Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Fe hoffwn roi diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiad pwysig ym maes adfywio: heddiw rwy’n lansio Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

 

Bydd yr Aelodau eisoes yn ymwybodol o’r Gronfa hon, a sefydlwyd o dan fenter JESSICA yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Awst, fe gyhoeddais fod Amber Infrastructure a Lambert Smith Hampton wedi’u penodi’n Rheolwyr y Gronfa a’r Buddsoddi.

 

Erbyn hyn mae’r gronfa ar agor. Ar hyn o bryd mae’n dal buddsoddiadau gwerth £55m gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Nod rheolwyr y gronfa yw sicrhau buddsoddiad arall gwerth £55m o’r sector preifat erbyn 2015.

 

Bydd y prosiectau addas yn cynnwys cyfleoedd datblygu graddfa ganolig a graddfa fawr gyda defnydd masnachol cymysg. Bydd y Gronfa hefyd yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi mewn meysydd eraill fel cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwastraff a seilwaith.

 

Y gofyniad cyffredinol yw y bydd y cyfleoedd buddsoddi newydd nid yn unig yn cael effaith barhaol ar yr ardaloedd sy’n cael eu hadfywio ond y bydd y cyllid hefyd yn cael ei ailgylchu fel y bydd mwy o bobl a lleoedd yn gallu manteisio yn y dyfodol.

 

Cafodd y Gronfa ei chreu am gyfnod cychwynnol o 12 mlynedd ac fe’i sefydlwyd fel cronfa fythwyrdd lle bydd yr enillion ar y buddsoddiad yn cael eu hailfuddsoddi mewn prosiectau newydd.

 

Mae hwn yn gyfle enfawr i Gymru ac, fel un o’r mentrau JESSICA cyntaf yn Ewrop i fod yn gweithredu’n llawn, mae hefyd yn arwain y ffordd ym maes Ariannu Datblygu Trefol ar draws Ewrop.  

 

Mae’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig yn fwy fyth gan y bydd y buddsoddiad yn cael ei wneud mewn prosiectau sy’n ailgylchu’r enillion yn ôl i’r Gronfa, sy’n hanfodol bwysig mewn cyfnod o doriadau difrifol mewn gwariant cyhoeddus.

 

Mae’r Gronfa’n rhan o’n hymrwymiad i ddenu cymaint o fuddsoddiad â phosibl ar gyfer prosiectau Adfywio ledled Cymru, ac mae hwn yn gam pwysig ymlaen i sicrhau ein bod yn adfywio ein cymunedau yn llwyddiannus ar gyfer y tymor hir, gan ddod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bobl leol.