Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ceisiadau am Fynediad i Gynllun Glastir yn 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, Y Gweinidog dros Materion Gwledig

Gofynnwyd i’r ffermwyr yng Nghymru sy’n bwriadu ymuno ag Elfen Cymru Gyfan cynllun Glastir yn 2012 gyflwyno eu ceisiadau erbyn 22 Tachwedd 2010. Mae cyfanswm o 2904 o geisiadau wedi dod i law.

 

Bydd fy swyddogion yn dadansoddi’r ceisiadau hyn o safbwynt lleoliad, aelodaeth o gynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol a Thir Mynydd, cefndir yn y sector, yr opsiynau a ddewiswyd a’r hectarau a gynhwyswyd. Rwy’n bwriadu sicrhau bod y gwaith ar gael i’r cyhoedd.

 

O’r cychwyn cyntaf, rwyf wedi pwysleisio bod angen i fanylion yr Elfen Cymru Gyfan fod yn ddigon hyblyg i addasu i amgylchiadau sy’n newid. Mae hyn wedi bod yn wir yn achos y cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol.  Mae’n bwysig, felly, ein bod yn ceisio gwella’r dull o weithredu Glastir yn barhaus, yn seiliedig ar brofiadau. Yn hynny o beth, rwy’n trefnu y bydd panel adolygu annibynnol yn ystyried yr agweddau ymarferol ar roi opsiynau Elfen Cymru Gyfan Glastir ar waith ar y fferm, ac yn cynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol.  Rwy’n bwriadu cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig manylach cyn y Nadolig.

 

Rwy’n rhagweld y bydd y broses adolygu wedi’i chwblhau erbyn mis Mawrth 2011.  Bydd hynny’n sicrhau bod modd inni esbonio unrhyw newidiadau’n llawn ac y bydd cyngor ar gael i lywio cyfnod ymgeisio Elfen Cymru Gyfan Glastir 2013 yr hydref nesaf.

 

Os digwydd i’r cynllun gael ei fireinio yn sgil argymhellion y panel, byddai’r rhai hynny sydd wedi ymgeisio am gontract Glastir ar gyfer 2012 ac wedi ymaelodi â’r cynllun yn cael dewis addasu eu contractau.  Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gallu elwa ar unrhyw newidiadau a gyflwynir. 

 

Yn achos y 2904 o geisiadau a gyflwynwyd, bydd y rhain yn cael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd sylfaenol. Wedi hynny, yn gynnar y flwyddyn nesaf, gwahoddir yr ymgeiswyr i drafodaethau un-i-un yn y Swyddfeydd Rhanbarthol er mwyn cwblhau’r broses o drefnu contract ffurfiol i ymuno â Glastir yn 2012. Yn ogystal â hynny, bydd y rheini sydd wedi ymgeisio eleni yn cael cefnogaeth i ymuno ag Elfen wedi’i Thargedu Glastir o 2013 ymlaen, yn ogystal â chynllun ynni ACRES.