Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Lleol, Rhanbarthol neu Genedlaethol? Gweithio i ddarparu gwasanaethau’n well ar draws llywodraeth leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod i Aelodau pwy yw aelodau’r Grwpiau Adolygu a Chyfeirio yr wyf wedi’u sefydlu i archwilio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau.

 

Ar 28 Medi, gwneuthum ddatganiad i’r Cynulliad yn disgrifio cam nesaf fy ngweledigaeth ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.  Esboniais fy nyhead i weld awdurdodau lleol yn datblygu’r cydweithio sydd eisoes yn digwydd ond gan fynd gam ymhellach a gofyn y cwestiwn tyngedfennol ynghylch pa wasanaethau sy’n cael eu darparu orau ac ymhle.

 

Wrth i’r gwasanaethau cyhoeddus ddygymod â’r sefyllfa ariannol cynyddol anodd ac wrth i’r galw am wasanaethau dyfu, mae gofyn i awdurdodau lleol chwilio am atebion mwy blaengar i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y galw a’r adnodd ariannol.  Mae’r Rhaglen Effeithiolrwydd ac Arloesi yn mynd ar ôl ac yn helpu i roi rhai o’r atebion hyn ar waith mewn ffordd strategol.  Er hynny, mae agweddau ar y gwaith y byddai’n well bod llywodraeth leol yn eu gwneud.  Rhan bwysig o hynny yw edrych ar gyfradd darparu’r gwasanaethau a pha drefniadau llywodraethu fyddai orau i gefnogi’r modelau darparu gwahanol.  Wrth reswm, bydd yr adolygiad hwn yn creu cysylltiadau cryf ac angenrheidiol â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Strwythur y Gwasanaethau Addysg a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

 

Rwyf wedi creu dau grŵp i gynnal yr adolygiad.

 

Bydd y Grŵp Adolygu’n cael ei arwain gan Joe Simpson o Ganolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol.  Bydd y Grŵp yn cynnal pob math o waith ymchwil ar draws awdurdodau lleol ac yn datblygu meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa wasanaethau fyddai’n fwy effeithiol pe baen nhw’n cael eu darparu trwy drefniadau llywodraethu gwahanol ar gyfradd mwy priodol a gwneud argymhellion ar sail hynny.

 

Mae nifer o arweinwyr o bob rhan o lywodraeth leol yn aelodau o’r Grŵp Adolygu, gan ddod â llwyth o arbenigeddau ymarferol a gwleidyddol i’r dasg.  Dyma ei aelodau:

 

Joe Simpson                 Cyfarwyddwr Gwleidyddiaeth a Phartneriaethau, Canolfan Arweinyddiaeth Llywodrae

                                   Leol

Virlina Choquette          Cynghorydd Datblygu Rhaglenni, Canolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol

Russell Roberts             CLlLC, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Paul Griffiths                 CLlLC, Cydgysylltydd Rhanbarth y De Ddwyrain

Jo Farrar, Cadeirydd      SOLACE, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr

Tracey Lee                   SOLACE, Prif Weithredwr, Cyngor Dinas Casnewydd

Paul O’Shea                  Cynrychiolydd y C.U.Ll

Trefor Jones                 Cynrychiolydd y Sector Preifat

Reg Kilpatrick                Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth y Cynulliad

Jane Holownia               Swyddfa Archwilio Cymru, Partner (Sylwedydd)

 

Rwyf wedi creu Grŵp Cyfeirio i roi tystiolaeth, syniadau a chynigion ar sail eu sgiliau, profiad a gwybodaeth i helpu’r Grŵp Adolygu.

 

Dyma ei aelodau:

 

Colin Everett             Is-gadeirydd, SOLACE, Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint

Geoff Petty                Cymdeithas Trysoryddion Cymru, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cyngor Sir Powys

Bruce Mclernan         Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol a Thai, Cyngor Sir Caerfyrddin

Giovanni Isingrini      Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Alan Sotheby            Cadeirydd, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio.  Swyddog Rheoli Datblygiad, Cyngor Sir Powys

Robin Staines          Cyd-Gadeirydd, Panel Prif Swyddogion Tai Cymru Gyfan.  Pennaeth Gwasanaethau Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin

Nicola Southall          Llywodraeth y Cynulliad, Caffael Cymru (sylwedydd)

 

Cyfarfu’r Gŵp Adolygu wythnos ddiwethaf am y tro cyntaf erioed, gan gytuno ar gylch gwaith a sut i fynd ati â’r dasg.  Mae trefniadau’n mynd rhagddynt nawr i ddod â’r Grŵp Cyfeirio ynghyd.

 

Rwy’n credu bod gennym gyfle unigryw ac amserol i ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau ac rwy’n rhagweld y bydd yr Adolygiad yn esgor ar gynigion ffres, blaengar a heriol, gan droi cefn ar geidwadaeth arferion y gorffennol a’r hyn sydd tan yn awr wedi bod yn dderbyniol er mwyn mynd ar ôl atebion fydd yn gwella gwasanaethau i’r dinesydd, yn gwneud y gorau o’n hadnoddau ariannol a dynol, ac yn arbed arian.