Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad ar ryddfreinio tramor gan Brifysgol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Bydd yr aelodau’n ymwybodol o ymchwiliad diweddar gan BBC Cymru i weithgarwch rhyddfreinio tramor Prifysgol Cymru. Yn arbennig, cyfeiriwyd at y canlynol:

  • coleg rhyddfraint Prifysgol Cymru ym Malaysia lle roedd y cyfarwyddwr gweithredol yn honni bod ganddo raddau oedd mewn gwirionedd yn rhai ffug;
  • coleg rhyddfraint Beiblaidd efengylaidd yn Nenmarc nad yw’n cael ei gydnabod gan y wladwriaeth ac sydd ond yn cyflogi staff sy’n credu mewn dehongliad llythrennol o’r Beibl.

Ymddengys fod canfyddiadau’r BBC ar raglen ddiweddar ‘Week in Week Out’ yn codi pryderon difrifol ynghylch proses ddilysu ac ansawdd rhyddfreinio tramor y Brifysgol. Mae’r awgrym yn y rhaglen nad oedd arolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd o’r coleg rhyddfraint ym Malaysia wedi gwirio dilysrwydd y graddau yr oedd cyfarwyddwr y sefydliad yn eu hawlio hefyd yn destun pryder.  

Rwy’n pryderu y gallai enw da rhyngwladol Prifysgol Cymru a sector addysg uwch Cymru yn ei gyfanrwydd ddioddef yn sgil hyn. Mae’n strategaeth Er Mwyn Ein Dyfodol yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod sector addysg uwch Cymru yn gryf ac yn ffynnu, gydag enw da ym mhob cwr o’r byd. Yn fy llythyr cylch gorchwyl i CCAUC, pwyleisiais yr angen i ddiogelu ansawdd brand Prifysgol Cymru. Rwyf eisoes wedi gofyn i’r Adolygiad Llywodraethu Addysg Uwch werthuso trefn lywodraethu a chyfeiriad strategol Prifysgol Cymru.

Er mwyn sicrhau y caiff camau pellach priodol eu cymryd i werthuso’r risg, nodi meysydd gwendid pellach a rhoi’r mesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu rhagddynt, rwyf wedi gofyn i CCAUC bwyso a mesur y materion a gododd yn rhaglen ‘Week in Week Out’ a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i mi er mwyn fy sicrhau bod y Brifysgol yn mynd i’r afael â’r materion yn wirioneddol ac yn effeithiol. Rwyf hefyd wedi gofyn i CCAUC werthuso a ellir barnu bod y Brifysgol wedi rhoi argymhellion adolygiad Medwin Hughes ar waith. Rwyf hefyd wedi codi’r mater hwn gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Rwy’n cyhoeddi’r llythyrau rwyf wedi’u hanfon heddiw at Gadeirydd CCAUC a Phrif Weithredwr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.

O ystyried pa mor ganolog yw ansawdd i system addysg uwch Cymru, mae’n hanfodol bod Prifysgol Cymru’n ymateb i’r materion sydd wedi codi mewn modd cyflym, trylwyr a thryloyw.

Rwy’n nodi i Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol dros Addysg, Dysgu a Gwelliant, mewn cyfweliad radio diweddar, ddatgan y byddai’r Brifysgol yn fodlon cydweithredu ag ymchwiliad gan Lywodraeth y Cynulliad. Rwy’n disgwyl felly i’r Brifysgol gydweithredu’n llawn ag ymholiadau CCAUC a’r Adolygiad Llywodraethu AU.

Bydd CCAUC a’r Adolygiad Llywodraethu AU annibynnol yn cyflwyno’u canfyddiadau i mi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.