Skip to content

Datganiad Llafar - Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch fersiwn ddrafft Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Hoffwn wneud datganiad am fersiwn ddrafft arfaethedig Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Ar ôl iddi ddod i rym, bydd Deddf Cydraddoldeb 2010, am y tro cyntaf erioed, yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus penodol yng nghyswllt awdurdodau datganoledig yng Nghymru. Heddiw, yr wyf yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion a'r rheoliadau drafft a fydd yn cyflwyno'r dyletswyddau newydd hyn. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, gan ddod i ben ar 17 Rhagfyr. Ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft, byddaf yn darparu asesiadau cydraddoldeb a rheoleiddiol drafft ar gyfer yr ymgynghoriad. Erbyn hyn, mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yr wyf wedi rhoi'r ddolen electronig i Aelodau.

 

Cyn imi amlinellu'r rheoliadau drafft eu hunain, hoffwn dreulio ychydig o amser yn ailadrodd ein hamcanion polisi wrth ddatblygu'r dyletswyddau hyn. Mae arnom eisiau i'r dyletswyddau hyn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddinasyddion Cymru—yn enwedig y bobl hynny nad yw cymdeithas wedi eu gwerthfawrogi'n iawn neu y mae cymdeithas wedi gwahaniaethu yn eu herbyn yn draddodiadol. Mae angen inni gydnabod nad yw cymdeithas yn gwahaniaethu, yn erlid nac yn aflonyddu'n fwriadol, ac nid yw'n ceisio meithrin cysylltiadau drwg na dal pobl yn ôl rhag iddynt gyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, ambell waith, wrth frysio i gyflawni pethau, mae modd gadael pobl ar ôl—yn aml y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Nid yw hynny'n dderbyniol, a phan fydd yn digwydd gall pobl deimlo eu bod yn cael eu hallgáu o'r byd yr ydym yn ei greu.

 

Mae gan y Llywodraeth a'r sector cyhoeddus drwyddo draw ran i'w chwarae. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi arwain y ffordd yng nghyswllt cydraddoldeb. Daw'r arweiniad hwn o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n rhoi dyletswydd arnom i roi sylw dyledus i hybu cyfle cyfartal i bob dinesydd yng Nghymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd y cyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd plant a chomisiynydd pobl hŷn. Ni oedd un o'r awdurdodau cyhoeddus cyntaf i ddatblygu ac i gyhoeddi cynllun cydraddoldeb sengl a oedd yn mynd y tu hwnt i'n dyletswyddau statudol.

 

Ein dyhead yw parhau i arwain y ffordd yng nghyswllt cydraddoldeb. Mae rhai pobl yn ofni bod datblygu agenda o gydraddoldeb o ran canlyniadau a chyfleoedd, ac adeiladu cymdeithas deg a goddefgar, yn disgyn i waelod y rhestr o flaenoriaethau mewn hinsawdd economaidd anodd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn camu'n ôl o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â gwahaniaethu lle bynnag mae'n codi. Byddwn yn dal i arwain ar leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sicrhau bod pobl anabl yn gallu cyrraedd eu potensial llawn a hybu cymunedau mwy cydlynus. Ein gweledigaeth yw i Gymru fod yn wlad lle mae pobl yn dod ynghyd i gyflawni pethau sydd o fudd nid i'r lleiafrif, nac y mwyafrif, ond i bawb sy'n ffurfio ein cymunedau.

 

Mae hyn wrth galon y cynigion drafft hyn, ac mae'r ffocws ar amcanion cydraddoldeb sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Os yw'r rhain am fod yn ystyrlon, mae angen casglu tystiolaeth gredadwy a'i dadansoddi er mwyn gweld lle mae angen gweithredu. Fodd bynnag, mae hynny'n cymryd amser. Yr wyf felly’n cynnig bod awdurdodau cyhoeddus yn casglu'r dystiolaeth, yn ymgysylltu â phobl ac yn llunio amcanion a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Bydd angen cyhoeddi'r amcanion hyn erbyn mis Ebrill 2010. Felly, nid yw hon yn flwyddyn segur i ddyletswyddau cydraddoldeb; mae'n gydnabyddiaeth bod angen amser i greu amcanion a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl.

