyn etholiadau’r Cynulliad i graffu ar unrhyw ddeddfwriaeth newydd, yr ydym wedi gorfod ffrwyno’n huchelgais ar gyfer y rhaglen derfynol hon. Ein nod fydd rhoi cymaint o amser ag y bo modd i’r Cynulliad graffu ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod y Cynulliad yn gallu cyflawni cymaint o’n deddfwriaeth ag y bo modd a sicrhau newidiadau pwysig er gwell ar ran pobl Cymru. Efallai y bydd y rhaglen ddeddfwriaethol derfynol yn llai nag y bu mewn blynyddoedd cynt, nid yw’n llai pwysig ar unrhyw gyfrif, ac nid ydym yn tynnu’n troed oddi ar y sbardun.
Byddwn yn agor y rhaglen hon ar ôl gwyliau’r haf gyda Mesur arfaethedig ynghylch teithio diogel i ddysgwyr. Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn gwella ansawdd cludiant o dan gontract i ysgolion ac yn sicrhau bod rhieni’n gallu ymddiried yn y cludiant a ddefnyddir gan eu plant i gyrraedd yr ysgol. Byddwn yn cyflwyno’r Mesur arfaethedig ynghylch tai y bu disgwyl cyhyd amdano. Bydd y mesur arfaethedig hwn a ddylasai fod gennym ers tro yn rhoi ystod eang o bwerau ymyrryd i Weinidogion Cymru. Mae’r rheini’n hanfodol er mwyn cryfhau rheoleiddio darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig, a byddant yn cyfateb i’r pwerau sydd eisoes ar gael i’r rheolydd yn Lloegr. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth i atal yr hawl i brynu mewn ardaloedd lle mae tai’n brin.
Bydd trydydd Mesur arfaethedig a Mesur olaf y bedwaredd raglen hon yn rhoi sylw i nifer o faterion pwysig ym maes addysg. Bydd y Mesur addysg arfaethedig yn cynnwys darpariaethau i wella llywodraethu mewn ysgolion. Bydd hynny yn ei dro’n codi safonau addysg. Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn dyfnhau’r cydweithredu rhwng ysgolion a rhyngddynt a darparwyr addysg eraill, ac yn rhoi pwerau galluogi i Weinidogion Cymru yng nghyswllt ffederasiwn cyrff llywodraethu ysgolion llai.
Yn y bedwaredd raglen ddeddfwriaethol hon, byddwn hefyd yn ceisio cyflwyno gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig ynghylch rhoi organau. Mae’n debygol y bydd gofyn gwaith paratoi manwl mewn cydweithrediad â San Steffan ar gyfer y Gorchymyn arfaethedig. Yr ydym wedi cynnal nifer o ddadleuon cyhoeddus ynglŷn â rhoi organau, ac, yn sail i hynny, ym mis Mai 2009, ymgynghorwyd yn ffurfiol ynglŷn â’r dewisiadau ar gyfer newid y system rhoi organau yng Nghymru. Yr oedd mwyafrif yr ymatebion a gawsom i’r ymgynghori’n cefnogi newid i system ymeithrio feddal. Yr ydym wedi cynnal y ddadl, felly, ein bwriad yn awr yw bwrw ymlaen â’r mater pwysig hwn drwy geisio’r pwerau angenrheidiol er mwyn gallu rhoi system rhoi organau ar waith yng Nghymru sy’n diwallu anghenion a dymuniadau pobl Cymru orau.
Efallai y bydd rhai pobl yn amau ein dymuniad i fwrw ymlaen â gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a chofio bod refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ar y gorwel. Er fy mod yn gobeithio y bydd pob plaid yn y Siambr yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau pleidlais 'ie’ yn y refferendwm, rhaid i ni’r Llywodraeth lywodraethu’n gyfrifol, ac felly, byddwn yn bwrw ymlaen â’n busnes fel arfer nes cynhelir y refferendwm a’i ennill.
Er 2007, yr ydym wedi ceisio defnyddio’r setliad datganoli sydd gennym yn y ffordd orau bosibl. Llywodraeth sy’n awyddus i gamu ymlaen ydym o hyd, a, lle bo angen, sicrhau’r cynnydd hwnnw drwy newid deddfwriaethol. Er mai’r eitemau yr wyf wedi sôn amdanynt heddiw yw darnau olaf ein rhaglen ddeddfwriaethol, nid ydynt o bell ffordd yn cynrychioli hyd a lled ein syniadau a’n dyheadau ar gyfer deddfu. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y cyfrwng deddfu mwyaf priodol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau cymhwysedd dros reoli safleoedd carafannau a chartrefi mewn parciau, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd i ddeddfu mewn meysydd eraill o bwys megis yr amgylchedd a bioamrywiaeth, hybu iechyd cyhoeddus, trefniadaeth ysgolion a thribiwnlysoedd addysg, yn ogystal â gwasanaethau cymdeithasol.
Bydd cyflawni’r eitemau deddfwriaethol hyn, a’r rheini sy’n weddill o’r rhaglen flaenorol, yn nodi diwedd cyfnod o gynnydd mawr gan y Cynulliad hwn, ac yn wir yn dangos cryn aeddfedrwydd ar ei ran. Yr ydym yn hyderus yn awr i fwrw ymlaen â deddfu yng Nghymru—deddfu sy’n diwallu anghenion Cymru ac sy’n newid pethau lle mae angen newid er budd pobl Cymru. Dyma’r rhaglen ddeddfwriaethol y mae’r Llywodraeth yn ei chynnig.