Ar 18 Mai 2010, cyhoeddais adroddiad gan PricewaterhouseCoopers ar y gost o weinyddu addysg yng Nghymru. Mae’r adroddiad wedi cael cefnogaeth eang ac wedi cael ei dderbyn ar draws yr holl sectorau addysg.
Er mwyn symud ymlaen i weithredu argymhellion yr adroddiad rwyf wedi ffurfio Bwrdd Rhaglen yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, sy’n cael ei gadeirio gennyf i, ynghyd â nifer o weithgorau i archwilio cyfleoedd penodol ac i fwrw ymlaen â hwy. Mae’r grwpiau hyn yn defnyddio eu harbenigedd eu hunain ac yn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion a’r awgrymiadau a gefais gan benaethiaid sefydliadau a’r cyrff y maent yn eu cynrychioli. Mae’r grwpiau eisoes yn symud ymlaen yn dda o ran creu rhaglen drawsnewid i gael y gorau posibl o’r lefel o adnoddau sydd ar gael ar gyfer cyflawni gwasanaethau rheng flaen.
Fy nod yw sicrhau fod y system addysg yn cael ei llunio yn y fath fodd fel y bydd yn gwella perfformiad yn gyson ac yn gwella cyrhaeddiad dysgwyr o bob oed ledled Cymru. Mae rhoi mwy o adnoddau i’r rheng flaen yn hanfodol i gyflawni hynny. Bydd yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen yn helpu i wella perfformiad ar draws y system addysg yng Nghymru ac yn fy helpu i ymwreiddio dulliau o gynllunio a chyflawni gwasanaethau sy’n gydweithredol ac sy’n cael eu harwain gan gonsortia.
Mae’r Adolygiad hwn yn ategu gwaith y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi sy’n anelu at ysgogi arloesedd a hyrwyddo cydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd gennyf ragor i’w ddweud am yr hyn rydym wrthi’n ei wneud yn Uwchgynhadledd nesaf y Gwasanaethau Cyhoeddus ar 25 Tachwedd.
Bydd casgliadau’r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cyhoeddus a fydd yn cyflwyno adroddiad i’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd, o ddiddordeb hefyd, yn arbennig y rheini sy’n cyfeirio at y cydweithio rhwng gwasanaethau cymdeithasol a meysydd eraill megis gwasanaethau i blant a phobl ifanc.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Estyn ataf yn tynnu sylw at yr enghreifftiau niferus o gydweithredu ar draws awdurdodau lleol. Maent yn awgrymu fod yr awdurdodau yn barod i gydweithredu lle gallant weld mantais o wneud hynny. Serch hynny maent wedi dweud hefyd fod gormod o amrywiaeth ar hyn o bryd yn ansawdd y trefniadau ar gyfer cydweithredu a bod y systemau i herio a gwerthuso effaith y cyfryw drefniadau ar safonau ac ansawdd addysg i ddysgwyr yn anaeddfed. Dywed Estyn na chafodd unrhyw awdurdod lleol radd 1, yn y cylch 6 mlynedd diwethaf o arolygiadau, am yr holl feysydd gwaith nac am yr holl gwestiynau allweddol, a bod ansawdd yr hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol ac aelodau etholedig ar gyfer deall perfformiad ysgolion yn amrywio o ran ansawdd. Hefyd, nid yw’r staff bob amser yn cael eu dwyn i gyfrif am eu perfformiad; nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn herio gwasanaethau drwy werthuso eu heffaith ar blant a phobl ifanc ac ni allant ddangos bob amser eu bod yn cael gwerth da am arian. Gellir gweld llythyr Estyn yn y llyfrgell.
Ar 28 Medi, cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol y byddai’n comisiynu astudiaeth annibynnol er mwyn rhoi fframwaith cliriach ar gyfer cyflawni’r gwasanaethau hynny a ddarperir ar hyn o bryd gan bob un o’r 22 awdurdod lleol. Rwyf am adeiladu ar hyn a symud ymlaen yn gyflym ag ef yn achos y ddarpariaeth addysg, ond ar sail ehangach na dim ond gwasanaethau awdurdodau lleol yn unig. Mae’n hollbwysig ein bod yn uno’n gwaith er mwyn osgoi dyblygu ac er mwyn cadw’n dull o weithredu yn syml.
Rwyf wedi trafod gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol sut orau i wneud hyn ac i gwrdd â’m nodau a’m hamcanion. Rydym wedi dod i’r casgliad mai’r ateb mwyaf priodol yw fy mod yn ystyried trefniadaeth addysg o fewn awdurdodau lleol, fel rhan o’r sector addysg cyfan law yn llaw â’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen. Er mwyn cyflawni hyn rwyf wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried yr achos dros newid y strwythurau gwasanaeth presennol (ac eithrio addysg uwch). Bydd y grŵp hwn yn medru cysylltu â grŵp cyfeirio’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol fel y bo’r angen.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried a yw’r strwythurau addysg yn hybu ac yn cefnogi darparu gwasanaethau gwerth gorau i ddinasyddion Cymru, a bydd yn edrych ar y system gyfan dros y tymor hir. Bydd yn cydredeg â rhaglen yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, gan gysylltu â’r gwaith hwnnw a bod yn elfen o her allanol.
Bydd y grŵp yn ystyried yr achos dros newid y strwythurau gwasanaeth presennol a’r trefniadau llywodraethu, a bydd yn ystyried yn benodol pa wasanaethau addysg:
y dylid eu cynnig ar lefel genedlaethol;
y dylid eu darparu ar lefel consortia rhanbarthol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;
y dylid eu darparu ar lefel awdurdod lleol;
y dylid eu datganoli i ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion neu glystyrau o ysgolion;
y dylid eu darparu ar y sail ofodol neu drefniadaethol gorau bosibl arall.
Bydd y grŵp hefyd yn clustnodi’r goblygiadau ar gyfer ariannu, cynllunio a llywodraethu gwasanaethau sy’n deillio o’r pwyntiau uchod.
Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys pedwar arbenigwr o’r sector annibynnol, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi fod y bobl ganlynol wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn:
Cadeirydd: Viv Thomas (Pennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gŵyr a Phennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Birchgrove. Cyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac ymgynghorydd ar yr Adolygiad Strategol o Addysg yng Ngogledd Iwerddon a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2006 ac a gadeiriwyd gan Syr George Bain).
Aelodau’r Grŵp:
Wil Edmunds (cyn Bennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy a chyn Gadeirydd ACCAC).
Bethan Guilfoyle (Pennaeth Ysgol Gyfun Treorci).
Dr Tim Williams (Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Navigant Consulting).
Brett Pugh (Brett Pugh (Prif Swyddog Addysg, Cyngor Dinas Casnewydd)
Bydd y grŵp yn rhoi adroddiad i mi am ei ganfyddiadau erbyn 31 Ionawr 2011 ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei argymhellion ar ffitrwydd y sector i ymateb, yn gyflym, i’r heriau sy’n wynebu addysg yn y blynyddoedd nesaf.