Skip to content

Datganiad Llafar - Cwpan Ryder 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Dechreuodd y gwaith caled ar gyfer cyflwyno’r achos dros gynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghymru yn 2010 bron i ddegawd yn ôl. Er gwaethaf popeth, enillodd Syr Terry Matthews, Llywodraeth Cynulliad Cymru a dinas Casnewydd y cais yn 2001. Cafodd y paramedrau a’r ymrwymiadau eu gosod allan yn y cais llwyddiannus, a oedd yn cynnwys addewid i gyflwyno buddion i Gymru gyfan cyn, yn ystod, ac ar ôl y digwyddiad. Credaf ein bod wedi cyflawni ein nod yng nghyswllt y ddau bwynt cyntaf ac yr ydym bellach yn troi ein sylw at y buddion ar ôl y digwyddiad.

 

Cwpan Ryder yw’r digwyddiad chwaraeon mwyaf ym maes golff a'r unig ddigwyddiad lle cynrychiolir Ewrop mewn un tîm. Roedd hwn yn gyfle bythgofiadwy i roi Cymru yn gadarn ar y map byd-eang ac yr oedd yn un o’r cyfleoedd gorau yr ydym wedi’i gael i ddangos ein gwlad ar lwyfan y byd. Ar ôl ennill y cais, gwnaethom sefydlu ac ariannu Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf i weithio gyda ni, yn ogystal â’r daith Ewropeaidd, Gwesty'r Celtic Manor, dinas Casnewydd ac amrywiaeth o bartneriaid eraill er mwyn cyflawni digwyddiad y mae llawer o bobl wedi'i ganmol nid yn unig fel Cwpan Ryder Cymreig ei naws, ond y gystadleuaeth Cwpan Ryder orau erioed.

 

Dros y 10 mlynedd a aeth heibio, yr ydym wedi cynnal dros 60 o ddigwyddiadau Haf o Golff ledled Cymru, gan fynd â golff o safon uchel at y cyhoedd yng Nghymru a'u helpu i arddangos cyrsiau ardderchog megis cwrs Royal St Davids yn Harlech a Phenrhyn Machynys ger Llanelli. Cafwyd help i wneud hynny gan fentrau Twristiaeth Golff sydd wedi ennill gwobrau a gaiff eu rhedeg gan Croeso Cymru, gan ddefnyddio Cwpan Ryder fel catalydd. Rhwng 2004 a 2009, cafwyd cynnydd o 32 y cant yn nifer y twristiaid golff, gyda chynnydd mewn gwerth o £23miliwn yn 2004 i £34.7 miliwn yn 2009. Mae cyrsiau o St Pierre yng Nghas-gwent i gwrs Nefyn ym mhenrhyn Llŷn oll wedi gweld y buddion. Yr ydym wedi llwyddo hefyd i ganolbwyntio ar annog mwy o bobl i chwarae golff drwy fentrau mewn ysgolion a chynlluniau eraill a gyflwynir gan Datblygu Golff Cymru. O ganlyniad i’r £2 filiwn o gronfa etifeddiaeth Cwpan Ryder, bydd 40 o gyfleusterau golff ychwanegol ledled Cymru, a phob un ohonynt wedi’i anelu at gael mwy o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn golff.

 

Cafodd yr holl fentrau hyn a mwy eu cyflawni cyn y digwyddiad, ond, fel y dywedais yn gynharach, yr oedd wythnos Cwpan Ryder ei hun yn cynnig llwyfan y byd i ni, a phan fyddwch chi ar lwyfan y byd ni allwch wneud camgymeriad.  Bu’n rhaid i ni fuddsoddi amser, ymdrech ac adnoddau er mwyn sicrhau na fyddai hynny’n digwydd, a’r adborth a gawsom, hyd yn oed gan ein beirniaid mwyaf llym, oedd ein bod wedi llwyddo i greu darlun perffaith bron o Gymru er gwaethaf yr heriau o ran tywydd, a dweud y lleiaf. Dylai pob un ohonom ymfalchïo yn hynny.

 

Cyn i’r gemau gychwyn, gwnaethom gynnal derbyniad i’r cyfryngau ar gyfer gwasg y byd a oedd yn bresennol, a chafodd y chwaraewyr a’u gwragedd fwynhau swper yng nghastell Caerdydd cyn ymuno â gwesteion a’r cyhoedd yn swper a chyngerdd Croeso i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm. Fel y dywedodd Paul Kelso mewn erthygl yn The Daily Telegraph:

 

Roedd y sylw ymlaen llaw wedi codi’r safon ar gyfer trefnwyr cystadleuaeth Cwpan Ryder y dyfodol, gyda’r cyngerdd yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher yn rhoi’r teimlad o ddigwyddiad mawr go iawn a oedd yn arfer bod mewn gêm golff tîm.