 

Nid oes angen cyfyngu ar amcanion gyda chyfyngiadau amser artiffisial, ond mae angen iddynt ddweud pam mae angen gwneud rhywbeth, beth fydd yn cael ei wneud, erbyn pryd a sut. Bydd yr amcanion hyn yn sicrhau pobl ynghylch beth fydd awdurdodau cyhoeddus yn ei wneud. Ni fwriedir i’r dyletswyddau hyn gywiro popeth o'r diwrnod cynaf y deuant i rym fis Ebrill nesaf. Yr ydym wedi dysgu o brofiad nad yw'r newid mewn agweddau y mae angen inni eu meithrin ddim yn digwydd dros nos oherwydd rheoliadau; mae newid yn cymryd amser ac mae angen ei arwain yn gyson. Y gofynion sy'n cael eu cynnig i'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw'r camau cyntaf ar hyd ein taith. Mae gwersi wedi cael eu dysgu o'r dyletswyddau a fu o'r blaen, ac o'n profiadau ein hunain. Felly, byddwn yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac yn ei wella wrth inni symud ymlaen.

 

Bydd y dyletswyddau statudol hyn a gynigir yn fwy rhagnodol na'r rheini sy'n cael eu cynnig mewn mannau eraill. Maent yn rhoi eglurder a hyblygrwydd lle mae angen hynny, a chan ystyried bod hwn yn ymgynghoriad cyhoeddus, yr wyf yn fodlon gwrando ar unrhyw newidiadau y carai pobl eu hawgrymu. Fodd bynnag, rhaid i'r dyletswyddau hyn arwain at gyflawni dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol y sector cyhoeddus yn well. Bydd y ddyletswydd gyffredinol newydd yn mynnu bod unrhyw awdurdod cyhoeddus a restrir yn Atodlen 19 y Ddeddf yn rhoi sylw dyledus wrth arfer ei swyddogaethau i'r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu neu erlid; symud cyfle cyfartal ymlaen; a meithrin cysylltiadau da. Bydd y ddyletswydd newydd yn berthnasol i wyth maes cydraddoldeb, neu, fel y cânt eu galw yn y Ddeddf, 'nodweddion gwarchodedig', sy'n symud oddi wrth y tri maes cydraddoldeb yr ydym wedi dod i arfer â nhw dros y blynyddoedd diwethaf—anabledd, hil a rhyw.

 

Nid yw hynny'n golygu gwanhau'r agweddau cadarnhaol sydd wedi cael eu datblygu at y dyletswyddau cydraddoldeb cyfarwydd hynny. Mae'n golygu ein bod yn ymestyn y manteision y gall y dyletswyddau sector cyhoeddus hyn eu cyflwyno i rai eraill sydd hefyd wedi bod yn destun gwahaniaethu yn y gorffennol. Felly, bydd y dyletswyddau newydd hefyd yn berthnasol i nodweddion gwarchodedig oed, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae rhoi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid o fewn y ddyletswydd gyffredinol hefyd yn berthnasol i nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil.

 

Mae'n bwysig cofio mai diben dyletswyddau penodol yw galluogi’r  awdurdodau cyhoeddus rhestredig i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn well. Mae arnom angen cael y cydbwysedd iawn a dylid cael eglurder ynghylch yr hyn y mae angen ei wneud er mwyn sicrhau perfformiad gwell. Dylid cael hyblygrwydd i alluogi awdurdodau i ddefnyddio'r systemau sydd eisoes ar waith yn llawn. Yr ydym wedi glynu wrth yr egwyddorion sydd wedi'u gosod allan y llynedd a oedd yn gosod y sylfeini ar gyfer y dyletswyddau hyn yn y rheoliadau sydd i'w datblygu—hyblygrwydd, cymesuredd, cynnwys dinasyddion a thryloywder. Mae hynny yn hanfodol i symud ymlaen.

