Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad ar raglen ryngwladol asesu myfyrwyr (PISA) 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Ym mis Tachwedd 2009 cymerodd 132 o ysgolion yng Nghymru ran yn ail gylch asesu PISA; cyhoeddir y canlyniadau heddiw, Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2010.

Mae’r Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn arolwg o gyrhaeddiad addysgol a drefnir gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae PISA yn asesu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr pymtheg oed wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol. Mae dysgwyr yn cael eu hasesu ar sail eu cymhwysedd i fynd i'r afael â heriau bywyd go iawn yn cynnwys darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae'r nod hwn yn gwahaniaethu PISA wrth asesiadau eraill i fyfyrwyr sy'n mesur i ba raddau y maent wedi meistroli pynciau ysgol.

Cynhelir arolwg PISA bob tair blynedd. Bu’r arolwg PISA cyntaf yn 2000. Cymerodd Gymru ran am y tro cyntaf yn 2006. Mae nifer y gwledydd sy’n cymryd rhan wedi cynyddu bob blwyddyn; cymerodd 65 o wledydd ran yn 2009. Roedd 33 o’r gwledydd hynny’n aelodau o OECD.

Cyhoeddir yr adroddiad cenedlaethol yn nodi canlyniadau PISA Cymru ar wefan rheolwr raglen genedlaethol PISA Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sef y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Addysgol (NFER) www.nfer.ac.uk/pisa

Cyhoeddir yr adroddiad rhyngwladol sy’n dadansoddi perfformiad PISA ar draws y 65 gwlad fu’n cymryd rhan yn: www.pisa.oecd.org. Mae mwyafrif y cyfeiriadau yn yr adroddiad rhyngwladol ar sail y DU.  

Rwy'n disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol gynnal hunanwerthuso cadarn wedi’i seilio ar dystiolaeth; yn yr un modd mae’n rhaid i ni ddefnyddio offer fel PISA i ystyried ein perfformiad a’n cynnydd mewn cyd-destun rhyngwladol.  

Nid oedd ein canlyniadau cystal ag y byddem wedi dymuno yn asesiadau PISA 2006 ac yr oeddem yn gobeithio byddai’n polisïau yn cynhyrchu gwelliannau erbyn asesiadau 2009.  

Yn anffodus nid dyna ddigwyddodd. Mae ffigyrau 2009 yn rhoi darlun mwy siomedig fyth o’n perfformiad a’n cynnydd.  

Roedd sgôr gymedrig Cymru mewn darllen a mathemateg yn arwyddocaol is na chyfartaledd OECD a’n cymheiriaid yn y DU. Roeddem yn agos at gyfartaledd OECD mewn gwyddoniaeth, ond eto yn arwyddocaol is na pherfformiad gwledydd eraill y DU.  Roedd sgôr gymedrig Cymru a’n ‘safle’ rhyngwladol ar gyfer y tri maes yn is nag yn 2006.  

Mae PISA yn fesur cadarn ac uchel ei barch o berfformiad cymharol systemau addysg. Ni ellir dadlau dros nac esgusodi’r canlyniadau hyn. Mae’n rhaid i ni wynebu’r gwirionedd llym; nid yw ysgolion yng Nghymru yn cyflawni’r canlyniadau mae ein pobl ifanc eu hangen ac yn eu haeddu.

Ni ellir defnyddio’r esgus o statws economaidd-gymdeithasol isel na natur ddwyieithog ein cenedl a’n system addysg i esbonio’r canlyniadau. Does dim esgus chwaith o lefelau cyllido cymharol isel  –  mae gwariant y pen ar addysg yn y Ffindir yn debyg i Gymru ac edrychwch ar eu sgoriau PISA nhw; mae Lwcsembwrg yn gwario llawer mwy na Chymru ond dydyn nhw ddim yn perfformio’n well na Chymru mewn darllen ac maen nhw’n waeth mewn gwyddoniaeth; mae Seland Newydd yn gwario llai y pen ond yn perfformio’n llawer gwell na ni.

Mae’n rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb am y broblem a’i datrys. Mae angen i ni newid pwyslais ar safonau uwch, gosod ein disgwyliadau a’n huchelgeisiau’n uchel ac edrych am welliannau ym mhob agwedd o’n system.

Mae gan bobl ifanc yng Nghymru yr un potensial â phobl ifanc ar draws y byd.  

Bydd llawer o’r hyn sydd angen i ni wneud yn mynd i fod yn anodd ac yn mynd i gymryd amser. Bydd angen onestrwydd, arweiniad a dull newydd o atebolrwydd. Mae ein pobl ifanc yn haeddu gwell ond rwy'n hyderus y gallaf ddibynnu ar y sector cyfan i gefnogi’r camau gweithredol sy’n angenrheidiol i sicrhau newid cadarnhaol a pharhaus.