Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad ar yr adolygiad o adnoddau rheng flaen - Ymatebion i lythyr ‘Her yr Haf’

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ar 16 Gorffennaf, anfonais lythyr at benaethiaid sefydliadau a chyrff sy’n cynrychioli’r sector yn eu herio i ymateb yn unigol a gyda’i gilydd i’r damcaniaethau yn adroddiad PricewaterhouseCoopers ar y gost o weinyddu addysg yng Nghymru. 

 

Cefais amrywiaeth eang o atebion gan sefydliadau addysg bellach ac uwch a’r cyrff sy’n eu cynrychioli ac ymatebion yn seiliedig ar bedwar rhanbarth y consortia o’r sector awdurdodau lleol.

 

Rwy’n croesawu’r ymatebion hyn ac mae’n bleser gennyf nodi’r gweithgarwch sydd wedi digwydd hyd yma a’r cynlluniau a ddatblygwyd ar gyfer cyflawni newid pellach.  Roedd yr ymatebion o’r sector addysg bellach yn enwedig yn dangos fod rhywfaint o feddwl trawsnewidiol eisoes yn digwydd sydd â’r potensial i gyflawni’r lefel o newid yr wyf yn anelu ato o ran costau.

 

Serch hynny, mae llawer o’r ymatebion heb fynd yn ddigon pell: mae angen gweithredu mewn modd mwy radical o lawer i gyflawni’r newid yn y costau ar y raddfa fydd ei hangen i ddiogelu gwasanaethau a blaenoriaethau strategol ac i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i’n dysgwyr. 

 

Nid unig ddiben sefydlu’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen oedd sicrhau arbedion, ond i sicrhau’r gwasanaeth addysg gorau posibl, gan symleiddio’r swyddogaethau cymorth a lleihau rhai o’r beichiau biwrocrataidd dianghenraid yn y system, gan gadw mewn cof y nod hollbwysig o wella safonau a chyrhaeddiad.  Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd mewn ffyrdd newydd i gyflawni hyn ac mae angen i ni feddwl mewn ffyrdd newydd hefyd: nid am fuddiannau sefydliadau unigol ond am y strwythur ehangach o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru.  Felly, mae fy her i’r sector addysg yn parhau.  Mae angen i ni weithredu’n drawsnewidiol ac yn gyson i gyflawni newid ar y raddfa angenrheidiol a rhaid i’r sefydliadau hynny sydd ar ei hôl hi ddal i fyny gyda’r rhai sydd eisoes yn cymryd camau breision ymlaen.

 

O ran y camau nesaf, rwyf wedi sefydlu nifer o weithgorau, a bydd pob un ohonynt yn archwilio cyfleoedd gwahanol, er mwyn bwrw ymlaen â’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen.  Mae’r grwpiau hyn yn adrodd i Fwrdd Rhaglen sy’n cael ei gadeirio gennyf i.  Mae gwaith y grwpiau eisoes yn dod ymlaen yn dda ac rwyf wedi gofyn iddynt ystyried yr ymatebion i Her yr Haf a’u cynnwys yn eu trafodaethau.  Mae’r grwpiau’n symud ymlaen yn gyflym i glustnodi cyfleoedd ar gyfer newid a fydd yn sicrhau’r lefel o drawsnewid sydd ei hangen arnom.

 

Caiff ffrwyth y gwaith hwn, ynghyd â’r ymatebion i Her yr Haf, eu defnyddio i baratoi cynllun cyflawni ar gyfer yr Adolygiad o’r Adnoddau Rheng Flaen.  Bydd hyn yn cynnwys asesiad clir o’r manteision ariannol i’r system addysg, ac amserlenni heriol ond realistig ar gyfer cyflawni.  Wedi hynny, fy her i’r sector addysg fydd cydweithio i gyflawni’r newid.  Fy rôl i fydd goruchwylio’r newid a pharhau i atgoffa arweinwyr addysg am eu dyletswydd i roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n dysgwyr.  Rwy’n bwriadu gwneud hyn yn rheolaidd yn y misoedd nesaf.

 

Rwyf hefyd am sicrhau fod y system addysg yn cael ei llunio yn y fath fodd fel bod y broses drawsnewid hon yn bosibl.  Felly, law yn llaw â’r gwaith hwn, rwyf hefyd wedi gofyn i grŵp bach o arbenigwyr addysg feddwl am y strwythur gorau posibl ar gyfer darparu addysg a hyfforddiant yng Nghymru (ac eithrio Addysg Uwch).  Rwyf yn esbonio mwy am hynny mewn datganiad ysgrifenedig ar wahân yfory.