Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Diweddariad ar y refferendwm

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, y Brif Weinidog

Rwy’n falch o hysbysu Aelodau’r Cynulliad bod y Gorchymyn Refferendwm drafft wedi’i osod gerbron y Cynulliad heddiw. Cafodd ei osod ar y cyd ag adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar gwestiwn y refferendwm a’r Gorchymyn sy’n diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Mae’r Gorchymyn Refferendwm drafft yn amlinellu cwestiwn y refferendwm, sut y cynhelir y refferendwm a dyddiad y refferendwm. Dyddiad y refferendwm yw 3 Mawrth 2011. Y cwestiwn refferendwm yw’r fersiwn ddiwygiedig a gyflwynwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn sgil ei waith ymchwil. Mae’r Gorchymyn drafft hefyd yn gwneud darpariaethau manwl ynghylch y trefniadau pleidleisio a chyfrif.

 

Mae’r Gorchymyn Atodlen 7 drafft yn diwygio Atodlen 7 i Ddeddf 2006, sy’n rhestru’r pynciau y byddai’r Cynulliad yn gallu gwneud Deddfau’r Cynulliad yn eu cylch os bydd mwyafrif y pleidleiswyr yn pleidleisio o blaid yn refferendwm mis Mawrth. Mae’r Gorchymyn diwygio Atodlen 7 drafft yn diweddaru Atodlen 7 i adlewyrchu’r newidiadau yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ers 2007 a gyflawnwyd drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Deddfau Seneddol.

 

Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo’r ddau Orchymyn drafft hyn gyda’r mwyafrifoedd angenrheidiol, byddant yn cael eu hystyried gan ddau Dŷ’r Senedd cyn cael eu cyflwyno i’w Mawrhydi yn y Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol ym mis Rhagfyr.