Skip to content

Ysgrifenedig - Y Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mae’r Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) wedi’i osod heddiw.

 

Bydd y Mesur arfaethedig yn gwneud newidiadau y bwriedir iddynt wella safonau diogelwch cerbydau modur i’w defnyddio i ddarparu cludiant dan gontract i ddysgwyr. Bydd y pwerau fframwaith yn y Mesur yn ein galluogi ni, drwy’r Rheoliadau, i osod ystod eang o ddyletswyddau ar awdurdodau lleol o ran safonau diogelwch ar fysiau ysgol sydd ganddynt o dan gontract.

 

Mae’r Mesur arfaethedig yn gwneud darpariaeth i Reoliadau gael eu gwneud mewn perthynas â’r canlynol:

  • disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr (Adran 1 o’r Mesur arfaethedig)
  • recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr (Adran 2)
  • asesiadau risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu fel arall a sicrheir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir (Adran 3)
  • camau i’w cymryd gan awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir i ddarparu cludiant i ddysgwyr yn cael hyfforddiant priodol (Adran 4)
  • darparu goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr (Adran 5)
  • cosbi a gorfodi (Adrannau  6-11 ac Atodlen A1)

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory er mwyn cyflwyno’r Mesur arfaethedig.