Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Addysg Gerdd ar gyfer dysgwyr 3-19

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Heddiw rwy’n cyhoeddi adroddiad ar yr Adolygiad o Addysg Gerdd ar gyfer dysgwyr 3-19 oed a gomisiynwyd gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ym mis Awst 2009. Lluniwyd yr adroddiad gan weithgor a oedd yn cynnwys ymarferwyr o ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ynghyd â chydweithwyr o Estyn a chyrff sy’n gweithio’n agos â’r sector addysg, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Tasg y gweithgor oedd adolygu’r ddarpariaeth gerddorol bresennol yn y cwricwlwm a’r ystod o gymorth arbenigol a roddir i ysgolion ac eraill, yn bennaf gan y Gwasanaeth Cerddoriaeth. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r cyfleoedd ar gyfer gwella’r ddarpariaeth a’r cyfleoedd i ddatblygu drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff lleol a chenedlaethol.  

 

Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Cadeirydd, Emyr Wynne Jones, ac aelodau’r gweithgor am eu gwaith. Mae’r adroddiad yn nodi 16 o argymhellion. O ran yr argymhellion hynny sydd wedi’u cyfeirio at bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau, mae camau yn cael eu cymryd er mwyn tynnu eu sylw atynt.

 

Mae cerddoriaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i’n diwylliant ac i les pobl ifanc. Rwyf felly’n croesawu’r adroddiad ac wedi derbyn y mwyafrif o’r argymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae angen ystyried rhai ohonynt ymhellach, ond ar y cyfan maent yn gyson â chyfeiriad presennol ein polisïau. Rwy’n croesawu’n enwedig argymhellion y grŵp ar bwysigrwydd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Ymarferwyr mewn ysgolion er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd ar gyfer cerddoriaeth sydd wedi’u seilio’n gadarn yn y cyfnod sylfaen mewn  addysg gynradd ac mewn addysg uwchradd. Yn ogystal, o ran y Cymunedau Dysgu Proffesiynol, rydym eisoes yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i gefnogi’r defnydd ehangach o Gymunedau Dysgu Proffesiynol  er mwyn bwrw ymlaen â gwelliannau.

 

Yr wyf hefyd wedi tanlinellu’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Felly mae argymhelliad y gweithgor ar y cyfle i resymoli’r gefnogaeth a ddarperir i ysgolion gan Wasanaethau Cerdd yn gyfraniad gwerthfawr i’r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen a’r gwaith parhaus i strwythuro dysgu er mwyn sicrhau gwelliant parhaol. Byddaf yn gofyn i awdurdodau lleol ystyried yr adroddiad yn ofalus. Byddaf hefyd yn ei roi i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strwythur Addysg.

 

Mae’r adolygiad a’r datganiad o weledigaeth a ddatblygwyd gan y grŵp yn sail gadarn er mwyn i bartneriaid allu parhau i wella’r ystod o gyfleoedd a ddarperir ar gyfer cerddoriaeth ac ansawdd y ddarpariaeth honno. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan yn y gwaith. Mae copi o fy ymateb i’r 10 o argymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gael yn Atodiad 1. Mae copi o adroddiad y gweithgor ar Addysg Gerdd ar gyfer dysgwyr 3-19 oed ar gael yn Atodiad 2.