 

Rhoddodd ein rhanddeiliaid rai negeseuon clir inni am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y dyletswyddau hyn, a rhoddodd yr ymarfer gwrando a gynhaliwyd y llynedd arweiniad clir inni. Y negeseuon a gawsom oedd y dylai awdurdodau cyhoeddus ddatblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb ar sail tystiolaeth; y dylai'r amcanion ganolbwyntio ar ganlyniadau; y dylid cadw cynlluniau cydraddoldeb; ac y dylid ymgorffori elfennau o'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol sydd eisoes yn bodoli ynghylch hil ac anabledd yn y ddyletswydd newydd. Negeseuon clir eraill oedd yr angen i gadw asesiadau effaith, ond iddynt fod yn haws eu deall ac iddynt gael eu defnyddio'n gymesur, ac i ymgysylltu â dinasyddion fod wrth galon y ddyletswydd newydd, sydd yn arbennig o bwysig.

 

Caiff y gofynion hyn eu gosod allan yn y rheoliadau drafft hyn. Bydd disgwyl i awdurdodau cyhoeddus perthnasol Cymru ddatblygu amcanion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, a’r rheini’n seiliedig ar dystiolaeth; sicrhau bod trefniadau ar waith neu eu bod yn cael eu cynnig i alluogi'r awdurdod i gyflawni'r amcanion; a chyhoeddi cynllun cydraddoldeb erbyn dim hwyrach na mis Ebrill 2012 sy'n dod â'r holl wybodaeth hon ynghyd i wella tryloywder i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Yr wyf hefyd yn cynnig rhai gofynion eraill, gan gynnwys y bydd y dyletswyddau hefyd yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus rhestredig gasglu gwybodaeth berthnasol am eu gweithwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â chyflogaeth, megis tâl, hyfforddiant, gweithdrefnau achwyno a recriwtio. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau cyhoeddus i roi'r ystyriaeth y mae ei hangen i amcanion sy'n ymwneud â chyflogaeth.

 

Ar hyn o bryd, mae'r dyletswyddau sy'n berthnasol i gyflogwyr yn ofynnol ar bob nodwedd ac eithrio cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd. Mae rhai pobl wedi dweud y dylid cael gwared â rhai o'r gofynion hyn sy'n berthnasol i gyflogwyr. Mae eraill wedi dweud y dylid eu cadw, ac y dylid cynnwys cyfeiriadedd rhywiol ynghyd ag ailbennu rhywedd. Byddaf yn ystyried y materion hyn ymhellach ar ôl rhagor o ymgynghori cyhoeddus. Bydd awdurdodau cyhoeddus yn cael yr hyblygrwydd i ddefnyddio mecanweithiau adrodd sy’n bodoli i gyhoeddi cynlluniau ac unrhyw wybodaeth berthnasol.

 

Bu llawer o drafodaethau ynghylch manteision asesiadau effaith. Ar eu gwaethaf, fe'u gwelir fel ymarferion ticio blychau ac, ar eu gorau, fe'u gwelir fel proses systematig sy'n rhoi cyfle i wella ein polisïau a'n harferion. Yr wyf yn cynnig bod asesiadau effaith, os cânt eu defnyddio'n gymesur, yn ffordd effeithiol o ymgysylltu ag awdurdodau cyhoeddus a'u galluogi i roi sylw dyledus i ofynion eu dyletswydd gyffredinol wrth i swyddogaethau gael eu harfer. Felly, yr wyf yn cynnig cadw'r gofyniad i awdurdodau cyhoeddus rhestredig gynnal asesiadau effaith.

