Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Hynt y Gwaith o Wella Gwasanaethau Newyddenedigol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mis Medi, addewais roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynt y gwaith sy'n cael ei wneud i wella gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru, a hynny cyn y toriad. Mae'n bleser gennyf nodi bod llawer o waith wedi'i wneud, ers imi groesawu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, i wella gwasanaethau ar gyfer babanod sâl a rhai sydd wedi'u geni'n gynnar a'u teuluoedd, gan ddefnyddio'r £2 miliwn ychwanegol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i ddarparu.

Mae'n bleser gennyf nodi bod Neonatolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'i benodi'n Glinigydd Arweiniol Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru a bod swydd Rheolwr y Rhwydwaith Newyddenedigol hefyd wedi'i llenwi.  

Bydd Rhwydwaith Clinigol Newyddenedigol Cymru yn hwyluso'r gwaith o wella ansawdd gofal ar draws pob uned yng Nghymru sy'n cynnig unrhyw un o'r tair lefel o ofal newyddenedigol. Un o'i brif ddibenion yw helpu unedau i gydymffurfio â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, sydd wedi'u datblygu gan Brosiect y Gwasanaethau Arbenigol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Mae Grŵp Llywio Newyddenedigol Cymru wedi'i sefydlu'n llawn erbyn hyn, ac mae'n cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Cynllunio a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae hwn yn gweithredu fel grŵp cynghori Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, lle mae Byrddau Iechyd yn dod at ei gilydd i gynllunio a sicrhau gwasanaethau newyddenedigol ledled Cymru, a'r Rhwydwaith.

Byrddau Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau newyddenedigol yn eu hardal yn bodloni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, a diben y Grŵp Llywio a'r Rhwydwaith yw cydgysylltu'r dull a ddefnyddir ledled Cymru a sicrhau bod manteision cydweithio yn cael eu gwireddu.

Mae'r Grŵp Llywio hefyd wedi sefydlu nifer o is-grwpiau – arweinir pob un ohonynt yn glinigol fel a ganlyn:

Gwasanaethau Cludo Babanod Newyddanedig – cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaethau cludiant newydd

Gwybodaeth Glinigol – arwain a chydgysylltu'r gwaith o weithredu'r system wybodaeth ar draws y rhwydwaith

Nyrsio a Therapïau – arwain a chydgysylltu'r gwaith o gynllunio gweithlu nyrsys newyddenedigol a datblygu hyfforddiant ar draws y rhwydwaith.

Erbyn hyn, mae Byrddau Iechyd Lleol wedi cwblhau asesiad i ddangos i ba raddau y maent yn cydymffurfio â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, ac maent wedi cyflwyno'r canlyniadau hyn i'r Rhwydwaith. Mae'r Rhwydwaith hefyd wedi cynnal adolygiad o gapasiti'r gwasanaethau newyddenedigol presennol ledled Cymru.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth sylfaenol hon, mae'r Rhwydwaith yn llunio themâu i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol. Wedyn, caiff hwn ei ddefnyddio i weithredu rhaglen waith barhaus y Rhwydwaith a'r Byrddau Iechyd Lleol.

Yn ogystal â'r gwaith pwysig hwn, mae'n bleser gennyf nodi bod gwaith wedi'i wneud i sefydlu'r gwasanaeth Cludo Babanod Newyddanedig 12 awr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.  Mae disgwyl i ddau wasanaeth cludo babanod newydd-anedig, un yn y De ac un yn y Gogledd, ddechrau ar 3 Ionawr 2011. Bydd y gwasanaethau hyn yn trosglwyddo, lle y bo'n glinigol briodol, fabanod sâl a rhai sydd wedi'u geni'n gynnar rhwng unedau i sicrhau eu bod yn derbyn gofal digon dwys.  Er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy, mae 6 ymgynghorydd ychwanegol wedi'u penodi yn y De, mae un ymgynghorydd ychwanegol wedi'i benodi yn y Gogledd ac mae un arall yn cael ei recriwtio. Bydd un o'r 6 swydd yn y De yn cael ei llenwi drwy drefniadau wrth gefn yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf oherwydd absenoldeb mamolaeth a gofynion hyfforddi sy'n cael eu cwblhau.

Yn ogystal â'r staff meddygol, mae 6 nyrs newyddenedigol wedi'u penodi yn y De ac mae 2.75 o staff sy'n gweithio oriau sy'n gyfwerth ag amser cyflawn wedi'u penodi yn y Gogledd. Bydd y gwasanaethau yn gweithredu 12 awr y dydd o 3 Ionawr 2011 ymlaen, ac mae gwerthusiad wedi'i gynllunio ar gyfer chwe mis yn ddiweddarach, er mwyn ystyried hyfywedd newid i wasanaeth 24 awr yn y dyfodol.  

Mae'n rhaid i'r holl ofal iechyd fod yn seiliedig ar archwiliadau clinigol.  Erbyn hyn, mae'r system archwilio clinigol newyddenedigol, BadgerNet, wedi'i chaffael gan bob Bwrdd Iechyd, ac mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn ceisio cytundeb gan bob un o'r Byrddau Iechyd fel y gall yntau gael gafael ar ddata lleol. Bydd pob uned yn dechrau nodi data byw yn ystod mis Rhagfyr, a bydd y system yn mynd yn fyw yn ffurfiol ym mis Ionawr 2011. Bydd y system archwilio hon yn sicrhau bod modd i'r Byrddau Iechyd Lleol gael gafael ar ddata clinigol o ansawdd uchel i helpu'r broses archwilio clinigol a chynllunio gwasanaethau ledled Cymru. Pan fydd gweddill y DU yn defnyddio rhannau o'r system BadgerNet, Cymru fydd y wlad gyntaf i ddefnyddio'r system estynedig ddiweddaraf.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau newyddenedigol yn cael eu gwella i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y babanod mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r gwaith hwn yn agos.