 

Yn ystod dyddiau’r gemau, gwnaethom gynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn arddangos Cymru i’r rheini a oedd yn ymweld â’r wlad ar gyfer Cwpan Ryder. Yr oeddent yn cynnwys tua 100 o westeion Llywodraeth Cynulliad Cymru, lle cafodd eu gwahoddiadau eu hystyried yn erbyn achosion busnes a gyflwynwyd, yn ogystal â gwesteion Syr Terry Matthews a’r Celtic Manor, a gwesteion y daith Ewropeaidd. Yr oeddwn i, yn ogystal â’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Treftadaeth, yn bresennol yn y digwyddiadau drwy gydol yr wythnos ac yn ystod y tri diwrnod y cynhaliwyd y twrnamaint, gwnaethom drefnu bron i 30 o gyfarfodydd ag unigolion hollbwysig, gan gynnwys Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Llywydd Barroso, a nifer o lysgenhadon, yn ogystal â chynrychiolwyr busnesau allweddol. Mae cynnal unrhyw ddigwyddiad mawr—ac mae’n debyg mai dyma’r digwyddiad mwyaf y gall Cymru ei gynnal—yn cynnwys buddsoddiad sylweddol os ydych am iddo lwyddo. Yr oedd cyfanswm ein cyllid uniongyrchol fel Llywodraeth yn £42.9 miliwn, a chafodd tua £38 miliwn ohono ei sianelu drwy Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyfyngedig i gyflawni’r ymrwymiadau penodol a wnaethpwyd yn y cais, gan gynnwys Haf o Golff a’r gronfa etifeddiaeth y soniais amdani’n gynharach ynghyd â'r digwyddiad 'Croeso i Gymru' a'r gweithgareddau cysylltiedig eraill yn ystod wythnos Cwpan Ryder. Yn ogystal â hyn, cafwyd nifer o gostau eraill a oedd yn cefnogi’r prosiect Cwpan Ryder yn uniongyrchol, ond byddent wedi codi i raddau mwy neu i raddau llai mewn cyfnod busnes arferol beth bynnag—er enghraifft, buddsoddi mewn datblygu golff a hyrwyddo twristiaeth golff. Ar wahân i hynny, darparodd Gwpan Ryder linell amser bendant ar gyfer prosiectau hirdymor eraill megis ailddatblygu gorsaf drenau Casnewydd, gwella seilwaith ffyrdd lleol, a gwelliannau i ganol Casnewydd fel rhan o’r cynllun adfer ehangach. Bydd y buddsoddiadau hyn yn gadael rhywbeth hirhoedlog ar eu holau.

 

Byddwn ar fai pe na fyddwn yn cyfeirio at y buddsoddiad sylweddol a wnaeth Syr Terry Matthews. Yr oedd ei gyfraniad yn hanfodol a bydd yn sicr yn cyfrannu at economi Cymru am lawer o flynyddoedd i ddod. Yn gyfnewid am hyn, a thu hwnt i’r buddiannau twristiaeth golff yr ydym eisoes wedi’u gweld, mae’r digwyddiad wedi bod o fudd i fusnesau lleol, o wasanaethau arlwyo i wasanaethau adeiladu ac o gwmnïau peirianneg i westai ac argraffwyr. Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru hefyd wedi cael budd oherwydd yr oeddem yn defnyddio cynhyrchwyr lleol lle bynnag y bo’n bosibl.  Gwnaethom sicrhau bod ymdeimlad Cymreig i’r digwyddiad gyda’n brandio, y bwyd yr oeddem yn ei gynnig a’r cyflenwyr yr oeddem yn eu defnyddio. Mae astudiaeth lawn o’r effaith economaidd wrthi’n mynd rhagddi, sy’n cynnwys yr wythnos ei hun, a chyfarfu’r Dirprwy Brif Weinidog, y Gweinidog dros Dreftadaeth a minnau â swyddogion yn gynharach heddiw i drafod sut mae adeiladu ar lwyddiant y gwaith hyd yma, a'r dyddiad ei hun, er mwyn cyflawni buddion hirdymor ym maes twristiaeth, yr economi a datblygu golff ac er mwyn edrych ar ein perfformiad. Byddwn yn ystyried sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant ar gyfer dyfodol Cymru yng nghyd-destun cynllun adnewyddu’r economi a lansio'r strategaeth digwyddiadau mawr.

 

Ar ôl hynny, sut mae mesur yr ewyllys da a gynhyrchodd y digwyddiad ar gyfer Cymru? Gosododd y digwyddiad ‘Croeso i Gymru’ y naws ar gyfer yr wythnos a manteisiodd ar lawer iawn o ewyllys da, a oedd yn ddefnyddiol wrth weithio gyda phartneriaid er mwyn bodloni’r heriau o ran tywydd yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ynghyd â Chwpan Ryder ei hun, llwyddodd ‘Croeso i Gymru’ greu proffil byd-eang ar lefel nad oedd Cymru wedi’i gweld o’r blaen. Amcangyfrifwyd bod y rhaglenni teledu o’r gemau wedi cyrraedd miliynau o gartrefi ym mhedwar ban byd, a chafodd y digwyddiad sylw gan newyddiadurwyr o bob cwr o’r byd.

 

I gloi, hoffwn ddiolch i'r 80 aelod o staff a fu’n helpu i gyflwyno’r digwyddiad, ni welodd llawer ohonynt yr un bêl hyd yn oed. Bu staff o amrywiol adrannau Llywodraeth y Cynulliad a chyrff allanol yn gweithio'n ddiflino er mwyn cyflawni stori lwyddiannus 'Tîm Cymru'. Diolch yn fawr iawn iddynt, yn ogystal â holl dîm Syr Terry yng Ngwesty'r Celtic Manor ac, yn enwedig, y staff a oedd yn gyfrifol am ofalu am y cwrs. Fel y dywedodd Colin Montgomerie yn y seremoni gloi,

 

‘roedd y byd yn gwylio a chyrhaeddodd Cymru’r nod'.