 

Mae'r rheoliadau drafft yn cynnwys dyletswydd sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus. Bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus sy'n contractio roi sylw dyledus i a ddylai'r contract a ddyfernir gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i berfformiad awdurdod yng nghyswllt y ddyletswydd gyffredinol. Cynigir gofyniad tebyg yng nghyswllt gosod amodau'r contract. Wrth gwrs, rhaid i awdurdodau weithredu o fewn ffiniau cyfraith caffael yr UE. Bydd y ddyletswydd arfaethedig yn cael rhywfaint o effaith drwy hoelio sylw'r awdurdodau cyhoeddus yn ystod yr ymarfer caffael sydd yn fwy na throthwyon yr UE.

 

Caiff darpariaethau ymgysylltu, a ddaw o'r ddyletswydd anabledd bresennol, eu cynnwys. Mae ymgysylltu yn rhan annatod o ddatblygu amcanion ac asesu effaith ein polisïau a'n harferion ar ddinasyddion Cymru. Mae ymgysylltu yn hollbwysig i'r dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae wedi bod yn un o nodweddion Llywodraethau dilynol y Cynulliad, ac mae'n hanfodol adeiladu hyn i'r dyletswyddau. Yn yr un modd, rhaid i unrhyw wybodaeth a gyhoeddir gan awdurdod cyhoeddus fod yn hygyrch. Rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt.

 

Yr wyf hefyd yn cynnig cadw'r gofyniad bod Gweinidogion Cymru yn adrodd ar weithredu'r ddyletswydd anabledd. Caiff yr adroddiad nesaf ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2011. Wedi hynny, cynigir y dylai'r adroddiad fod ar weithredu dyletswydd cydraddoldeb cyffredinol y sector cyhoeddus. Bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei wneud bob pedair blynedd i gyd-daro â thymhorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wyf yn ymwybodol ei bod yn rhaid defnyddio'r dyletswyddau hyn lle gallant gyflawni'r effaith orau. Yr wyf yn cynnig y dylai 90 o'n hawdurdodau cyhoeddus mwy, gan gynnwys Gweinidogion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, fod yn rhwym wrth y dyletswyddau hyn.

 

Er y bydd angen diwygio rhai arferion gwaith presennol i ystyried y gofynion newydd, yr ydym wedi ymgorffori digon o hyblygrwydd i sicrhau bod amser i roi trefniadau ar waith. Nid yw cyrff llywodraethu ysgolion a chynghorau iechyd cymuned yn cael eu cynnwys yn y dyletswyddau penodol. Byddai gwneud hynny'n rhoi baich afresymol arnynt a byddai'n gofyn am ymdrech anghymesur o'i gymharu â'r budd y gellid ei gyflawni. Fodd bynnag, byddant yn dal yn rhwym wrth y ddyletswydd gyffredinol wrth arfer eu swyddogaethau cyhoeddus.

 

Wrth ddatblygu'r gofynion yn y rheoliadau drafft, yr ydym wedi rhoi hyblygrwydd i awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio prosesau sydd eisoes yn bodoli lle bu'n gall gwneud hynny. Mae gofynion yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn galluogi perfformio'r ddyletswydd gyffredinol yn well, wedi cael eu cynnwys. Diben yr ymgynghoriad cyhoeddus yw sicrhau bod y dyletswyddau yr ydym yn eu cynnig yn iawn i ni yng Nghymru.

 

I gloi, bydd y ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus gyffredinol newydd yn rhoi cydraddoldeb wrth galon gwaith y sector cyhoeddus. Mae cael dyletswyddau penodol ystyrlon sydd wedi'u dylunio i ganolbwyntio ar allu perfformio'r ddyletswydd yn well yn ymdrech werth chweil. Bydd y dyletswyddau yn ein galluogi i weithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n cadw'r swyddogaeth statudol dros gyhoeddi arweiniad i gefnogi'r dyletswyddau a'u gorfodi. I wneud hynny'n effeithiol, mae angen i'r comisiwn fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym yn gofyn i'r awdurdodau cyhoeddus sy'n rhwym wrth y dyletswyddau ei wneud. Yr wyf yn edrych ymlaen at gyflwyno'r rheoliadau drafft yn gynnar y flwyddyn nesaf i'r Cynulliad eu hystyried yn ffurfiol ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus.