Skip to content

Ysgrifenedig - Y Rhaglen Dileu TB

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Yn sgil Cwestiwn Llafar y Cynulliad a ofynnwyd prynhawn yma, rwy’n ysgrifennu’n ffurfiol at Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf iddynt am y Rhaglen Dileu TB a dyfarniad Llys yr Apêl.

 

Nid yw fy ymrwymiad i ddileu TB gwartheg, yn unol â’r ymrwymiad gwreiddiol yn Cymru’n Un, wedi pallu’r un gronyn.  Dros y tair blynedd, rydym wedi creu rhaglen gynhwysfawr sy’n cynnwys pecyn o fesurau i fynd i’r afael â’r clefyd yng Nghymru.

 

Gallwn fynd rhan o’r ffordd i ddileu TB gwartheg trwy leihau’r perygl i wartheg ledaenu’r clefyd.  Mae fy ail adroddiad blynyddol i’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig a gyhoeddais wythnos ddiwethaf yn disgrifio’r gwaith mawr sydd wedi’i wneud ar draws y rhaglen gan gynnwys:

  • cynnal profion blynyddol ar fuchesi ym mhob rhan o Gymru,
  • newid y polisi ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf er mwyn inni allu symud gwartheg heintiedig oddi ar ffermydd yn gynt,
  • newidiadau diweddar i’r Profion Cyn Symud a’r drefn ar dalu iawndal gan ddefnyddio Gorchymyn TB (Cymru) 2010,
  • cryfhau mesurau gorfodi – er enghraifft ddydd Llun wythnos yma cafodd fy swyddogion warant i gynnal prawf ar fuches lle nad oedd y perchennog yn cydymffurfio â’r drefn brofi,
  • gweithio gyda Byrddau Rhanbarthol Dileu TB.

Hefyd, eleni yw’r flwyddyn gyntaf i’r Comisiwn gydnabod a chytuno ar gynllun dileu TB gwartheg ar gyfer Cymru, ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon.

 

Nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid ein trywydd yn hyn o beth, felly bydd y mesurau rheoli gwartheg ac eraill yn parhau mewn grym ledled y wlad.  Fodd bynnag, fel gyda phob clefyd heintus, rhaid mynd i’r afael â holl ffynonellau’r clefyd i gael unrhyw obaith o’i ddileu.  Dyna pam fod gan y Rhaglen Dileu TB elfen sy’n ymdrin ag anifeiliaid gwyllt.

 

Cyn penderfynu ar sut i orau i fwrw yn ein blaenau â strategaeth ar gyfer rheoli anifeiliaid gwyllt a delio â chronfa’r haint yn y fan honno, rwyf am ystyried manylion y dyfarniad yn ofalus a rhoi sylw i’r dystiolaeth ddiweddaraf a’r sefyllfa fel ag y mae heddiw.