Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cynnydd o ran rhoi ar waith argymhellion yr ymchwiliad e.coli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Fis Gorffennaf 2009, anerchodd fy rhagflaenydd y Cynulliad ar yr ymateb i’r adroddiad E.coli. Rwy’n teimlo’i bod yn briodol i mi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd ers hynny.

 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Awdurdodau Lleol, sy’n cymryd y rhan fwyaf o’r baich yn hyn o beth, wedi gwneud gwaith aruthrol.

 

Mae Rhaglen Gyflawni Hylendid Bwyd yr ASB yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a’r rheolaeth ar beryglon diogelwch ymysg busnesau, awdurdodau gorfodi cyfraith fwyd a chwsmeriaid. Mae hefyd yn ceisio rhoi sicrwydd ynghylch cydymffurfiaeth â safonau cyfreithiol drwy ddefnyddio mesurau gorfodaeth amserol, effeithiol a chymesur lle bo angen.

 

Mae’n cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar yr egwyddorion y dylid eu hymgorffori mewn arweiniad i fusnesau bwyd o bob maint sy’n delio â bwydydd amrwd a bwydydd parod, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddarparu offer ar wahân lle mae angen offer cymhleth ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd parod.

 

Mae wedi nodi ac adolygu’i holl arweiniad, gan gyfeirio’n benodol at reoli achosion o draws-heintio â E. coli O157 i hwyluso asesiad o’r ffordd y bydd y canllawiau newydd ar draws-heintio’n effeithio ar yr arweiniad cyfredol, naill ai i gymryd lle neu ddarparu gwybodaeth ategol, a sicrhau nad oes unrhyw gyngor yn gwrthddweud ei hun neu’n dyblygu heb fod angen, yn ogystal â diweddaru cyfeiriadau.

 

Mae hefyd yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant i Awdurdodau Bwyd er mwyn sicrhau bod gan bob swyddog gorfodi y sgiliau a’r ddealltwriaeth hanfodol. Mae pob aelod o staff rheolaethau cig swyddogol yn y maes ym Mhrydain wedi dilyn rhaglen hyfforddi mewn cydymffurfiaeth a gorfodaeth HACCP.

 

Mae Uned Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol yr ASB wedi comisiynu adolygiad o’r dystiolaeth i ymchwilio i ddiwylliant ac arferion busnesau a chyrff gorfodi, a’r ffyrdd y mae unigolion yn y ddau grŵp yn cyfathrebu â’i gilydd. Nod cyffredinol y gwaith yw deall ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol yn arbennig ym maes diogelwch bwyd, ond heb ei gyfyngu i’r maes hwn.

 

Mae’r ASB hefyd yn cynnal archwiliadau o awdurdodau lleol i ddilysu’u systemau gweithredu, gan roi arweiniad yn ôl y gofyn. Mae’r ASB mewn cysylltiad rheolaidd â’r Athro Pennington, cadeirydd yr Ymchwiliad. Anerchodd yr Athro gyfarfod y bwrdd ar 15 Medi 2010.

 

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru’n gweithio’n agos gyda’r ASB ac maent wedi rhoi’r argymhellion ar waith yn eu gweithdrefnau beunyddiol. Fe’u hymgorfforir mewn dulliau gwaith rheolaidd gyda chefnogaeth systemau gwaith gweithredol, ochr yn ochr â dilysu gan asiantaethau mewnol ac allanol.

 

Yng nghyfarfod bwrdd yr ASB ar 15 Medi, dywedodd yr Athro Pennington ei fod yn credu bod cynnydd da yn cael ei wneud a bod yr awdurdodau lleol hynny a feirniadwyd yn ei adroddiad wedi gweddnewid eu sefyllfa.

 

Gwnaeth yr Adroddiad ddau argymhelliad yn uniongyrchol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef:

 

“Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried fy argymhellion a monitro ac adrodd ar gynnydd o ran eu rhoi ar waith.”

 

“Dylid darparu adnoddau ychwanegol i sicrhau bod pob busnes bwyd yng Nghymru’n deall ac yn defnyddio’r dull gweithredu HACCP, a bod ganddynt system reoli diogelwch bwyd effeithiol sydd wedi’i chofnodi a’i hymgorffori yn y diwylliant a’r arferion gwaith.” 

 

Rwyf wedi gofyn i’r Prif Swyddog Meddygol fonitro’r cynnydd ac adrodd i mi’n briodol; byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n aelod o Grŵp Diogelwch Bwyd Llais Defnyddwyr Cymru, sy’n casglu ynghyd y rheini sy’n gyfrifol am roi’r argymhellion ar waith ac eraill sydd â buddiant uniongyrchol. Drwy aelodaeth o’r grŵp hwn a chyswllt uniongyrchol gan swyddogion y llywodraeth, gallwn fonitro ac adrodd ar weithgarwch.

 

Wrth benderfynu ar y setliad llywodraeth leol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth leol Cymru i asesu’r blaenoriaethau a’r pwysau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Sicrhaodd hyn gynnydd o 2.1 y cant (£81 miliwn) mewn cyllid heb ei neilltuo ar gyfer 2010-11 i alluogi awdurdodau lleol i ymgymryd â’u holl swyddogaethau, sy’n cynnwys archwilio a monitro safleoedd bwyd. Mae CLlLC wedi cydnabod bod y setliad hwn yn un teg, ond hefyd yn un anodd.

 

Ym mis Mehefin eleni, bum mlynedd ar ôl yr achos a ddeunaw mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, ysgrifennodd Prif Weithredwr CLlLC ataf yn amgáu Adroddiad Pwyllgor Cydlynu CLlLC ar y cyllid y bydd ei angen ar awdurdodau lleol er mwyn rhoi’r argymhellion ar waith. Rwyf wedi comisiynu’r ASB i ymchwilio i’r ffordd y caiff diogelwch bwyd ei reoli yng Nghymru a gwneud asesiad ar y sgiliau a’r adnoddau priodol i wneud hynny’n effeithiol.

 

Rwy’n gobeithio bod hyn yn dangos bod gwaith da wedi cael ei wneud, sydd wedi galluogi cynnydd sylweddol. Mae’r pwyslais ymysg awdurdodau lleol ar gynnal a chadw systemau newydd, gyda’r ASB ac eraill yn parhau i weithio ar dasgau tymor hwy.

 

Gallaf eich sicrhau bod y mater hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru.