Ddirprwy Lywydd, hoffwn wneud datganiad ynghylch rheoli nifer y myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru. Bwriadaf gyflwyno mesurau i reoli nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn a gaiff eu recriwtio er mwyn cynnal cyfleoedd mynediad, safonau’r ddarpariaeth ac ansawdd profiad y dysgwr. Bydd pob myfyriwr israddedig amser llawn newydd a gaiff ei recriwtio gan sefydliadau addysg uwch o 2010-11 yn cynyddu’r galw ar gyllidebau cyllid myfyrwyr o tua £9,500 y flwyddyn mewn grantiau a benthyciadau. Mae gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru drefniadau ar waith sy’n cyfyngu ar nifer y lleoedd sydd wedi eu cyllido’n llawn ar gyrsiau gradd israddedig.
Mae’r pwysau ar y gyllideb cyllid myfyrwyr wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn rhannol, mae hyn o ganlyniad i’r ffaith bod sefydliadau AU wedi bod yn recriwtio mwy o fyfyrwyr israddedig amser llawn sy’n gymwys i gael cymorth statudol i fyfyrwyr. Er mwyn helpu i leihau’r pwysau hyn, mae angen inni ystyried mesurau i reoli nifer y myfyrwyr a gaiff eu recriwtio. Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau yn dangos y bu cynnydd o 12 y cant yn nifer yr ymgeiswyr a dderbyniwyd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2009, o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond yn Lloegr, yr oedd y cynnydd yn yr un cyfnod yn 5 y cant. Yn ogystal, bu cynnydd o 11 y cant yn nifer y dysgwyr sy’n hanu o Gymru a dderbyniwyd i sefydliadau AU Cymru. Yn awr, mae angen inni reoli gwariant cyllid myfyrwyr mewn modd sy’n gynaliadwy ac na fydd yn cael ei beryglu gan dwf heb ei gynllunio mewn niferoedd myfyrwyr.
Yn fy llythyr cylch gwaith i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gynharach eleni, gofynnais i’r cyngor gymryd camau i sicrhau nad yw sefydliadau addysg uwch yn recriwtio llawer mwy o fyfyrwyr na’r nifer a gytunwyd. O ganlyniad, dywedodd y cyngor cyllido wrth sefydliadau fod pwysau ar gyllideb cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth y Cynulliad os bydd sefydliadau’n cofrestru mwy o fyfyrwyr na nifer y lleoedd a gaiff eu cyllido. Cyn hyn, mae’r cyngor cyllido wedi cynghori sefydliadau bob blwyddyn o’r angen am bwyll wrth recriwtio myfyrwyr. Felly, mae sefydliadau’n gwbl ymwybodol o’r sefyllfa, ac ni ddylai’r angen am gyfyngiadau fod yn syndod ar adeg pan fo arian cyhoeddus yn dynn.
Mae terfynau eisoes wedi’u cyflwyno ar niferoedd myfyrwyr yn nhair cenedl arall y DU. Bydd cyflwyno mesurau i reoli nifer y myfyrwyr israddedig yn golygu bod Cymru yr un fath â gweddill y DU. Ni fydd unrhyw derfynau a gyflwynir gennym yn berthnasol i fyfyrwyr rhan-amser neu ôl-radd. At hynny, ni fydd y terfyn yn gwahaniaethu rhwng darpariaeth â blaenoriaeth a darpariaeth heb flaenoriaeth. Rhoddwyd llawer iawn o ystyriaeth i’r dull hwn o weithredu. Fodd bynnag, yr oedd cyfyngiadau cyfreithiol, a’m dymuniad i osgoi dull a oedd yn rhy fiwrocrataidd, yn golygu nad aethom ar hyd y llwybr hwnnw.
Yr ydym yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar ystod o ymyriadau cadarnhaol i hybu blaenoriaethau strategol cenedlaethol, megis darpariaeth ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, graddau sylfaen a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae fy swyddogion yn trafod â’r cyngor cyllido y posibilrwydd o gyflwyno terfyn ar niferoedd myfyrwyr o 2011-12. Bydd y cyngor yn ymgynghori â sefydliadau addysg uwch am y trefniadau y dylid eu rhoi ar waith.
Yr wyf am ddweud yn glir nad ydym wedi cwtogi cyllid i brifysgolion. Yn fras, mae cyllideb addysg uwch Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11 wedi aros yr un fath â lefelau’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, yr ydym yn gofyn i sefydliadau ystyried goblygiadau recriwtio myfyrwyr sy’n talu ffïoedd yn unig; mae’n iawn inni wneud hynny ar adeg pan fo cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus. Mae’n werth nodi graddau’r buddsoddiad a wneir yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Yn 2010-11, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau bod tua £450 miliwn o gyllid cyfalaf a refeniw ar gael i sefydliadau addysg uwch drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Yn ogystal, caiff tua £388 miliwn ei ddarparu drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru. At ei gilydd, mae cyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg uwch drwy’r cyngor cyllido addysg uwch wedi cynyddu o tua £335 miliwn yn 2002-03 i tua £450 miliwn yn 2010-11.
Yr wyf yn falch o ddweud bod gan sefydliadau yng Nghymru gyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr sydd ymhlith yr uchaf yn y DU, ac nid yw o fudd i neb os yw prifysgolion yn recriwtio y tu hwnt i’w gallu i gynnal darpariaeth o ansawdd uchel. Mae rhaglen gynhwysfawr o gymorth statudol i fyfyrwyr ar gael i helpu myfyrwyr Cymru gael mynediad i addysg uwch. Byddai’n well targedu’r rhaglen hon o gymorth at flwyddyn academaidd 2010-11, yn dilyn canfyddiadau’r adolygiad o addysg uwch yng Nghymru. Fel yr wyf wedi’i gyhoeddi eisoes, bydd myfyrwyr sy’n dod o’r aelwydydd sydd â’r incwm isaf yn cael grant o £5,000 ar gyfer eu holl gostau byw, o’i gymharu ag uchafswm o £2,906 yn 2009-10. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu cytundeb bras â’r egwyddor sylfaenol o dargedu cymorth at fyfyrwyr o aelwydydd incwm isel sy’n dechrau ar gyrsiau addysg uwch. Mae ein trefniadau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys y trefniadau diwygiedig ar gyfer y fwrsariaeth genedlaethol, yn cynnig y gefnogaeth orau a thecaf y mae Llywodraeth y Cynulliad erioed wedi’i chynnig i ddysgwyr.
Nid yw’r trefniadau newydd ar gyfer rheoli nifer y myfyrwyr israddedig yn bolisi annibynnol. Dylid eu hystyried ochr yn ochr â’r ymyriadau cadarnhaol i hybu pynciau â blaenoriaeth a chyflwyno dull rhanbarthol o gynllunio, sydd eisoes ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, buddsoddiad o £1 filiwn mewn perthynas â’r rhaglen STEM genedlaethol, a neilltuo mwy na £7 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu graddau sylfaen. Yn ogystal, yr ydym wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Fel y cadarnheais yn ddiweddar, yr wyf yn disgwyl i’r coleg ffederal fod yn weithredol o 2011-12, ac yn anelu at darged o fod â 1,000 o fyfyrwyr ychwanegol yn dilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2013.
Ochr yn ochr â’r gwaith o reoli niferoedd myfyrwyr, mae’r rhain i gyd yn rhan annatod o fframwaith cyffredinol ar gyfer cyflawni blaenoriaethau polisi 'Er Mwyn Ein Dyfodol’, gyda’r nod o sicrhau system addysg uwch egnïol a chynaliadwy yng Nghymru.