Skip to content

Llafar - Wariant yn ystod y Flwyddyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Ar 24 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n torri cyfanswm o £6.2 biliwn oddi ar gyllidebau yn 2010-11, net £500 miliwn o arbedion wedi’u hailgylchu yn wariant ychwanegol. Cafodd Cymru gyfran o’r toriadau hyn ac arbedion wedi’u hailgylchu sy’n cyfateb i ostyngiad net sydd oddeutu 1 y cant o gyfanswm ein cyllideb. Cawsom hefyd y cyfle i ohirio rhai o’r gostyngiadau yn y gyllideb neu’r cwbl tan y flwyddyn nesaf. Ar ôl egluro’r rhaniad rhwng refeniw a chyfalaf ac ar ôl cywiro’r camgymeriad ynghylch yr arian canlyniadol a oedd yn ymwneud â’r Gemau Olympaidd, gallaf ddatgan mai £162 miliwn yw ein cyfran ni o’r toriadau sy’n golygu £113 mewn refeniw a £49 miliwn mewn cyfalaf.

 

Ar ôl ystyried hyn yn ofalus, yr ydym wedi penderfynu cymryd cymaint ag y gallwn o’r gostyngiadau yng nghyllideb 2010-11 eleni, ond yr ydym yn gwneud hyn heb dynnu arian oddi wrth ein prif flaenoriaethau polisi ac yn enwedig heb gymryd risgiau gyda’r adferiad economaidd bregus.

 

Carwn egluro’r hyn y bu’n rhaid inni ei ystyried er mwyn gwneud y penderfyniad hwn. Bydd y gostyngiadau hyn yn taro Cymru yn galetach na rhannau eraill o’r DU, oherwydd fel yr eglurodd comisiwn annibynnol Holtham, mae Cymru eisoes yn cael ei thanariannu oddeutu £300 miliwn y flwyddyn. Yr ydym yn cydnabod y bydd gweithredu ar argymhelliad y comisiwn ar ddiwygio Barnett yn cymryd amser. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i bwyso am gyflwyno terfyn ariannu isaf ar unwaith i atal y tanariannu rhag gwaethygu. Yn y cyfamser, mae’r tanariannu hyn ar gyfer Cymru yn golygu bod y gostyngiadau hyn yn ystod y flwyddyn hyd yn oed yn anos eu rheoli.

Bu’n rhaid inni hefyd ystyried beth fyddai’r effaith petaem yn gohirio’r holl doriadau tam y flwyddyn nesaf. Petaem yn gohirio’r holl ostyngiadau yn y gyllideb tan y flwyddyn nesaf, byddem yn dechrau 2011-12 gyda gostyngiad o £237 miliwn yn ein cyllideb refeniw—sy’n cyfateb i doriad o 1.7 y cant—a gostyngiad o £111 miliwn yn ein cyllideb gyfalaf, a fyddai’n gyfystyr i doriad o 6.7 y cant. Byddai’n golygu y byddai’r sialens ar gyfer 2011-12 hyd yn oed yn fwy na’r sialens yr ydym eisoes yn gwybod sy’n ein hwynebu. Ni fyddai hynny er budd gorau Cymru ac yn ddiau ni fyddai pobl Cymru yn disgwyl inni wneud hynny. Yr ydym wedi datgan yn glir mai ein blaenoriaeth yw diogelu a gwella’r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt, ar yr un pryd ag arwain Cymru at adferiad economaidd. Parhau â buddsoddi cyfalaf yw’r allwedd i gyflawni hyn.

 

Dyna pam fy mod wedi penderfynu diogelu’r gyllideb gyfalaf eleni, er mwyn i brosiectau addysg, iechyd, tai a gofal cymdeithasol hollbwysig barhau. Er mwyn ein galluogi i wneud hynny, byddaf yn gwarchod buddsoddiad cyfalaf drwy ddefnyddio ein harian hyblygrwydd diwedd blwyddyn i ddiwallu’r toriad cyfalaf o £49 miliwn. Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn gallu symud ymlaen â phrosiectau cyfalaf a oedd mewn perygl o gael eu torri neu eu gohirio yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mehefin. Bydd y penderfyniad yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru, i swyddi ac i wasanaethau a bydd hefyd yn helpu’r sector adeiladwaith a’n hymdrechion parhaus i arwain Cymru at adferiad. Yfory, bydd y Gweinidog dros addysg yn gwneud cyhoeddiad am ein rhaglen adeiladu ysgolion sy’n bwysig dros ben, a bydd cyhoeddiadau eraill ynghylch buddsoddiad cyfalaf yn cael eu gwneud maes o law—ym maes iechyd a thai, er enghraifft.

 

Yr ydym hefyd wedi cymryd camau breision ymlaen o ran adnabod arbedion refeniw, a byddwn yn parhau i chwilio am ragor o gyfleoedd dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, dim ond gostyngiadau nad ydynt yn arwain at ganlyniadau annerbyniol i gyflenwi gwasanaethau ar y rheng flaen nac i’n hadferiad economaidd y byddwn yn eu gwneud. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd i gael gwybod faint o arbedion refeniw gallwn eu cyflawni yn ystod y flwyddyn a byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol ym mis Tachwedd ar union faint o ostyngiadau yn y gyllideb refeniw y byddwn yn eu gwneud eleni, gan gynnwys a fyddwn yn defnyddio unrhyw rai o’n cronfeydd wrth gefn neu hyblygrwydd diwedd blwyddyn i helpu i ddiwallu’r gostyngiadau mewn refeniw. Yr ydym wedi ymrwymo i wneud y gostyngiadau hyn mewn ffordd sy’n golygu cyn lleied â phosibl o ddifrod i’r economi, i swyddi, i wasanaethau cyhoeddus ac i’r bobl fwyaf agored i niwed. Yr ydym yn gwybod ei bod yn rhaid gwneud penderfyniadau a dewisiadau anodd ac astrus ond yr ydym yn benderfynol ein bod am sicrhau ein bod yn parhau i ddefnyddio ein hadnoddau yn gyfrifol ac yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Mae’r datganiad cyllidebol hwn yn dangos y dull gweithredu gwahanol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gymryd i ddiwallu dau amcan sef cefnogi adferiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol i bobl, i gymunedau ac i economi Cymru.