Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Roi Organau a Meinwe

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Hoffwn roi’r diweddaraf o chi am y cynnydd ers 13 Gorffennaf 2010 pan gyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Roi Organau a Meinwe’n cael ei gynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol olaf y Llywodraeth hon.

 

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ar 13 Gorffennaf, mae’r llywodraeth hon wedi cynnal nifer o drafodaethau cyhoeddus ynghylch y mater hwn o roi organau, gan gynnwys ymgynghoriad ffurfiol ar opsiynau ar gyfer newid y system rhoi organau yng Nghymru. Roedd mwyafrif yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw’n cefnogi newid i system eithrio feddal. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â’r mater pwysig hwn.

 

Mae’r llywodraeth hon yn credu’i bod yn bwysig ceisio’r pwerau angenrheidiol i allu rhoi system Gymreig ar waith ar gyfer rhoi organau sy’n bodloni anghenion a dymuniadau pobl Cymru orau.

 

Rydym yn ceisio cymhwysedd deddfwriaethol er mwyn gallu gwneud deddfwriaeth i roi polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar waith, sef cyflwyno system eithrio ‘feddal’ i bobl sy’n byw ac yn marw yng Nghymru ar gyfer rhoi organau. Bydd yn hyn yn caniatáu tynnu organau ar ôl marwolaeth oni bai bod yr unigolyn wedi datgan ei fod yn gwrthwynebu a lle mae teulu’r unigolyn yn rhoi caniatâd. Ni fydd grwpiau penodol sy’n agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu cynnwys yn y system eithrio. Mae’n debygol mai pob person ifanc o dan 18 oed ac oedolion heb y gallu i wneud y penderfyniad fydd y rhain. 

 

Diben y ddeddfwriaeth hon yw cynyddu nifer yr organau sydd ar gael ledled y DU, nid dim ond i wella iechyd ond hefyd i wella safon bywyd y bobl sydd angen trawsblaniad.

 

Rydym yn gobeithio ennill y cymhwysedd gyda’r bwriad o roi’r cyfle i’r Cynulliad nesaf wneud deddfwriaeth newydd i Gymru.

 

Gallai’r Cynulliad ddefnyddio’r pwerau newydd i gyflwyno system eithrio o roi caniatâd ar gyfer rhoi organau. Byddai hyn ar ben cynnal y system gyfredol ar gyfer dewis rhoi organau sy’n weithredol ar lefel y DU.

 

Rwy’n credu’n gryf y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar nifer y bobl sy’n marw bob blwyddyn wrth aros ar y rhestr drawsblaniadau am roddwr addas.

 

Fodd bynnag, ni fydd hyn yn datrys y sefyllfa ar unwaith. Cyn cyflwyno unrhyw system eithrio ‘feddal’, byddwn yn ymgynghori ymhellach â dinasyddion Cymru, cwsmeriaid a rhanddeiliaid. Hefyd, ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth, bydd angen cyfnod interim i gyflwyno Rhaglen Gyfathrebu gynhwysfawr i sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru’n ymwybodol o’r ddeddfwriaeth arfaethedig fel y gallant ofyn i gael eu heithrio os ydynt yn dymuno hynny. Rydym wrthi’n ymchwilio i’r opsiynau ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r materion hyn.

 

Y Cynnydd Hyd yn Hyn ar yr LCO

 

Rwy’n falch o nodi ein bod yn gwneud cynnydd da ar geisio cymhwysedd deddfwriaethol. Ers mis Gorffennaf eleni, mae fy swyddogion wedi gweithio’n ddiflino i baratoi polisi a chyfarwyddiadau cyfreithiol i lywio’r gwaith o baratoi’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (“LCO”) drafft. Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda swyddogion cyfatebol yn Whitehall, yn Swyddfa Cymru ac yn yr Adran Iechyd fel ei gilydd, ac mae agwedd gydweithredol swyddogion yr Adran Iechyd yn y broses hon wedi rhoi sicrwydd i mi.

 

Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gofyn iddi geisio cymeradwyaeth gan y Twrnai Cyffredinol ac yna Cabinet y DU o ran yr LCO drafft a’r Memorandwm Esboniadol.

 

Rwy’n hyderus y bydd Llywodraeth y DU a’m cyd-aelodau yn y Cynulliad yn gwneud popeth yn eu gallu i hwyluso hynt yr LCO hwn, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gwneud deddfwriaeth dda er budd pawb. Rwyf am i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i swyddogion yn arbennig i helpu i hwyluso hyn.

 

Wrth i ni geisio deddfwriaeth i gyflwyno system eithrio ‘feddal’, nid ydym wedi bod yn llaesu dwylo, ac rwy’n falch iawn gyda’r camau sy’n cael eu cymryd i gynyddu nifer y trawsblaniadau o dan y system gyfredol ar gyfer dewis rhoi organau. Mae’n galonogol gweld cynnydd o 20% yn nifer y rhoddwyr yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf a hoffwn dalu teyrnged i bawb sy’n gysylltiedig â hyn, yn enwedig Grŵp Gweithredu Cymru ar gyfer Rhoi Organau (“WODIG”).

 

Fodd bynnag, ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon. Mae’r arolygon yn dangos bod 90% o bobl yn datgan eu bod yn cefnogi rhoi organau ond mai dim ond tua 30% o boblogaeth y DU sydd ar y Gofrestr Rhoi Organau.

 

Os ydych chi’n un o’r 90% sydd o blaid rhoi organau a meinwe, rwy’n eich annog i wneud rhywbeth am y peth drwy siarad gyda’ch teulu a rhoi gwybod iddynt am eich dymuniadau, ac yn bwysicaf oll rhoi’ch enw ar y Gofrestr Rhoi Organau heddiw.