Skip to content

Llafar - Y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Ddoe, gosodais y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru), ynghyd â memorandwm esboniadol, gerbron y Cynulliad. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig hefyd ac yr wyf yn falch o gyflwyno’r Mesur arfaethedig i’w ystyried gan Aelodau’r Cynulliad heddiw. Mae’r Mesur arfaethedig yn cyflawni nifer o ymrwymiadau hirsefydlog i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael ag amryw o faterion mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

 

Mae rhan helaeth o’r Mesur arfaethedig yn deillio o ran polisi o ddatganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru am lywodraeth leol, 'Rhannu Cyfrifoldeb’, a wnaethpwyd yn 2007, lle yr addawodd Llywodraeth Cynulliad Cymru geisio pwerau newydd i bennu sut y gallai llywodraeth leol gynrychioli pobl yn fwy effeithiol yn eu hardaloedd.

 

Yr oedd y ddeddfwriaeth arfaethedig wedi’i llunio hefyd yng ngoleuni ymchwil a gyflawnwyd gan banel arbenigol comisiwn cynghorwyr Cymru ynghylch ehangu cyfranogiad mewn llywodraeth leol. Arweiniodd gwaith y panel at gyhoeddi ei adroddiad, 'At ein gwasanaeth?’ yn Awst 2009.

 

Yr ydym hefyd wedi gwneud defnydd o’r astudiaeth a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2003 gan Brifysgol Aberystwyth ynghylch rôl a swyddogaethau cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Amlygwyd yr angen am ddeddfwriaeth ymhellach gan y gwaith gan banel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar gydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr. Gan droi at gynnwys y Mesur arfaethedig, ef yw’r mwyaf a gyflwynwyd hyd yma i’r Cynulliad, ac iddo 172 o adrannau a phedair Atodlen. Gellir dosbarthu’r darpariaethau sydd ynddo dan chwe phrif nod: yn gyntaf, mae Rhannau 1 a 2 o’r Mesur arfaethedig yn cynnwys darpariaethau y credwn y byddant o gymorth i gryfhau democratiaeth leol. Gwnânt hynny drwy ddelio â rhai o’r rhwystrau y gwelwyd eu bod yn atal llawer o bobl rhag sefyll i’w hethol i awdurdodau lleol. Yn ail, yn Rhannau 3 i 5 yn y Mesur arfaethedig, ein nod yw diwygio rhai o’r trefniadau llywodraethu sydd ar gael i’r prif awdurdodau, ers gwneud Deddf Llywodraeth Leol 2000, i’w gwneud yn fwy ymatebol i anghenion ac amgylchiadau pobl leol. Yn drydydd, mae Rhan 6 o’r Mesur arfaethedig yn cyflwyno cynigion i wella a datblygu’r trefniadau trosolwg a chraffu yn y prif awdurdodau ac, yn benodol, i hyrwyddo rôl cynghorwyr anweithredol neu gynghorwyr y meinciau cefn wrth graffu ar wasanaethau lleol. Yn bedwerydd, mae Rhan 7 o’r Mesur arfaethedig yn cynnwys darpariaethau sydd â’r amcan o ddatblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned yng Nghymru, a hynny’n cynnwys eu galluogi i gyflenwi ystod ehangach o wasanaethau a chamau gweithredu’n lleol. Yr ydym hefyd am alluogi cynghorau cymuned i gyflawni eu rôl gynrychioladol yn fwy effeithiol a rhoi mwy o allu iddynt weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill. Yn bumed, yn Rhan 8 o’r Mesur arfaethedig, ein nod yw cyflwyno system fwy tryloyw a mwy cydlynol i bennu lwfansau cynghorwyr. Yn olaf, mae Rhan 9 o’r Mesur arfaethedig yn cynnwys darpariaeth a fydd yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 drwy ehangu cwmpas pwerau Gweinidogion Cymru fel eu bod yn cynnwys cyhoeddi canllawiau statudol ar ddyletswyddau a phwerau awdurdodau unedol i gydweithio.

 

Mae’r Mesur arfaethedig yn ategu nodau ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo democratiaeth ar lefel leol a’i gallu i wasanaethu’r dinasyddion. Un o’n prif egwyddorion ar gyfer llywodraeth leol yw sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio ar y dinesydd a’u bod yn effeithiol. Yn unol â’r nod hwnnw, yn y Mesur arfaethedig yr ydym wedi ceisio rhesymoli’r trefniadau llywodraethu sydd ar gael i gynghorau ac wedi gwella’r gweithdrefnau ar gyfer craffu.

 

Ein bwriad yw gwneud trefniadau craffu llywodraeth leol yn fwy effeithiol ac ymdrin â hyn mewn modd mwy cyfannol. Yr ydym am weld cyfethol pobl sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol i bwyllgorau craffu; yr ydym am weld pwyllgorau craffu ar y cyd rhwng awdurdodau lleol ac am weld pwyllgorau trosolwg a chraffu awdurdodau lleol yn gallu craffu ar y cyflenwi ar wasanaethau cyhoeddus yn eu hardal. Yr ydym am sicrhau bod cynghorwyr yn cael cymorth priodol i gyflawni eu gwaith cynrychioladol, a hynny’n cynnwys sicrhau bod cynghorwyr yn cael cynnig cyfleoedd i feithrin eu sgiliau a’u bod yn cael cymorth digonol gan swyddogion i’w galluogi i gyflawni rolau amryfal.

 

Yr ydym am alluogi croestoriad mwy amrywiol o bobl i ystyried dod yn gynghorwyr a pharhau’n gynghorwyr. Yr ydym hefyd am sicrhau fframwaith ystyrlon ar gyfer y lwfansau y mae cynghorwyr yn eu cael—un sy’n deg, yn atebol ac yn dryloyw ac a gaiff groeso, gobeithio, gan y sefydliad hwn. Ar y lefel fwyaf lleol, yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd cynghorau cymuned o ran ysgogi dadlau a chyfranogi; yr ydym am ei gwneud yn haws sefydlu cynghorau cymuned os yw trigolion ardal yn dymuno gwneud hynny. Yr ydym am ehangu cynrychiolaeth ar gynghorau cymuned drwy ganiatáu cynrychiolaeth i bobl ifanc ac yr ydym hefyd am ymestyn y pŵer ynghylch lles i gynghorau cymuned a hyrwyddo eu gallu i ddefnyddio’r pŵer hwn er budd eu trigolion.

 

Mae’r Mesur arfaethedig yn cynnwys darpariaeth hefyd i ganiatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar gydweithio; rhoddodd y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) blaenorol bwerau newydd i gydweithio i awdurdodau lleol yng Nghymru, a’u rhoi dan ddyletswydd newydd i ystyried cydweithio wrth ddatblygu cynigion i wella’r gwasanaethau y maent yn eu cyflenwi.

 

I gloi, anogaf Aelodau i astudio’r Mesur arfaethedig yn fanwl. Mae’n eitem sylweddol o ddeddfwriaeth, ond yr wyf yn gobeithio y bydd Aelodau’n deall pwrpas y Mesur arfaethedig a pham y mae wedi’i gyflwyno: mae’n fodd i wella llywodraeth leol er mwyn y cymunedau sy’n rhan o haen gyntaf democratiaeth, er mwyn y cynghorwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i gyfranogi democrataidd ac, yn bwysicaf oll, er mwyn y dinasyddion sy’n defnyddio eu gwasanaethau.