Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Y Mesur arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Heddiw, rwyf wedi gosod y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru), ynghyd â’r Memorandwm Esboniadol, gerbron y Cynulliad. Byddaf yn gwneud

 

Datganiad Cyfreithiol Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher (8 Rhagfyr 2010) i gyflwyno’r Mesur yn ffurfiol. Bydd y mesur arfaethedig yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â chydweithio (sef ‘cydlafurio’ fel y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth) ar faterion addysg rhwng ysgolion, sefydliadau addysg bellach (SAB) ac awdurdodau lleol; llywodraethu ysgolion a ffedereiddio cyrff llywodraethu ysgolion; atal rhagor o ysgolion rhag newid categori i fod yn

ysgolion sefydledig, ac atal unrhyw ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu creu.

 

Yn benodol, cynigir fod y Mesur yn:

 

Cydweithio (‘Cydlafurio’)

  • Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff llywodraethu SAB, i ystyried sut y gallant, wrth arfer eu swyddogaethau addysg, weithio ar y cyd lle byddai hynny’n hybu’r nod o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon;

Ffedereiddio

  • Ailddeddfu pwerau presennol Cyrff Llywodraethu ac ehangu’r cysyniad o ffedereiddio drwy roi pŵer I awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer ffedereiddio eu hysgolion;
  • Rhoi pŵer i awdurdodau lleol gynnig a sicrhau ffederasiwn o ddwy neu ragor o ysgolion;
  • Darparu dull syml o ffedereiddio ysgolion bach fel na fydd gormod o fiwrocratiaeth yn rhwystr i awdurdodau lleol gynnig ffederasiynau.

Llywodraethu Ysgolion

  • Rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnig gwasanaeth Clerc, sy’n gymwys ac wedi’i hyfforddi’n briodol, i gyrff llywodraethu’r holl ysgolion a gynhelir ganddo.
  • Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu hyfforddiant penodol i lywodraethwyr.
  • Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnig hyfforddiant i glercod.
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru nodi manylion yr hyfforddiant i’w gynnig i glercod, a manylion yr hyfforddiant i’w ddarparu i lywodraethwyr.

Ysgolion Sefydledig

  • Diwygio deddfwriaeth bresennol fel na fydd, yng Nghymru, unrhyw gynigion i greu ysgolion sefydledig newydd nac i newid categori’r ysgolion presennol a gynhelir I fod yn ysgolion sefydledig.