Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Strategaeth iaith: ymgynghoriad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Am 1.00 yp heddiw, byddaf yn cyhoeddi’r ddogfen ymgynghorol ar y strateagaeth iaith.

 

Mae’r ddogfen yn cynrychioli carreg milltir arall i’r Llywodraeth, wrth i ni osod mewn lle darn arall o’r jig-so i warchod a hybu’r Gymraeg.  Fel rydych yn gwybod, fe wnaeth y Cynulliad gymeradwyo’r Mesur Iaith Dydd Mawrth diwethaf, ac mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi strategaeth addysg gyfrwng Cymraeg. 

 

Ein bwriad, wrth ymgynghori ar y strategaeth iaith yw adeiladu ar y weledigaeth a amlinellir yn Iaith Pawb er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd. 

 

Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned, ymysg plant a phobl ifanc, yn y gweithle ac o fewn gwasanaethau ar gyfer y dinesydd. Wrth wneud hynny byddwn yn ceisio cryfhau'r seilwaith sy'n cefnogi'r defnydd o'r iaith.

 

Bydd copi o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar adran ymgynghori gwefan Llywodraeth y Cynulliad o 13:00, 13 Rhagfyr 2010.