Skip to content

Ysgrifenedig - Y Strategaeth Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad a Chyhoeddiad yr Adroddiad ar Gynnydd Blynyddol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Ar y 14 Mai 2009, lawnsiais y strategaeth “Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad – Creu Dyfodol Cadarn”. Ymrwymais bryd hynny i adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad ar gynnydd y strategaeth newydd, sy’n darparu’r fframwaith polisi strategol i’r Adran dros Faterion Gwledig.

 

Rwyf wedi derbyn fersiwn draft o’r adroddiad ar gynnydd blwyddyn gyntaf y Strategaeth, a byddaf yn ei adolgu cyn iddo gael ei gyhoeddi’n llawn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae’r Strategaeth yn amlinellu cyfeiriad polisi Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiannau ffermio, bwyd a chynhyrchu ar y tir, tra’n cynnal ffyniant cymunedau gwledig a’r amgylchfyd hyd at 2020. Mae “Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad – Creu Dyfodol Cadarn yn adeiladu ar y strategaeth ffermio blaenorol “Ffermio i’r Dyfodol” ac yn ystyried argymhellion yr adroddiad “Ffermio ac Amgylchedd cynaliadwy – Camu Ymlaen at 2020”.

 

Mae’r Strategaeth yn rhoi gweledigaeth glir o ffermio yng Nghymru sy’n ganolog i gefn gwlad cynaliadwy ac economi wledig broffidiol sy’n gallu wynebu’r sialensau yn y dyfodol a manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir mewn economi sy’n fwyfwy cyfnewidiol a global.

 

Amcanion y strategaeth yw:

  • cyflawni dyfodol proffidiol i deuluoedd ffermio a busnesau gwledig
  • ymrwymo’n llawn gyda chymunedau gwledig wrth gynhyrchu agenda ehangach i gefn gwlad;
  • dyrchafu safonau aruchel o Iechyd a Lles Anifieiliaid;
  • datblygu cyd-gysylltiadau gwledig a threfol;
  • amddiffyn yr amgylchedd a lliniaru newid yn yr hinsawdd;
  • cyfrannu at ffyniant a lles economaidd cymunedau gwledig.

Fel strategaeth trosfwaol yr Adran dros Faterion Gwledig, mae gweithrediad llwyddianus y Strategaeth yn ddibynnol ar gyfraniadau ar draws Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Ers y lawnsiad ar 14 Mai 2009, mae Grwp Llywio Datblygu Polisi Allanol wedi ei greu gyda’r amcanion canlynol:

  • cytuno ar strwythur i gyflawni amcanion yr FBCh;
  • sefydlu fframwaith monitro ar gyfer y strategaeth FBCh;
  • Adnabod gyrwyr polisi ymgodol, fel CAP, y Cynllun Datblygu Gwledig newydd a newid hinsawdd. Bydd rhain yn adnewyddu’r strategaeth ac yn cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu atodol.

Bydd Bwrdd Arweinyddiaeth yn arwain gweithrediad y Strategaeth, drwy scriwtineiddio adroddiadau caiff eu gyrru at y Bwrdd ddwywaith y flwyddyn.  Bwriedir i aelodaeth y Bwrdd ddod o’r grwp rhanddeiliaid allanol gwreiddiol oedd yn rhan o’r Grwp ddatblygodd y Strategaeth, ynghyd â rhanddeiliaid allanol eraill caiff wahoddiad i ymuno fel bo’r angen.

 

Mae ail lefel y strwythur cyflwyno ar ffurf Grwp Mewnol Datblygu a Llywio Polisi.

Pwrpas y Grwp yw rheoli gwaith presennol y Strategaeth a sicrhau bod datblygiadau polisi yn y dyfodol wedi integreiddio mewn modd sy’n sicrhau’r defnydd gorau posib o adnoddau cyllidebol a dynol ar draws yr Adran dros Faterion Gwledig.

 

Mae cyfansoddiad y lefel waelodol, a fydd yn cefnogi’r elfen weithredol o’r Strategaeth yn cynnwys pump grwp thematig. Mae’r grwpiau hyn yn gweithio ar themau penodol sydd wedi eu hadnabod eisioes fel y pump pennod thematig o fewn y Strategaeth. Pwrpas y grwpiau hyn yw adnabod cynnydd presennol y gwaith sy’n mynd rhagddo dan y pump thema, ac yna cyflwyno argymhellion i’r Grwp Datblygu a Llywio Polisi ar statws a pherthnasedd y gwaith.

 

Gellid ystyried y model yma yn un cyffredinol a gellid trosglwyddo’r fframwaith er mwyn hyrwyddo rheolaeth polisi effeithiol a chynhwysfawr.

 

Ystyrir y Strategaeth Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad yn ddogfen fyw, sy’n ceisio gosod cynsail weithredol i reolaeth a chyflwyniad polisi ar draws portffolio Materion Gwledig tan 2020.