Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Y Coleg Technegol Amddiffyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mae’r cyhoeddiad a wnaed heddiw gan Lywodraeth y DU bod y prosiect i sefydlu Coleg Technegol Amddiffyn yn Sain Tathan yn cael ei ganslo yn siom enfawr. Bydd hyn yn ergyd drom i’r gymuned leol gyda nifer sylweddol o swyddi a chyfleoedd lleol yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu colli.    

 

Dyma’r hyn fydd yn cael ei golli yn sgil y cyhoeddiad:

  •  Hyd at 2500 o swyddi hyfforddi a chymorth;
  • Hyd at 1500 o swyddi adeiladu
  • £700m - £800m o ran contract adeiladu’r Coleg Technegol Amddiffyn
  • £60m bob blwyddyn o ran yr arian fyddai’n dod i’r gadwyn gyflenwi sy’n gwasanaethu’r Coleg
  • Hwb ariannol blynyddol gwerth oddeutu £500m i economi Cymru o weithgareddau gweithredol
  • Hwb gwerth rhwng £270k a £540k i’r diwydiant twristiaeth lleol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio’n galed iawn i gefnogi uchelgais y Weinyddiaeth Amddiffyn i greu cyfleuster hyfforddi ar gyfer y llynges, y fyddin a’r awyrlu yn Sain Tathan. Hyd yn hyn, rydym wedi gwario dros £5m i gefnogi cynlluniau ailddatblygu Sain Tathan, sy’n cynnwys cynlluniau ar gyfer parc busnes awyrofod; ac rydym wedi dangos ein hymrwymiad i’r Coleg Technegol Amddiffyn trwy glustnodi hyd at £60m dros chwe blynedd i ddarparu’r seilwaith angenrheidiol i’r safle. Mae’r olaf yn cael ei ddiogelu trwy gytundeb gwarantu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Mae’r modd y mae’r cynlluniau wedi manteisio ar y safle unigryw hwn ac ar resymeg economaidd wedi’i gydnabod gan bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect.  Roedd y prosiect hwn yn cynnig y cyfle i ddefnyddio asedau o’r radd flaenaf sy’n bodoli eisoes, ac roedd yn hyrwyddo cynllun ailddatblygu cynhwysfawr mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Byddwn ni a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn mynd ati ar frys i edrych ar yr opsiynau ar gyfer denu buddsoddiad newydd i Sain Tathan, a byddwn yn pwyso’n galed i sicrhau bod Sain Tathan yn cael ei ystyried fel yr ateb i anghenion ei hystad yn y dyfodol o ran darparu hyfforddiant i aelodau’r lluoedd.