Er mwyn cydnabod Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth cyntaf y DU [Dydd Llun 18 Hydref] mae'n bwysig ystyried y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r camau y mae'n parhau i'w cymryd, i sicrhau na fydd Cymru yn dioddef unrhyw fath ar fasnachu pobl.
Mae'n ddychrynllyd meddwl fod pobl yn cael eu masnachu yng Nghymru. Camfanteisir ar ddynion, menywod a phlant yn y modd mwyaf ofnadwy ac erchyll. Nid masnachu pobl ar draws ffiniau rhyngwladol yw'r unig broblem ac rydyn ni'n dechrau cydnabod arwyddocâd masnachu mewnol, lle caiff menywod a phlant eu masnachu'n bennaf er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol. Mae hon yn drosedd guddiedig, ac nid ydym yn gwybod yn iawn faint o hyn sy'n digwydd. Ond yn ddiweddar mae'r heddlu wedi cael tystiolaeth ei fod ar gynnydd a bod y fasnach mewn pobl yn drydydd, ar ôl cyffuriau ac arfau, ar y rhestr o farchnadoedd mwyaf proffidiol y DU ar gyfer troseddwyr cyfundrefnol.
Mae'r Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth yn ein hatgoffa ni oll bod angen i ni gymryd y drosedd erchyll hon o ddifrif yma yng Nghymru. Fel cymdeithas, mae angen i ni sylweddoli fod hyn yn digwydd yn ein strydoedd a'n cymdogaethau, a chwestiynu beth rydyn ni'n ei weld. Mae'r Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth yn gyfle da i ni fyfyrio ar y camau a gymerwyd eisoes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i adnabod a delio â'r fasnach mewn dynion, menywod a phlant yng Nghymru.
Mae cyhoeddiadau diweddar - a phwysig - gan Gomisiynydd Plant Cymru a Joyce Watson AC wedi'n helpu i ddeall maint y broblem a hefyd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth am bresenoldeb y fasnach mewn pobl a chwalu'r 'diwylliant o anghrediniaeth' a fodolai cynt. Rydym yn croesawu'r adroddiadau hyn.
Ar ôl i'r Comisiynydd Plant gyhoeddi ei adroddiad ar y fasnach mewn plant - Ffiniau Pryder - ym mis Mawrth 2009 aethom ati i sicrhau fod y camau gweithredu yn gydweithredol ac yn cynnwys yr holl asiantaethau perthnasol, a'r rheini'n gweithio i atal plant rhag cael eu masnachu ac i ddiogelu plant sydd wedi cael eu masnachu.
Mae'r fasnach mewn plant yn drosedd neilltuol o erchyll ac mae angen i ni gydnabod ei bod yn digwydd. Hyd nes gwnawn hynny, ychydig o obaith sydd gennym o amddiffyn y plant agored i niwed hyn. Cyn belled ag y gwyddom o'r wybodaeth sydd ar gael, nid yw'r niferoedd yn fawr, ond y tu ôl i'r bob un o'r ystadegau hyn mae stori ddychrynllyd o gamdriniaeth a dioddefaint.
Ffurfiwyd grŵp amlasiantaeth i ystyried sut y gellid gweithredu'n genedlaethol a strategol i helpu'r asiantaethau perthnasol adnabod ac amddiffyn plant sy'n cael eu masnachu. Gwnaed archwiliad o'r gweithgareddau masnachu gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol a Byrddau Lleol Diogelu Plant i gael gwybodaeth ar gyfer cynlluniau gwaith yn y dyfodol ac i glustnodi ymhle y gallai'r gwendidau fod. Er mwyn rhoi hyd yn oed mwy o ddiogelwch i blant sy'n cael eu masnachu, mae Grŵp Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan wedi mynd ati i baratoi protocol Cymru gyfan ar y fasnach mewn plant a bydd y protocol yn rhan o'r gweithdrefnau cenedlaethol ar amddiffyn plant.
Heddiw, [dydd Llun 18 Hydref] i nodi Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth cyntaf y DU, rydym wedi lansio adnoddau hyfforddiant ar-lein er mwyn codi ymwybyddiaeth am y fasnach mewn plant ac i helpu ymarferwyr adnabod ac amddiffyn plant a allai fod wedi'u masnachu. Dyma'r ddarpariaeth gyntaf a baratowyd yn benodol ar gyfer cynulleidfa Gymreig ac sy'n adlewyrchu'r cyd-destun polisi Cymreig.
Mae Christine Beddoe, Cyfarwyddwr ECPAT UK, mudiad blaenllaw ym maes hawliau plant sy'n ymgyrchu yn erbyn camfanteisio’n fasnachol ar blant yn y DU ac yn rhyngwladol, wedi croesawu'r datblygiad hwn ac mae'n cefnogi ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth am y fasnach mewn plant. Mae'n gobeithio y caiff y cwrs hyfforddiant ar-lein ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol ledled Cymru a allai ddod ar draws plant sydd wedi'u masnachu.
Ym mis Medi, cyhoeddwyd ein bod yn sefydlu cydgysylltydd cyntaf Cymru yn erbyn y fasnach mewn pobl. Swydd blwyddyn yw hon, ond mae'n bosibl y caiff barhau, yn amodol ar adolygiad, am hyd at dair blynedd. Bydd y penodiad hwn yn sicrhau ein bod, dros y 12 mis nesaf, yn medru casglu tystiolaeth bendant am hyd a lled y galw yng Nghymru a darparu gwasanaethau perthnasol ar gyfer pobl yr effeithir arnynt eisoes. Bydd yn sicrhau fod yr arferion da sy'n bod eisoes o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn grwpiau agored i niwed yn parhau.
Cyn hynny, ym mis Mawrth eleni, lansiwyd ein hymgyrch Yr Hawl i fod yn Ddiogel sy'n amlinellu'r ymrwymiad i gefnogi dioddefwyr y fasnach mewn pobl.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr y fasnach mewn pobl, rydym yn rhoi cymorth grant i Black Association of Women Step Out i sefydlu prosiect peilot yng ngogledd Cymru yn y fasnach mewn pobl. Fel rhan o'r prosiect darperir cymorth priodol, llety a chymorth ariannol i ddioddefwyr drwy fod yn eiriolwyr drostynt, rhoi gwybodaeth iddynt a'u helpu i ddychwelyd i'w mamwlad os dyna yw eu dymuniad.
Mae'r fasnach mewn pobl yn digwydd am sawl rheswm, ond mae camfanteisio rhywiol yn elfen allweddol. Rydym wedi ymgynghori ar ganllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc a all fod yn agored i gam-fanteisio rhywiol, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau statudol terfynol ar ddiwedd y flwyddyn - gyda chymorth rhaglen o hyfforddiant i sicrhau bod modd gweithredu'r canllawiau'n effeithiol mewn asiantaethau allweddol.
Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 14 Hydref y bydd yn datblygu strategaeth newydd i fynd i'r afael â'r fasnach mewn pobl. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw llygad manwl ar y gwaith hwnnw i sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau newydd yn mynd i'r afael ag anghenion dinasyddion Cymru ac yn eu diwallu.
Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r peryglon sydd i'n cymdeithas gan bobl sy'n ceisio gwneud elw o'r fasnach mewn pobl ac wrth werthu dioddefaint pobl eraill ac ni fydd hyn yn cael ei oddef yng Nghymru.