Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Orthopedig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ddiwedd Rhagfyr 2009, cyflawnwyd ein hymrwymiad yn Cymru’n Un i fyrhau amseroedd aros i 26 wythnos ar y mwyaf, a chynhaliwyd y lefel honno bob mis hyd Fedi 2010. Dywedodd llawer nad oedd modd gwneud hyn, ond diolch i waith caled staff y GIG, fe’i cyflawnwyd. Mae hyn yn gryn gamp i’r GIG yng Nghymru, ac yn un y dylem ymfalchïo ynddi.

 

Y prif faes pryder o ran cynnal y targed fu orthopedeg, ac ers 2007 mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd gan feddygon teulu i adrannau orthopedig yng Nghymru wedi cynyddu 30% bron, a bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’r anawsterau presennol ledled Cymru ac, yn benodol, ym Myrddau Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan.

 

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros dros 36 wythnos wedi codi eto, gyda mwyafrif y cleifion hyn yn aros am driniaeth orthopedig naill ai ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro neu ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac oherwydd hyn pennwyd mesurau arbennig mewn perthynas â’r ddau sefydliad, a bydd hyn yn golygu cydweithio’n agos rhyngddynt ac uwch-swyddogion a’r Uned Cyflenwi a Chymorth i wella gwasanaethau.

 

Mewn blynyddoedd a fu, cadwyd rhestrau aros dan reolaeth drwy ddefnyddio’r sector preifat a thrwy wneud taliadau ychwanegol i ymgynghorwyr i gynnal mentrau. Nid yw hyn yn dderbyniol erbyn hyn, ac oherwydd y ffordd roedd rhestrau aros yn cael eu rheoli yn y gorffennol, ni ddefnyddiwyd dulliau cynaliadwy, a bu’n rhaid i’r Byrddau Iechyd Lleol newydd ddechrau o sefyllfa negyddol o ran capasiti.

 

Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa ym Myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro.

 

Rwy’n falch o allu dweud bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cynnal y targed 26 wythnos, gyda lefel perfformiad o 95.4%. Os tynnwch orthopedeg o’r darlun, mae lefel perfformiad y Bwrdd yn cynyddu i 98.8%. Ers 2005, mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd gan feddygon teulu i wasanaethau orthopedig wedi cynyddu 60% yn Aneurin Bevan. Bu’n bosibl i’r Bwrdd ddelio â hyn mewn blynyddoedd a fu, yn rhannol drwy ddefnyddio’r sector preifat a mentrau rhestrau aros.

 

Fodd bynnag, yn sgil yr ymrwymiad yn Cymru’n Un i ddiddymu’r defnydd o’r sector preifat, ac i Fyrddau Iechyd gyflwyno dulliau cynaliadwy, crewyd ôl-groniad sylweddol dros dro o ran apwyntiadau cyntaf cleifion allanol a thriniaethau. Mae’r Bwrdd, felly, wedi gweithredu cynlluniau i gynyddu capasiti orthopedig cynaliadwy, ac wedi ailsefydlu capasiti dros dro ychwanegol er mwyn gallu rhoi’r dulliau cynaliadwy ar waith. Dyma rai o’r camau a gymerwyd eisoes gan y Bwrdd Iechyd:

  • penodi ymgynghorwyr orthopedig ychwanegol. Mae un ymgynghorydd eisoes wedi dechrau, gyda dau arall i fod i ddechrau ym mis Rhagfyr a Ionawr 2011, er nad oedd modd i’r Bwrdd benodi llawfeddyg asgwrn cefn yn sgil prinder cenedlaethol;
  • mae theatrau llif laminar ychwanegol yn cael eu datblygu yn Ysbyty Nevill Hall i gefnogi’r ymgynghorwyr ychwanegol;
  • dechreuwyd rhaglen rhyngwyneb/brysbennu cyhyrysgerbydol arloesol yn yr haf, i fynd i’r afael â’r ôl-groniad cleifion allanol orthopedig drwy frysbennu ac ailgyfeirio atgyfeiriadau. Hyd yn hyn, aeth bron i 3,000 o achosion drwy broses brysbennu, gyda dros chwarter wedi’u hailgyfeirio i wasanaethau eraill;
  • mae darpariaeth ar gyfer pobl a fyddai wedi colli eu hapwyntiadau yn sgil seibiant astudio/gwyliau blynyddol ac mae locwm yn cael ei benodi i weithio’n hyblyg i gynyddu’r arfer hwn;
  • mae capasiti i roi triniaeth ychwanegol wedi’i fenthyg ar gontract o Ysbyty St Joseph am gyfnod byr. Caiff y gwaith hwn ei gyflawni gan staff y GIG;
  • mae rhestrau theatr anesthetig lleol wedi’u dechrau’n llwyddiannus yn Ysbyty Glowyr Caerffili gyda chynlluniau i ehangu hyn i restrau anesthetig cyffredinol yn yr wythnosau i ddod. Mae hyn wedi creu capasiti theatr ychwanegol yn Ysbyty St Woolos;
  • mae’r gwaith o ddatblygu rhestr o lawer o driniaethau epidwrol mewn ystafell driniaeth wedi creu capasiti llawdriniaeth ddydd ychwanegol i’w gwneud yn bosibl datblygu rhestrau cymalsyllu achosion dydd yn yr uned llawfeddygaeth ddydd;
  • gwelwyd gwelliant sylweddol yn y lefelau triniaeth ar sail cyntaf i’r felin ac mae prosesau ar waith i wella perfformiad ymhellach yn y maes hwn i sicrhau’r gwasanaeth gorau sy’n bosibl i gleifion 36 wythnos.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ymddiddori’n frwd yn hyn i sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei datrys mor gyflym â phosibl, ac wedi rhoi sicrwydd na fydd unrhyw gleifion orthopedig yn aros mwy na 36 wythnos erbyn diwedd Mawrth 2011.

 

Ac eithrio orthopedeg, mae Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro hefyd yn cynnal y lefel darged o 26 wythnos, ac ar ddiwedd Medi, nodwyd bod 98% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos. Mae Caerdydd a’r Fro hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion a gyfeirir gan feddygon teulu, ac ers 2005 mae’r nifer wedi cynyddu fwy na 30% ac mae angen inni gofio bod Caerdydd hefyd yn derbyn gwaith trydyddol arbenigol sy’n golygu y cyfeirir cleifion yno o bob rhan o’r De a’r Canolbarth.

 

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno ar nifer o gamau i helpu i wella perfformiad, yn eu plith:

  • Cynyddu gweithgarwch theatr 10-15%;
  • Ceisio penodi hyd at chwe llawfeddyg ychwanegol;
  • Gwella’r camau i liniaru poen gwaelod y cefn a fydd yn cynnwys rheoli poen a seicoleg, ac a gaiff eu hategu gan well addysg i gleifion a’r gallu i ofalu amdanynt eu hunain dan gyfarwyddyd meddyg teulu;
  • Ailgyfeirio llawfeddygaeth asgwrn cefn i Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg lle bo’n briodol;
  • Capasiti ychwanegol ar gyfer llawfeddygaeth cluniau gan ymgynghorwyr pen-glin sydd â’r arbenigedd a’r hyfforddiant priodol;
  • Adolygu protocolau cyfeirio lleol;
  • Clinigau cleifion allanol newydd ychwanegol ar gyfer cleifion sy’n aros am amser hir.

Yn anffodus, oherwydd yr ôl-groniad sylweddol yng Nghaerdydd, a’r bwlch sy’n parhau o ran capasiti, bydd nifer y cleifion sy’n aros dros 36 wythnos am lawfeddygaeth orthopedig yn parhau i godi, a’r darogan yw y bydd 1,965 o gleifion wedi bod yn aros ers dros 36 wythnos erbyn diwedd Mawrth 2011. Rwyf wedi mynegi fy mhryder i’r Bwrdd, ac wedi dweud wrthynt nad yw hyn yn dderbyniol a bod angen iddo wella.

 

Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol i’r Aelodau ynghylch y sefyllfa orthopedig ym Myrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan, ac ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau. Byddaf yn chwilio am welliannau dros y misoedd i ddod, ac yn parhau i roi gwybod i’r Aelodau beth yw’r sefyllfa.