Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Adroddiad y Panel Adolygu Ymchwil a Datblygu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau

Mae egwyddor 3 y Cod Ymarfer ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodeth, yn ymrwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi’r holl bapurau busnes cyffredin, gan gynnwys papurau’r Cabinet a Phwyllgor y Cabinet.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cofnodion a’r papurau hynny (nad ydynt wedi’u heithrio rhag eu cyhoeddi) 6 wythnos o ddyddiad y cyfarfod hwnnw.  Yn achos cyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet, bydd y cofnodion a’r papurau’n cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosib yn dilyn eu clirio yn y cyfarfod nesaf ond heb fod yn gynt na chwe wythnos wedi’r cyfarfod priodol. 

Gofynnwyd i’r Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes gytuno ar adroddiad terfynol yr adolygiad o drefniadau a ffynonellau ariannu Ymchwil a Datblygu yng nghyfarfod y Pwyllgor Cabinet ar Adnewyddu’r Economi ar 12 Gorffennaf 2010.  Mae cofnodion a phapurau’r cyfarfod i’w cyhoeddi yn yr wythnos sy’n dechrau 23 Awst, a byddant ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Bydd Adroddiad Terfynol Adolygu Ymchwil a Datblygu yn cael ei gyhoeddi yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidogion.   

Gofynnwyd i’r Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oed gytuno ar Adroddiad y Panel Adolygu Ymchwil a Datblygu o dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau. 

Mae’r Panel Adolygu wedi edrych ar gyflwr presennol y gwaith Ymchwil a Datblygu yn y  maes academaidd ac ym myd busnes yng Nghymru, ac yn gwneud argymhellion ar sut y gellid cynyddu lefel yr Ymchwil a’r Datblygu yng Nghymru.  

Mae gwaith ymchwil yng Nghymru yn cael ei gynorthwyo o nifer o wahanol ffynonellau.  Mae’r gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal fwyaf gan y prifysgolion yn cael ei gynorthwyo’n bennaf gan y Cynghorau Ymchwil a CCAUC, tra bod Ymchwil a Datblygu sy’n agosach at y farchnad yn cael ei gynorthwyo gan y TSB.  Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ariannu Ymchwil a Datblygu trwy’r Rhaglenni Fframwaith (FP) ac mae Llywodraeth y Cynulliad ei hun hefyd yn rhoi arian sylweddol i Ymchwil a Datblygu trwy WEFO.   

Cynhaliwyd adolygiad trylwyr ar y cyd gan APADGOS ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth o gyllid i waith ymchwil mewn pum cam:

  • Cam Un: Y System Cymorth Deuol ar gyfer ariannu gwaith ymchwil mewn prifysgolion yng Nghymru
  • Cam Dau: Cyllid y Cyngor Ymchwil yng Nghymru
  • Cam Tri: Ffynonellau incwm yr UE
  • Cam Pedwar: Incwm Ymchwil o Ffynonellau Eraill
  • Cam Pump: Incwm Ymchwil oddi wrth neu gyda Chysylltiad â Busnesau

Mae gan Weinidogion Cymru y pwerau canlynol:

O dan adran 14 Deddf Addysg 2002, i roi cymorth ariannol i hybu gwaith ymchwil 

O dan adran 5 Deddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965, i gymryd arian sy’n cael ei ddarparu gan y Senedd, i dalu costau cynnal neu gynorthwyo gwaith ymchwil gwyddonol, neu ddosbarthu canlyniadau gwaith ymchwil gwyddonol, a hyrwyddo’r defnydd ymarferol o ganlyniadau ymchwil gwyddonol.  Cafodd swyddogaethau o dan Ddeddf 1965 eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 (a chânt eu gweithredu bellach gan Weinidogion Cymru), ac eithrio’r hyn sy’n gysylltiedig â chynghorau ymchwil. 

O dan adran 10 Deddf Addysg Uwch 2004, i gynnal neu gynorthwyo gwaith ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau, dosbarthu canlyniadau’r gwaith ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau, hyrwyddo defnydd ymarferol o ganlyniadau’r gwaith ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau, a sefydlu cyrff cynghori i gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn materion sy’n gysylltiedig â gwaith ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

O dan adran 68 Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, i wneud grantiau i CCAUC.  Mae’n rhaid i CCAUC weinyddu cyllidebau o’r fath ar gyfer gweithgareddau cymwys, sy’n cynnwys sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gynnal gwaith ymchwil.   Ni ellir llunio amodau grantiau Gweinidogion Cymru i CCAUC, trwy gyfeirio at raglenni ymchwil penodol, neu fod yn gysylltiedig â darparu cymorth ariannol i weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan unrhyw sefydliad neu sefydliadau penodol; ac 

O dan adran 62 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, i gynnig sylwadau priodol ar unrhyw fater sy’n cael effaith ar Gymru.