Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Dyraniadau Refeniw 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Heddiw, dymunaf gyhoeddi y bydd £135 miliwn yn ychwanegol ar gael eleni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Bydd £110 miliwn o’r arian ychwanegol hwn yn cael ei roi i’r Gwasanaeth Iechyd.  Bydd yr arian hwn yn sicrhau fod gennym wasanaeth cadarn a all ddelio ag unrhyw bwysau fydd yn ei wynebu eleni. 

 

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi hefyd y bydd £25 miliwn ar gael ar gyfer Addysg.  Bydd yr arian yn darparu adnoddau ychwanegol i gydnabod y cynnydd yn nifer y myfyrwyr eleni.